Y Cymry - Siaradwyr gorau o'r Saesneg

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Cymry - Siaradwyr gorau o'r Saesneg

Postiogan Dewi Lodge » Gwe 10 Tach 2006 7:23 pm

Yr isod yn yr Independent heddiw:

Welsh are 'the best English speakers'
By Terry Kirby, Chief Reporter
Published: 10 November 2006
They are renowned for celebrating their own language, as well as the power of their poetry and the glory of their choirs. Now the Welsh have been praised for speaking English sometimes better than the English themselves.

The writer and journalist Andrew Taylor says in a new book that the finest English can often be spoken by a Welshman. He cites the actor Richard Burton, the poet Dylan Thomas and the broadcasters Huw Edwards and John Humphrys as examples of the best speakers of English.

In his book, A Plum in Your Mouth, published this week by HarperCollins, Mr Taylor says that despite some studies which say the Welsh accent is unpopular: "As far as I am concerned... the Welsh, probably in revenge for the way the English steamrollered their own tongue for generations, speak English like angels. They can take the language gallantly by the hand and dance with it, leading it to and fro, up and down and relishing every word.''

He said yesterday: "I just like the way the Welsh speak English. I think this is because Welsh itself is a language where every syllable is pronounced separately and so when the Welsh speak English you can hear the words very clearly."


Rhaid cytuno efo'r dyn. Credaf hefyd fod y Cymry Cymraeg yn well siaradwyr Saesneg na'r Cymry di-Gymraeg am y rhesymau uchod. Un peth arall faswn i'n ychwanegu, i'r ffiath ein bod yn tueddu i ynganu bob sill yn ofalus, yw ein tuedd i seinio bob cytsain yn hytrach na defnyddio'r felltigedig "glottal stop".
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Lodge
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 293
Ymunwyd: Mer 28 Medi 2005 11:52 am
Lleoliad: Pwllheli

Postiogan Socsan » Gwe 10 Tach 2006 8:43 pm

Dwi'n cofio fy athrawes Saesneg (di-Gymraeg) yn dweud hyn wrthym blynyddoedd yn ol. Roedd hi'n dweud ei bod hi'n fwy tebygol i blant yn Lloegr wneud camgymeriadau fel "I would of done it" yn lle "I would have done it" ayyb, a dylen ni fod yn ymwybodol o'r fantais sydd gennym dros y monoglots dros y ffin.

Mae rhai pobl yn meddwl fod yr arferiad sydd gennym o ynganu pob cytsain (yn enwedig 't') yn medru bod reit hyll, ond dwi'n cytuno Dewi fod y glottal stop yn llawer llawer hyllach! A dweud y gwir, dwi'n meddwl fod ambell i 't' wedi ei ynganu yn ysgafn ble fysa Sais ddim yn gwneud yn swnio'n well!
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Gwe 10 Tach 2006 9:38 pm

Ydi John Humphrys yn siarad Cymraeg?
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sad 11 Tach 2006 12:50 am

Wrth gwrs ein bod ni (fel Cymry, ar y cyfan, yn siarad Saesneg gwell na Saeson uniaith). Fy marn fel Fflamingo gwyrdd

Drwy allu a deall dwy iaith wahanol, mae'n deallusrwydd o gystrawennau gwahanol ac adeiladwaith brawddegau yn llawer gwell na Saeson uniaith.

Eto, barn bersonol, gyffredinol iawn, gan gadw lle i sawl brwsh paent gwahanol
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan 7ennyn » Sad 11 Tach 2006 1:51 am

Does yna neb yn fy nuall i, er fy mod yn siarad Susnag y Frenhines (yn fy nhyb i).

Ei pyint off Giniss pliss. Thanc iye(<sylwer ar yr ymdrech fan hyn)w diolch.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Macsen » Sad 11 Tach 2006 10:17 am

Petai fi'n medru cael y geiriau saesneg allan o fy ngheg i dwi'n siwr y bydden nhw'n swnio'n hyfryd. Gwaetha'r modd rywle rhwng fy ymenydd a fy ngheg mae 'na ryw fath o car crash geiriol rywle.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan sian » Sad 11 Tach 2006 10:28 am

Dw i'n meddwl mai pobol Ceredigion a Sir Gaerfyrddin sy â'r Saesneg gorau - mae'n fwy crisp. Mae Saesneg y de yn rhy fflobi.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Sad 11 Tach 2006 11:16 am

Sian a ddywedodd:Dw i'n meddwl mai pobol Ceredigion a Sir Gaerfyrddin sy â'r Saesneg gorau - mae'n fwy crisp. Mae Saesneg y de yn rhy fflobi.

Diolch byth bod fi'n byw ar y groesffordd ryngddo nhw de! :winc:

Fi'n cytuno cant y cant da'ch slywadau - ma Saesneg warthus llwyr da rhai o'r Sais. Yn gwaith ma rhaid i fi siarad da Saeson ar y ffon rhawn fwya o fy amser. Ma rhai o nhw yn gweud pethe fel
cocney squire a ddywedodd:"O gawd yews Wewsh ar'ncha, I'm guna ave troubw' understandin 'ya"

pan ma nhw'n sylweddoli eu bod nhw'n siarad i Gymro. Fi'n siwr o ni'n siarad Saesneg gwell na nhw pan o ni'n crwtyn - a siaradai byth y 'Queens English' na. :winc:

Be bynnag, acen yr Athro John Davies yw'r acen gore Saesneg yn y byd. :)
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Madrwyddygryf » Sad 11 Tach 2006 11:34 am

Mae Andrew Taylor yn lygad ei le.

Mae Felipe Fernández-Armesto yn dallt hyn hefyd :

Felipe Fernández-Armesto a ddywedodd: The English the world speaks is in any case "international English", which everyone educated learns, except the British. It is pathetic to see British delegates excluded at international gatherings because their counterparts from other countries are chatting together in an unfamiliar version of their own tongue. In a spirit of pas devant les domestiques, other Europeans switch, when they wish, to a code - such as German or Spanish or Italian - which leaves Anglos marginalised and deservedly humiliated. You can no longer be sure nowadays that even a relatively well-educated Briton will speak la langue de tout homme civilisé.
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan dafydd » Sad 11 Tach 2006 9:47 pm

Mae'r rheswm am hyn yr un rheswm pam fod, yn aml iawn, dysgwyr yn siarad y Cymraeg gorau (neu cywiraf), ac os ydych chi'n Gymro ac yn gweithio mewn maes lle mae rhaid defnyddio iaith, dwi'n siwr byddwch chi'n trio'n galetach na'r sais arferol i siarad yn dda. Wedyn mae hyn yn cyfuno gyda'r acen a'r ynganiad i greu'r argraff orau.

Mae yna enghreifftiau o wledydd eraill yn Ewrop sy'n siarad saesneg o safon uchel - lle fod yr iaith yn cael ei ddysgu yn ffurfiol yn yr ysgol fel 'iaith dramor' ond fod y plant ddim yn cael ei dylanwadu gan saesneg gwael ar yr iard neu o deledu, a felly ddim yn codi arferion gwael.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron