Cymedrolwr: Gwen
Positif80 a ddywedodd:Hefyd, dwi'n casau arwyddo deseibion ne gwneud pethau ar gyfer elsuennau. Wnaeth pawb yn fy swyddfa gwneud hwyl ar fy mhen unwaith am £3.50 yn lle'r £5.00 rhoddodd pawb arall i elusen cancr. Ges i;r sac yn fuan wedyn, so doedd dim rhaid i mi dalu! Hang on :ofn: ..
Llefenni a ddywedodd:Dwi wastad yn deud hyn a dwi'n ecseitio pan mae pobl yn cytuno... i gyd ddeda'i am Wyddelod ydi bod y "frawdoliaeth Geltaidd" ym meddwl uffar o ddim iddyn nhw gan amla'... bydde nhw'm yn poeni iot am arwyddo deiseb i ni.
Mae gen i brofiad o nabod a gweithio efo nhw, a gen y rhan helaeth ddim clem, na awydd ffendio allan am y Cymry, y Gymraeg na'm byd arall rili.
Mae'r Celtic Tiger yn rhy bwysig o lawer i boeni am y Cymry ma sy'n llyfu tine' nhw pob siawns gewn nhw, arwyddwch i helpu allan, ond peidiwch a disgwyl llawer yn ôl
[/rant fawr drosodd]
Ugain I Un a ddywedodd:Mae cefnogwyr yr iaith Wyddelig yn y 6 sir yn wynebu problemau a rhagfarnu llawer fwy anodd na beth sydd gynnon ni..
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai