Yn Gatalaneg, Gal·les yn hytrach na Gal.les. És la 'ela geminada' (una l hir, er bod yr l hir wedi diflannu o'r iaith erbyn hyn - mae fel 'y' ac 'u' yn y Gymraeg - yr un ynganiad iddynt erbyn heddiw (Cymry, Cymru), ond yn ein hatgoffa eu bod yn wahanol ar un adeg.
Mae llawer yn ysgrifennu l.l yn lle l·l - y 'punt volant' yw'r enw ar y dot uwchben y llinell, y 'dot hedegog'. Mae'n debyg ei bod yn haws wrth ddefnyddio teipiadur neu lythrennau gwasg Gastilaidd ("Sbaeneg") i ddodi dot ar y llinell. Erbyn hyn, mae'n hawdd teipio l·l ar fysellfwrdd cyrifiadur.
Rwy'n cofio bu tipyn o gynnen rai blynyddoedd yn ôl am i'r Awdurdod Trafnidiaeth yma yn ninas Barcelona ddodi l.l ar ei arwyddion. Fe cynigion nhw’r esgus ei fod yn weithred fwriadol, iddyn nhw ei wneud am ‘resymau esthetig’! (Digwyddod peth tebyg ar stamp Iwerddon rai blynyddoedd yn ôl - yr arlunwyr wedi rhoi EIRE (= baich, llwyth) yn lle ÉIRE (â’r ‘fada’ - yr acen ddyrchafedig) - rhoddwyd y stampiau ar werth, bu cryn helynt ynghylch y peth,a chafwyd yr un esgus gan y llywodraeth - ‘rhesymau esthetig’!
Wn i ddim a newidiwyd y l.l gan yr Awdurdod Trafnidiaeth yn y diwedd - rwy'n teithio ar y metro bob dydd yma, ond heb fynd i orsaf Paral·lel yn aml. Bydd rhaid imi sylwi’n fanwl ar yr arwyddion y tro nesaf.
John Morris Jones/ A Welsh Grammar / 1913, tudalen 25
“In Middle Welsh the
ll sound is represented by
ll, in some manuscripts e.g. the Red Book of Hergest, it is ligatured thus (
ac mae yma sumbol o ll â chyfrwymiad drosti) enabling it to be distinguished from double l as in
callon Red Book Mabinogion page 106 ‘heart’,
Iollo Red Book Poetry, pages 1368, 1407,
kollyn Red Book of Hergest page 1073 ‘pivot’, which we now write
calon, Iolo, colyn”
Tudalen 25:
http://img71.imageshack.us/my.php?image=1455jmjwelshgrammar1913254as.jpg
Gramadeg John Morris-Jones yn ei grynswth:
http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_gramadeg/gramadeg_1913_jmj_welsh_grammar_1_phonology_2489e.htm
Pe byddai John Morris-Jones wedi bod yn gyfarwydd â’r iaith Gatalaneg, efallai y byddwn ni erbyn heddiw yn ysgrifennu cal·lon, Iol·lo, col·lyn yn y Gymraeg!