Cefnogwch y Gwyddelod!

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cefnogwch y Gwyddelod!

Postiogan Ugain I Un » Iau 23 Tach 2006 4:38 pm

Mae deiseb ar-lein wedi lansio i alw ar Lywodraeth Prydain i gadw at ei addewid o basio Ddeddf Iaith yn rhoi statws swyddogol i'r iaith Wyddeleg yn chwe sir gogledd Iwerddon.

Cefnogwch y Gwyddelod! Arwyddwch y Deiseb yn awr

http://www.petitiononline.com/acht/petition.html

Hefyd - a fyddech chi mor garedig a danfon ymlaen y neges yma at cymaint a phobl a phosibl – mae ond yn cymryd cwpl o glics.

Go raibh míle maith agat (MIl o ddiolchiadau arnot)
Ugain I Un
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 01 Awst 2006 10:57 am

Postiogan Llefenni » Iau 23 Tach 2006 5:45 pm

Dwi wastad yn deud hyn a dwi'n ecseitio pan mae pobl yn cytuno... i gyd ddeda'i am Wyddelod ydi bod y "frawdoliaeth Geltaidd" ym meddwl uffar o ddim iddyn nhw gan amla'... bydde nhw'm yn poeni iot am arwyddo deiseb i ni.

Mae gen i brofiad o nabod a gweithio efo nhw, a gen y rhan helaeth ddim clem, na awydd ffendio allan am y Cymry, y Gymraeg na'm byd arall rili.

Mae'r Celtic Tiger yn rhy bwysig o lawer i boeni am y Cymry ma sy'n llyfu tine' nhw pob siawns gewn nhw, arwyddwch i helpu allan, ond peidiwch a disgwyl llawer yn ôl :x

[/rant fawr drosodd]
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan garynysmon » Iau 23 Tach 2006 6:39 pm

Ti'n sbot on Llefenni. Dwi wedi bod o'r safbwynt yna ers sbelan.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan jammyjames60 » Iau 23 Tach 2006 7:26 pm

Ell y rheswm am hynny yw eu bod yn meddwl mae'r iaith yn ddiogel ac ar ei ennill, a felly, ddim yn meddwl 'sa arwyddo deiseb yn helpu'r achos. Oes gen i bwynt?
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan Llefenni » Gwe 24 Tach 2006 9:54 am

jammyjames60 a ddywedodd:Ell y rheswm am hynny yw eu bod yn meddwl mae'r iaith yn ddiogel ac ar ei ennill, a felly, ddim yn meddwl 'sa arwyddo deiseb yn helpu'r achos. Oes gen i bwynt?


O be dwi di'w weld, di nhw'n gwbod/poeni dim am 'yr iaith', na unrhyw ymgyrch Gymreig bethbynnag, so bydde arwyddo deiseb yn ddibwys iddynt.
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan khmer hun » Gwe 24 Tach 2006 9:58 am

Peidiwch a bod mor wrthwynebus! Wedi clywed pobol o'r Gaeltacht (Swydd Cork) yn dweud pa mor lwcus y'n ni ein bod ni'n dal yn siarad yr iaith yn eang. Dibynnu lle chi'n mynd dydi.

Meddyliwch am deuluoedd sy'n ymdrechu i gael addysg Wyddeleg i'w plant.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Llefenni » Gwe 24 Tach 2006 10:06 am

Dwi'm yn deud bod na DDIM cefnogaeth gen NEB o Iwerddon i'r Gymraeg, ond bod y wlad ei hun rhy fawr/pwysig i deimlo'r angen am y "frawdoliaeth Geltaidd" ma mae gymaint o'r Cymry yn obsesio drosto.

Mae na lwythi a llwythi o'na ni yn barod iawn o fawrygu Iwerddon, a does na'm ots amdanyn ni genno nhw. Canran fechan iawn o'r boblogaeth yw'r Gaeltacht i fod yn gwneud y pwynt bod Iwerddon yn gefnogol i ymgyrchoedd yn Nghymru.
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Geraint » Gwe 24 Tach 2006 12:25 pm

Fel yr unig wlad 'celtaidd' annibynol, bydde chi'n meddwl byddai Iwerddon yn gwneud mwy i help Cymru, Cernyw, Alban, Llydaw............. o be dwi'n gwybod, does dim cymorth na chefnogaeth yn dod eu llywodraeth, ac rhan fwya o'r boblogaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Gwe 24 Tach 2006 12:48 pm

Efallai fod nhw dal yn flin ar ol i'r "Cymmrodorion" yna fudo o'r Alban a chicio'r Gwyddelod allan o Wynedd. Mi ddyla nhw sgwennu i'r Cynulliad i wneud siwr y bydd y Ddeddf Iaith nesa'n cynnwys cydnabyddiaeth o Ogam fel iaith ysgrifennedig hyna'r wlad, cyn i'r mewnfudwyr 'ma ddwad efo'u P-Celtic dieithr.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan Positif80 » Gwe 24 Tach 2006 12:59 pm

Dwi'n rhy ddiog i wneud unrhywbeth dros fy iaith fy hun (oni bai am ei siarad), heb son am helpu un arall. :crechwen: :wps: :?

Dwi'n casau'r gair "Celtaidd" hefyd - term estron sydd wedi ei gorfodi ar y Cymry, fel "Welsh". Dwi'm yn teimlo llawer o agosatrwydd diwylliannol at unrhyw wlad :x "Celtaidd" :x - a mae'n ddigon anodd i mi deimlo unrhyw ffydlondeb i Gymru weithiau, gan fod nifer o Gymry Cymraeg wedi fy ngalw yn Saes oherwydd lle ges i'n eni.

Hefyd, dwi'n casau arwyddo deseibion ne gwneud pethau ar gyfer elsuennau. Wnaeth pawb yn fy swyddfa gwneud hwyl ar fy mhen unwaith am £3.50 yn lle'r £5.00 rhoddodd pawb arall i elusen cancr. Ges i;r sac yn fuan wedyn, so doedd dim rhaid i mi dalu! :crechwen: Hang on :ofn: ..
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron