Sbaen y Español

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sanddef » Maw 24 Hyd 2006 1:50 pm

Paid, paid mynd i unrhywle yn Andalucia os ti am ddysgu'r iaith!!!
Er mor hyfryd ydy'r lle, dydan nhw ddim yn siarad yr iaith yn iawn! Haws gen i ddeall rhywun yn siarad yn yr Alisieg neu hyd yn oed Cataloneg na rhywun yn siarad "Sbaeneg" Andalucia!
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Meg » Maw 24 Hyd 2006 3:19 pm

Difyr! Gai jest gofyn be sy mor wahanol am Sbaeneg Andalucia? Ai'r acen ydi o'n unig neu oes ganddyn nhw eirfa wahanol hefyd?
Meg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 223
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 1:06 pm
Lleoliad: Gogledd

Postiogan Socsan » Maw 24 Hyd 2006 3:54 pm

Acen a geirfa. Mewn rhai rhannau o Andalucia maen nhw'n deud geiriau fel "estudiantes" yn y ffordd yma: "ethdudianteth" (fel rhywun hefo lisp lly). Fysa hyn ddim ond yn broblem tan i ti arfer hefo'r acen! Yn Murcia ble fues i mae nhw'n cwtogi llawer o'r geiriau ac yn methu'r "s" allan o eiriau, (wnes i feddwl mai 'lejo' odd y gair am 'pell', pan mai 'lejos' ydio go iawn - hefyd maen nhw'n deud pethau fel "eta" yn lle "esta") - jyst mater o arfer ydio, ond ella fod hynna yn fis neu ddau o "ddysgu" wedi ei wastraffu ar "arfer"? Wnim. Os ti rili isho mynd i rwla pennodol, paid a gadael i'r acen dy rwystro di!

(ON: Dwi'n cytuno hefo Sanddef, mae acen Galicia yn un hawdd i'w deall)
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 24 Hyd 2006 5:38 pm

Socsan a ddywedodd:(ON: Dwi'n cytuno hefo Sanddef, mae acen Galicia yn un hawdd i'w deall)

Ond ma nhw'n siarad Galisieg fan'na! Llwyth ohonyn nhw!

Faswn i'n ffeindio hi'n annodd mynd i Wlad y Basg gyda'r bwriad o ddysgu Sbaeneg. Os ti am ddysgu iaith yn iawn ti'm isio iaith arall yn brwydro am le yn dy ben. Cytuno a Docito fama. Pan dwi di bod draw yn Barca dwi wastad yn cael y teimlad y dyliwn i fod yn siarad Catalaneg hytrach na Sbaeneg. Taswn i yno am hir, dyna faswn i'n gneud.

O ran acenion a ieithoedd eraill yn cystadlu ac ati, wel ti am gael problem yn rhan fwyaf o'r wlad: Andalucia, Murcia, Catlwnia, Basg, Asturias, Galisia, Valencia, y Balearics...

Debyg os tisio siarad Castilian go iawn taw rwla o gwmpas Madrid tisio mynd. Be am Salamanca? Ella nad yw acen Cordoba mor gryf a gweddill Andalwsia?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Socsan » Maw 24 Hyd 2006 5:57 pm

Ydyn mae nhw'n siarad Galisieg yn Galicia, ond mae nhw'n siarad Valenciano yn Valencia, Murciano yn Murcia ayyb... Fel ti wedi son, os ti'n mynd i beidio mynd i aradaloedd sydd hefo tafodiaith/iaith eu hunain dim ond Madrid sydd gen ti ar ol. O be dwi wedi ddeall, Calalunya a Gwlad y Basg ydi'r llefydd sydd yn defnyddio'u hiaethoedd fwya. Ar wahan i'r ddau le yma, acen ydi'r peth pwysica yn fy marn i os ti mond yn mynd i rywle am flwyddyn, nid iaith.

Ynglyn a Catalunya, ti'n iawn, on in teimlo tipyn yn haerllyg pan yn siarad Sbaeneg a phobl yn Barcelona, a fyswn i wedi dysgu Catalan os fyswn i yno am sbel hefyd, ond toedd dim llawer o broblemau gyda siarad Sbaeneg (os oedd tipyn o droi trwyn, roeddwn yn egluro fy mod yn Gymraes oedd yn dysgu Sbaeneg ac ymmddiheuro nad oeddwn yn medru Catalan - ni chefais ymateb cas i hyn o gwbwl). Ond dim ond am dair wythnos on i yno, felly efallai mai dim ond lwcus oeddwn i.

Dwi'n meddwl os fyswn in dewis eto, Valencia fyswn i'n ddewis - acen neis iawn, dinas gret, agos i'r traeth. Beth arall sydd? :D
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 25 Hyd 2006 9:43 am

Socsan a ddywedodd:Ydyn mae nhw'n siarad Galisieg yn Galicia, ond mae nhw'n siarad Valenciano yn Valencia, Murciano yn Murcia ayyb... Fel ti wedi son, os ti'n mynd i beidio mynd i aradaloedd sydd hefo tafodiaith/iaith eu hunain dim ond Madrid sydd gen ti ar ol. O be dwi wedi ddeall, Calalunya a Gwlad y Basg ydi'r llefydd sydd yn defnyddio'u hiaethoedd fwya. Ar wahan i'r ddau le yma, acen ydi'r peth pwysica yn fy marn i os ti mond yn mynd i rywle am flwyddyn, nid iaith.

Mae tua 89% o boblogaeth Galisia yn deall a siarad Galisieg, ac o be dwi'n weld mae hi'n gosach i Bortiwgeeg na Sbaeneg, felly dwi'n credu y buasai rhywun yn cael yr un teimlad ma o fod yn siarad iaith sydd ddim yn iaith y rhanbarth/gwlad.

O ran Valenciano, mae'r llysoedd newydd ddyfarnu fod Valenciano ddim yn iaith ar wahan ond yn dafodiaith o Gatalaneg. Siwr fydd y Valenciaid ddim yn hapus efo hyn, ond na ni.

Dyma'r erthygl gan yr Observatori de la Llengua Catala:
The Supreme Court deems that Valencian is Catalan





The artificial controversy brought about by political interests is finally brought to an end by the courts

Since the end of Franco´s dictatorship, sectors of Valencian society contrary to the recuperation of the Catalan language and its official and standardised usage have maintained an artificial controversy, according to which, Valencian constitutes a language which is differentiated from Catalan in origin, orthography and grammar.

With an obvious wish to divide and weaken the linguistic community, these sectors, in order to justify and strengthen their position, have made use of a point of terminology to the extent that presently within the Autonomous Community of Valencia, the native language is popularly known as "Valencian".

The incorrectly terminology in the Statute of Autonomy of Valencia, which only mentions the popularly local nomenclature of the local language as "Valencian" and not the scientific and generalised "Catalan", has contributed considerably in deepening the conflict and in stirring up controversy, even though the universities, linguistic academies, dictionaries, editorials, and the world of culture in general have defended the Catalan origins of Valencian and the autonomous public institutions have applied and used the unitarian form of the Catalan language.

In recent years, since the conservative Partit Popular came to power in the Community, the situation reached a paroxysm in which the Government refused to recognise and give validity to administrative certification and academic titles of "Catalan" to confer knowledge of "Valencian" in dealings with the autonomous administration.

Finally however, following some years of judicial proceedings, the Supreme Court has handed down a sentence regarding the question, which once and for all definitively closes the controversy regarding the unity of the Catalan language in Valencia.

This Supreme Court finding of the 15th of March 2006 determines, amongst other things, that the question must be decided upon in the scientific and not in the political arena, and that it is the scientific community which establishes the norm. The Supreme Court also specifically recognised the unity of the Catalan language, making reference to numerous statements of consensus in the area: dictionaries, universities, State regulations, academies, and even the recent findings of the Academy of the Valencia Language(the organism charged with linguistic oversight according to autonomous legislation), and which affirms that the Balearic Island, Catalan and Valencian communities share, together with the Principality of Andorra, the same lang uage.

Thus other previous findings handed down by different jurisdictional organs such as the Constitutional Tribunal and the Superior Court of Justice of the Valencian Community in the same line and relative to diverse aspects of the said conflict (the name of the language in the Statutes of the public universities access to employment in public service etc.) had been reaffirmed. As such, a unanimous corpus of jurisprudence has been formed, consisting of the findings of two Spanish High Courts; the High Court of Appeals in, and the Constitutional Tribunal, maxim interpreter of the Constitution as well as the highest Court existing at autonomous level, the Superior Court of Justice of the Community of Valencia.

A judicial circle therefore has been closed and leaves no room for justification, neither legal nor scientific, to maintain that Valencian is different from Catalan. As such, as the Supreme Court has held, and contrary to that which is maintained by the defenders of linguistic separation, "to share a language does not imply that Valencians do not have their own means of identity and characteristics, those which can be seen as clearly differentiating them from other Communities which use the same language; and that there exists in Spain two equally legal denominations to define this language: that of Valencian and that of Catalan."
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Socsan » Mer 25 Hyd 2006 10:44 am

Diddorol iawn! Dwi'n siwr fydd teulu un o fy nghyn gyd-weithwyr i yn ddigalon iawn am y newydd yna - mae nhw'n byw mewn pentref o'r enw Torrellano (agos iawn at faes awyr Alicante), ac maent yn falch iawn o'u hiaith. Tydyn nhw ddim yn rhy hoff o Gatalunya chwaith, felly fydd y sarhad ar Valenciano yn waeth byth...

Ydi mae Galisieg yn debyg i Portiwgeeg - maen debyg fod llawer o dafodiaethau De Galicia yn un peth a tafodiaethau Gogledd Portiwgal. Ond yn diddorol iawn, tydi hyn ddim yn wir am y ffin rhwng De-Ddwyrain Portiwgal ac Andalucia. Mae rhaid i mi gyfaddef toeddwn i ddim yn ymwybodol fod cymaint o bobl yn siarad Galisieg, er mae'r argraff o "wlad" ar wahan wastad wedi bod yn gryf yn fano - bron mor gryf ac yn Catalunya a Gwlad y Basg.

Ond unwaith eto, dwi ddim yn meddwl y dyla hyn atal neb rhag mynd i'r llefydd yma i ddygu Sbaeneg. Fyswn i byth yn ceisio perswadio unrywun rhag dod i Sir Fon i ddygsu Saesneg er engraifft, fyswn i'n gnweud yn siwr eu bod yn deall fod iaith arall yma hefyd - efallai dysgu ambell i frawddeg gwrtais i ddefnydio mewn siopau ac ati, ond ar y cyfan dwi ddim yn meddwl fysa na broblem enfawr. Mae blwyddyn yn amser gymharol fyr wedi'r cyfan.
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan sanddef » Mer 25 Hyd 2006 12:22 pm

Meg a ddywedodd:Difyr! Gai jest gofyn be sy mor wahanol am Sbaeneg Andalucia? Ai'r acen ydi o'n unig neu oes ganddyn nhw eirfa wahanol hefyd?


Nid yr acen ydy'r broblem, eithr eu harfer o fwmian, eu hynganiad llipa, eu harfer o gwtogi pob gair yn yr iaith, a'u harfer o ddefnyddio eu hidiomau eu hun dan yr amodau hyn.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan sanddef » Mer 25 Hyd 2006 12:39 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd: [Mae tua 89% o boblogaeth Galisia yn deall a siarad Galisieg, ac o be dwi'n weld mae hi'n gosach i Bortiwgeeg na Sbaeneg,


Dim cweit. Mae Galisieg yn hanner ffordd rhwng Portiwgaleg a Sbaeneg, ac mae'n edrych yn fwy fel Portiwgaleg ar bapur nag ydy hi'n swnio ar lafar. Fel Cymry, dan ni'n arfer clywed tafodieithoedd amrywiol, a dyna pam -os dan ni hefyd wedi dysgu Sbaeneg- gallwn ddeall Galisieg (er nad ydy siaradwyr Sbaeneg uniaith yn gallu gwneud hynny!). Mae Cataloneg yn fwy anodd, tua hanner ffordd rhwng Sbaeneg a Ffrangeg, ac mae fy ngallu fi i ddeall ychydig dros 50% ohoni yn ddyledus i'r ffaith mod i wedi byw efo siaradwyr Catalan mewn ardal lle mae'r dafodiaith (Grausino) i raddau yn efelychu'r iaith honno (ond heb imi ei dysgu).

Ond mae deall Sbaeneg Andalucia yn waeth na cheisio deall meddwyn o Glasgow!
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Nôl

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron