gan Meg » Sul 27 Awst 2006 9:54 am
Dwi'n meddwl mod i'n dechra drysu. Dwi'n cofio dod o hyd i wefan drwy un o'r edefynnau yma lle roedd modd trafod yn Sbaeneg efo pobl o dros y byd i gyd oedd yn ymlafnio i wella eu Sbaeneg. Ond dwi ddim yn gallu dod o hyd iddo fo rwan. Unrhyw un yn cofio be oedd o neu lle mae o? Dwi wedi chwilio drwy bob edefyn sy'n cyfeirio at Sbaeneg. Es posible que fi sy'n dwp.