Codi nifer siaradwyr [Basgeg] o 36% i 51% mewn 10 mlynedd

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Codi nifer siaradwyr [Basgeg] o 36% i 51% mewn 10 mlynedd

Postiogan Ugain I Un » Llun 25 Medi 2006 12:10 pm

Dyma cyfieithiad o rhywbeth wnes i ffeindio ar wefan RacoCatala (CornelCatalan) sef wefan debyg iawn i Maes E - roedd na seiat gyda thrafodaeth rhwng Catalanwyr a Basgwyr

“Yn nhref, Getxo (Bizkaia) mae na 86000 o bobl yn fyw, y 6ed mwya yn Ngwlad y Basc i gyd a'r dref ddiweddaf ger y ffin yr ardal Basegeg, mae nifer y siaradwyr Basgeg wedi cynyddu o 36% i 51% yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Heddiw mae na 3400 o oedolion yn astudio Basgeg yn yr Euskaltegis (Ysgolion Iaith) – 1800 gyda mudiad AEK a 1600 yn y Euskaltegis swyddogol – ac mae dysgu trwy'r gyfrwng Basgeg (i blant) wedi mynd fyny i 73%”


Tua 8% o'r holl oedolion di-Fasgeg y dref yn dysgu'r iaith?

Dwi'n cael yr argraff hefyd bod yng ngweddill y byd mae pobl yn dysgu iaithoedd o ddifri ac yn llwyddo. Dwi'n meddwl dylen ni gyd mynd i Getxo i ffeindio allan eu cyfrinach !

- - - - - - - -

Dyma ble mae Getxo - http://www.getxo.net/mapas/mapa1.htm
Hefyd - Cyfeiriad wefan “CornelCatalan” ydi http://www.racocatala.cat/forum/

Dyma'r darn gweiddiol
En el meu poble, Getxo (Bizkaia), de 86000 habitants, el 6º mes gran d'Euskal Herria i últim poble de la zona vascófona, el nombre de persones que sap euskara ha pujat del 36% al 51% en 10 anys. Avui dia hi ha 3400 adults estudiant euskara en euskaltegis (1800 en AEK i 1600 en euskaltegis municipals) i l'ensenyament en models amb euskara ha pujat ja fins al 73%
Ugain I Un
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 01 Awst 2006 10:57 am

Re: Nifer y siaradwyr wedi cynyddu o 36% i 51% mewn 10 mlyne

Postiogan Horwth ap Ffrwchnedd » Maw 26 Medi 2006 7:22 pm

Ugain I Un a ddywedodd: Dwi'n meddwl dylen ni gyd mynd i Getxo i ffeindio allan eu cyfrinach !


Fforsa fe lawr eu cyrn gyddfau nhw!
Ydw i'n bovvered tho?
<a href="http://www.venganza.org"> <img></a>
Rhithffurf defnyddiwr
Horwth ap Ffrwchnedd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 138
Ymunwyd: Sul 16 Gor 2006 9:46 am

Postiogan nicdafis » Mer 27 Medi 2006 12:41 am

[Wedi goygu teitl yr edefyn tipyn bach.]
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Chip » Mer 27 Medi 2006 6:14 pm

Mae'n swno'n bositiv iawn yn y basg. ma agwedd y pobl di fasg yn well at y iaith loel yno nhw ryw ffordd, sut?
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Postiogan sanddef » Iau 28 Medi 2006 3:01 pm

Mae swyddogaeth yr iaith Fasgeg a'i bwysigrwydd beunyddiol yn fwy amlwg i'r di-Fasgeg yn Euskadi nag ydy'r Gymraeg i'r di-Gymraeg yng Nghymru. Mae eu plant i gyd yn dysgu'r iaith yn yr ysgol; mae mwyafrif yr arwyddion ffordd yn uniaith Fasgeg, hyd yn oed tu allan i'r Fro Fasgeg; mae'r iaith yn weladwy ym mhobman ac ym mhob cyfrwng...a does ganddyn nhw'r problem o goloneiddio gan y di-Fasgeg fel sydd yr achos yma yn y Fro Gymraeg. Yn wahanol iawn i Gymru ond yn debyg i weddill Gwladwriaeth Sbaen, mae mwyafrif y bobl yn etifeddu eiddo (tai, lletai, tir, busnesau ac ati), felly does dim rhaid iddyn nhw ymadael jyst er mwyn cael lle i fyw.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron