Sbaen y Español

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sbaen y Español

Postiogan Meg » Llun 23 Hyd 2006 4:59 pm

Tasech chi'n cael dewis byw yn Sbaen am flwyddyn i ddysgu'r iaith, pa ran fyddech chi'n ei ddewis? Heblaw am Madrid a Barcelona, hynny yw.
Meg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 223
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 1:06 pm
Lleoliad: Gogledd

Postiogan Socsan » Llun 23 Hyd 2006 10:45 pm

Nes i hyn llynedd fel rhan o fy ngwrs yn coleg, ac i Murcia (jyst i'r de o Valencia) es i. Er cymaint yr hoffais i lle, faswn i ddim yn dweud fod y lle yma yn le delfrydol ar gyfer rhywun sydd eisiau dysgu'r iaith. Mae acen gryf yno, felly mae'n debyg i fynd i rywle fel Lerpwl i ddysgu Saesneg! Cofia, mi wnes i arfer hefo'r acen ar ol deufis...

Aeth fy ffrindiau i Valencia, Madrid, Barcelona, Aragon, ac Andalucia. Ti ddim isho mynd i r'un o'r ddwy brifddinas medda ti, a tydwi ddim yn gwybod llawer ynglyn a nunlle arall, felly allan o beth sydd ar ol Valencia fyswn i'n awgrymu. Roedd fy ffrind a aeth yno wrth ei bodd a'r ddinas (dinas ifanc iawn, llawer o fwrlwm) a tydwi ddim yn meddwl fod acen anodd iawn yno. Mae Aragon yn le gweddol dawel o be dwi wedi ddallt, ac mae Andalucia yn gret - sawl dinas brydferth iawn yno - ond unwaith eto, acenion tipyn yn gryf yn yr Andaluz!

Ar ol dweud hyn i gyd am acenion, fyswn i ddim yn gadael i hyn roi chdi off mynd i rwla ti rili isho mynd. Gofyn i gymaint o bobl alli di i ddeud wrthat ti be oddan nhw'n feddwl o wahanol lefydd, ond paid chymryd eu gair nhw am bopeth (mae rhai pobl yn aros mewn un lle am 3 diwrnod ac yn meddwl eu bod nhw wedi gweld bob dim :rolio: ) Mae na lawer o wybodaeth ar y we os oes gen ti'r amynedd i chwilio!
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 24 Hyd 2006 10:19 am

Oedd Cordoba a Sevilla yn llefydd hyfryd iawn. Dwi'n siwr basa hi'n bleser byw yn Sevilla de. Zaragoza braidd yn ddiflas.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Cadiz

Postiogan Ugain I Un » Maw 24 Hyd 2006 11:07 am

Dos i Cadiz- lle ffantastic a phobl lyfli
Stim lot o bobol o Gymru'n mynd yno - dwn i ddim pam?

Paid a phoeni am beth mae bobl yn dweud am acen Andaluz, mae tafodiaeth Castile yn cael ei wtho fel 'Sbaeneg Gywir"
Ugain I Un
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 01 Awst 2006 10:57 am

Postiogan Geraint » Maw 24 Hyd 2006 11:18 am

Dwi ond wedi bod i Euskadi - Bilbao, San Sebastian a'r tir rhyngddynt, a mae'n rhaid mi ddweud i mi wirioni yn llwyr ar y lle, y tirlun, y pobl, y diwylliant a'r bwyd. Mi fasw ni'n mynd nol yno i ddysgu Sbaeneg, ac i bigo fyny gymaint o Euskara ac y gallwn. Dwi'n nabod rhywun aeth i Filbao am flwyddyn i ddysgu Sbaeneg, a gafodd hi amser arbennig o dda, ac mae nhw'n gallu fod yn groesawgar iawn i'r Cymry.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 24 Hyd 2006 11:22 am

Cytuno, Geraint. Er mai Donostia yw'r unig le 'wy wedi bod yn Sbaen, ro'n i wrth fy modd gyda'r lle. Traeth hyfryd gyda thonnau anferthol, dinas fodern gyda bwytai a bariau gret. Mynyddoedd mawreddog gerllaw. A dyw hi ddim yn bell i fynd i wylio Biarritz yn chwarae chwaith! :D
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 24 Hyd 2006 12:20 pm

Dreuliais i ddim digon o amser yn Cadiz i'w werthfawrogi'n iawn, ond mae'n wir fod Donostia yn lle hynod. 'Swn i'n hawdd yn gallu treulio blwyddyn ne ddwy yno. Sa'n rhaid cychwyn dysgu Basgeg hefyd ddo, a fasa hynna ddim y syniad gora o ran cymysgu ieithoedd.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan docito » Maw 24 Hyd 2006 12:29 pm

Geraint a ddywedodd:Dwi ond wedi bod i Euskadi - Bilbao, San Sebastian a'r tir rhyngddynt, a mae'n rhaid mi ddweud i mi wirioni yn llwyr ar y lle, y tirlun, y pobl, y diwylliant a'r bwyd. Mi fasw ni'n mynd nol yno i ddysgu Sbaeneg, ac i bigo fyny gymaint o Euskara ac y gallwn. Dwi'n nabod rhywun aeth i Filbao am flwyddyn i ddysgu Sbaeneg, a gafodd hi amser arbennig o dda, ac mae nhw'n gallu fod yn groesawgar iawn i'r Cymry.

sori geraint ond rhaid i fi anghytuno. os ma dysgu sbaeneg yw dy uchelgais yna cer i ardal uniaith sbaeneg
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Geraint » Maw 24 Hyd 2006 12:42 pm

docito a ddywedodd:

Y cwestiwn oedd 'pa rhan fyddech chi'n dewis?' - a dyna y rhan byddwn yn dewis. Fyddwch chi'n clywed Sbaeneg a'i siarad trwy'r amser, am mae dyna beth yw iaith y mwyafrif. Bydde pigo lan tamed o iaith arall ddim yn neud niwed. Dwi'm yn gweld sut mae'n anoddach dysgu Sbaeneg yng Ngwlad y Basg nag ardal arall o Sbaen. Mae o fel dweud 'peidwich symud i Gymru os da chi eisiau dysgu Saesneg'
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan docito » Maw 24 Hyd 2006 12:50 pm

Geraint a ddywedodd:
docito a ddywedodd:
Geraint a ddywedodd:Dwi ond wedi bod i Euskadi - Bilbao, San Sebastian a'r tir rhyngddynt, a mae'n rhaid mi ddweud i mi wirioni yn llwyr ar y lle, y tirlun, y pobl, y diwylliant a'r bwyd. Mi fasw ni'n mynd nol yno i ddysgu Sbaeneg, ac i bigo fyny gymaint o Euskara ac y gallwn. Dwi'n nabod rhywun aeth i Filbao am flwyddyn i ddysgu Sbaeneg, a gafodd hi amser arbennig o dda, ac mae nhw'n gallu fod yn groesawgar iawn i'r Cymry.

sori geraint ond rhaid i fi anghytuno. os ma dysgu sbaeneg yw dy uchelgais yna cer i ardal uniaith sbaeneg

Y cwestiwn oedd 'pa rhan fyddech chi'n dewis?' - a dyna y rhan byddwn yn dewis. Fyddwch chi'n clywed Sbaeneg a'i siarad trwy'r amser, am mae dyna beth yw iaith y mwyafrif. Bydde pigo lan tamed o iaith arall ddim yn neud niwed. Dwi'm yn gweld sut mae'n anoddach dysgu Sbaeneg yng Ngwlad y Basg nag ardal arall o Sbaen. Mae o fel dweud 'peidwich symud i Gymru os da chi eisiau dysgu Saesneg'

Cmon Geraint ma honno'n ddadl wan!!!!
Os base rhywun yn dod i gymru i ddysgu saesneg ond hefyd yn gobeithio dysgu cymraeg hefyd, yna'n ddios base hyn amharu ychydig ar faint o saesneg base nhw yn dysgu.
Ma dysgu iaith estron yn yffar o dasg annodd a'r ffordd gorau o wneud hyn yw i ymgolli eich hyn yn niwylliant a bywyd y wlad benodol honno
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron