Y Cymry - Siaradwyr gorau o'r Saesneg

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan dave drych » Llun 13 Tach 2006 12:48 pm

dafydd a ddywedodd:Mae'r rheswm am hyn yr un rheswm pam fod, yn aml iawn, dysgwyr yn siarad y Cymraeg gorau (neu cywiraf)...


Dyma oedd yn digwydd pan oeddwn i'n ysgol. Yn ystod blwyddyn 9, 10 ag 11 roedd 6 set yn gwersi Cymraeg (1=gorau, 6=gwanaf). Yn set 1 roedd ryw 20 allan o'r 25 yn siaradwyr Saesneg - h.y. siarad Saesneg adre ac efo'u ffrindiau. Roedd set 2 a 3 wedyn yn llawn o siaradwyr Cymraeg iaith cyntaf.

Mae'n siwr wrth ddysgu'r iaith o lyfr yw'r ffordd gorau o'i ddysgu yn 'gywir'.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan sian » Llun 13 Tach 2006 1:09 pm

dave drych a ddywedodd:Dyma oedd yn digwydd pan oeddwn i'n ysgol. Yn ystod blwyddyn 9, 10 ag 11 roedd 6 set yn gwersi Cymraeg (1=gorau, 6=gwanaf). Yn set 1 roedd ryw 20 allan o'r 25 yn siaradwyr Saesneg - h.y. siarad Saesneg adre ac efo'u ffrindiau. Roedd set 2 a 3 wedyn yn llawn o siaradwyr Cymraeg iaith cyntaf.


Rhyfedd! Yn fy mhrofiad i, mae treigladau plant sy'n siarad Saesneg adre ac efo'u ffrindiau yn rhemp hyd yn oed os ydyn nhw'n siarad Cymraeg yn eitha naturiol ac mae Cymraeg siaradwyr Cymraeg iaith gynta o bob gallu yn lot cyfoethocach o ran idiomau aballu.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan sara » Llun 13 Tach 2006 8:46 pm

sian a ddywedodd:
dave drych a ddywedodd:Dyma oedd yn digwydd pan oeddwn i'n ysgol. Yn ystod blwyddyn 9, 10 ag 11 roedd 6 set yn gwersi Cymraeg (1=gorau, 6=gwanaf). Yn set 1 roedd ryw 20 allan o'r 25 yn siaradwyr Saesneg - h.y. siarad Saesneg adre ac efo'u ffrindiau. Roedd set 2 a 3 wedyn yn llawn o siaradwyr Cymraeg iaith cyntaf.


Rhyfedd! Yn fy mhrofiad i, mae treigladau plant sy'n siarad Saesneg adre ac efo'u ffrindiau yn rhemp hyd yn oed os ydyn nhw'n siarad Cymraeg yn eitha naturiol ac mae Cymraeg siaradwyr Cymraeg iaith gynta o bob gallu yn lot cyfoethocach o ran idiomau aballu.


od iawn! ella fod hynnu rhywbeth i neud efo cymraeg ddim yn cwl mewn rhai llefydd ne rwbath? (dwnim i pa ysgol ath dave drych) Yn f'ysgol i rodd rhanfwya o set 1 yn siaradwyr iaith gynta ond rodd na eitha lot o ail iaith fyd. Dyna odd yr achos mewn rhanfwya o ysgolion oni'n tybio! Eto efo idioma dwi'm mor siwr - am ryw reswm dwi byth di gwbod llawer o idioma (gymaint o wersi cymraeg flwyddyn dwytha lle fasa'r athrawes yn defnyddio rhyw idiom, a ninna'n edrach arni braidd yn blanc), ond ella ma fi sy'n od.
I'm out of my mind, but I like it that way
Rhithffurf defnyddiwr
sara
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 215
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 3:58 pm

Postiogan Gwyn » Maw 14 Tach 2006 9:07 am

Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Be bynnag, acen yr Athro John Davies yw'r acen gore Saesneg yn y byd. :)


Spot on, fi'n lyfo gwrando ar y boi ma, er bo fe'n hela fi i chwerthin! :D Chi di sylwi ma fe yw'r unig foi ma BBC Cymru'n iwso i siarad am unrhyw agwedd ar hanes? Ma fe ar bopeth!

Eniwei, neis clywed bo ni'n gallu siarad gwell Saesneg na'r Saeson... piti bo nhw ddim yn neud yr un ymdrech da'r Gymraeg.
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Postiogan Mr Gasyth » Maw 14 Tach 2006 9:50 am

Gwyn a ddywedodd:
Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Be bynnag, acen yr Athro John Davies yw'r acen gore Saesneg yn y byd. :)


Spot on, fi'n lyfo gwrando ar y boi ma, er bo fe'n hela fi i chwerthin! :D Chi di sylwi ma fe yw'r unig foi ma BBC Cymru'n iwso i siarad am unrhyw agwedd ar hanes? Ma fe ar bopeth!

Eniwei, neis clywed bo ni'n gallu siarad gwell Saesneg na'r Saeson... piti bo nhw ddim yn neud yr un ymdrech da'r Gymraeg.


Tra fod acen Bwlchllan yn dda, dyw hi ddim patch ar un Derek Llwyd Morgan neu Jonathan Davies.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Maw 14 Tach 2006 9:58 am

O gysidro'r rhai a enwir yn y post agoriadol, acen addysgiedig ysgolion gramadeg y Fro Eingl-Gymraeg yn y de ydi hoff acen yr awdur.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan Gwyn » Maw 14 Tach 2006 10:03 am

Ma acen Gareth Jenkins yn itha funny fyd, mor over-the-top, ond ife felna ma pawb o [lle bynnag ma fe'n dod o] yn siarad?
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Postiogan Positif80 » Maw 14 Tach 2006 10:49 am

Pobl sy'n ceisio gwneud acen Cymraeg "posh" tra'n siarad Saesneg sy'n fy ngwylltio i. :x

Dwi'm yn meddwl ein bod ni mor ddeallus a mae pawb yn yr edefyn yma'n meddwl. Mae addysg Prydain yn gyffredinol o safon isel beth bynnag; felly dim ond y cachu ar ben y domen da ni. :(
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Sili » Maw 14 Tach 2006 11:05 am

Synnwn i ddim fod hyn yn gywir. Os dachi'n dysgu iaith mewn ysgol, dysgu ynganu yn y ffordd gywir fyddwch chi wastad, anaml iawn fyddwch chi'n dod ar draws geiriau 'slang' fel yn yr iaith gyntaf.

Mae'n Saesneg i'n swnio'n gyffredinnol "well" na fy Nghymraeg mashwr, gan fod gennai acen berffaith Saesnigaidd tra fod fy acen Gymraeg yn Ogleddol tu hwnt. Dwi'n dueddol o ddefnyddio geiria ac idioma sy'n benodedig i Ben Llyn (ffagla yn lle esgidiau a ballu) tra'n siarad y Gymraeg, ac yn defnyddio geiria mawrion cymhleth posh yn y Saesneg :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Geraint » Maw 14 Tach 2006 12:27 pm

Mae'n diddorol wrth wylio clipiau hen o fobl Cymraeg yn siarad Saesneg, mae'n aml yn acen Saesneg posh, ysgol gramadeg mae nhw'n trio siarad. Weles i gyfweliad yn ddiweddar o'r 60au efo dyn a oedd yn rhedeg siop chips yn y Rhondda a oedd yn siarad fel hyn. Dyma be oeddent yn cael eu ddysgu yn ysgol, neu dyma be oedd y Saesneg oeddent yn clywed ar y radio/teledu. Dyma oedd y Saesneg oedd yn cael ei weld fel y ffordd 'cywir' o siarad, hyd yn oed yn Lloegr, lle bydde chi byth yn clywed acenion gwahanol ar y radio/teledu. Nawr fod gymaint o siaradwyr Saesneg o phob acen yng Nghymru, a bob math o acennau ar y radio/teledu, dyw pobl ddim yn trio siarad fel hyn bellach.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

NôlNesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron