Cefnogwch y Gwyddelod!

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Gerbo » Maw 28 Tach 2006 7:38 pm

chwarae teg, ma'r iaith wyddeleg llawer mwy prin na'r cymraeg. ma'r wefan Gaeltalk yn dysgu'r iaith ar-lein. handi iawn. dwi wedi arwyddo'r petitiwn ac yn annog eraill i wneud. oeddech chi'n gwbod na dim ond 350,000 o wyddelod sy'n byw yn iwerddon sy'n defnyddio'r iaith wyddeleg bob dydd, hyn allan o 4.2 miliwn o wyddelod. anhygoel. Hefyd, mae'r iaith yn syml i iaethoedd celtaidd megis gaelig yr alban, manx, breton and Cornish. maen nhwn dweud fatha cymraeg - ia - ish...
Rhithffurf defnyddiwr
Gerbo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Mer 04 Ion 2006 2:50 pm
Lleoliad: Pwllheli, Gwynedd

Postiogan jammyjames60 » Maw 28 Tach 2006 9:53 pm

Positif80 a ddywedodd:Hefyd, dwi'n casau arwyddo deseibion ne gwneud pethau ar gyfer elsuennau. Wnaeth pawb yn fy swyddfa gwneud hwyl ar fy mhen unwaith am £3.50 yn lle'r £5.00 rhoddodd pawb arall i elusen cancr. Ges i;r sac yn fuan wedyn, so doedd dim rhaid i mi dalu! :crechwen: Hang on :ofn: ..


Ma hwnna'n yn yn remindio o sgetsh Catherin Tate!

"Three pounds fifty!"

"Say no more about it pet, i wouldn't want it to come between us...."
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan sanddef » Gwe 01 Rhag 2006 7:45 pm

Llefenni a ddywedodd:Dwi wastad yn deud hyn a dwi'n ecseitio pan mae pobl yn cytuno... i gyd ddeda'i am Wyddelod ydi bod y "frawdoliaeth Geltaidd" ym meddwl uffar o ddim iddyn nhw gan amla'... bydde nhw'm yn poeni iot am arwyddo deiseb i ni.

Mae gen i brofiad o nabod a gweithio efo nhw, a gen y rhan helaeth ddim clem, na awydd ffendio allan am y Cymry, y Gymraeg na'm byd arall rili.

Mae'r Celtic Tiger yn rhy bwysig o lawer i boeni am y Cymry ma sy'n llyfu tine' nhw pob siawns gewn nhw, arwyddwch i helpu allan, ond peidiwch a disgwyl llawer yn ôl :x

[/rant fawr drosodd]


Mae'n drist ond yn wir. O'n i'n byw yn Iwerddon, ac er ein bod ni'n gymdogion, ac er bod y llong o Ddulyn yn mynd trwy Gaergybi... dydy'r rhan fwyaf o Wyddelod yn nabod dim am Gymru nac y Gymraeg, na hyd yn oed mai yng Nghymru ydy Caergybi! Ond chwarae teg i siaradwyr y Wyddeleg (sy'n cynnwys canran fawr o heddlu Dulyn, gyda llaw): o leia maen nhw nid jyst yn nabod am y Gymraeg ond yn ei hadnabod ar glywed hefyd.

Y tro cyntaf imi deithio i Ddulyn cofiaf i Wyddel ofyn imi "beth ydy'r gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr?" Fy ymateb oedd "Yr un gwahaniaeth sydd rhwng Lloegr ac Iwerddon". Ysgydwodd yntau ei ben yn nacaol, felly gofynnais iddo beth oedd y gwahaniaeth rhwng Iwerddon A Lloegr. "Môr Iwerddon" oedd ei ateb.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Diawled negyddol!!

Postiogan Ugain I Un » Maw 12 Rhag 2006 3:29 pm

Rwyf newydd darllen yr ymateb i fy neges gwreiddiol ynglyn ag arwyddio deiseb ar-lein i'r un un ymgrych sydd gynnon ni yng Ngymru yn erbyn yr un un llywodraeth.

Rwy'n siomedig iawn i weld yr holl ymateb negyddol.

Dwi'n gwybod bod lot o Wyddelod yn anwybodus am Gymru – mae gan Gymru proffeil isel ofnadwy ymhobman – hyd yn oed Yng Nghymru.

Mae cefnogwyr yr iaith Wyddelig yn y 6 sir yn wynebu problemau a rhagfarnu llawer fwy anodd na beth sydd gynnon ni.. mae ond yn cymryd tua tua 15 eiliad i arwyddo'r deiseb –

http://www.petitiononline.com/acht/petition.html

Llawer o ddiolch
Ugain I Un
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 01 Awst 2006 10:57 am

Re: Diawled negyddol!!

Postiogan Llefenni » Maw 12 Rhag 2006 4:16 pm

Ugain I Un a ddywedodd:Mae cefnogwyr yr iaith Wyddelig yn y 6 sir yn wynebu problemau a rhagfarnu llawer fwy anodd na beth sydd gynnon ni..


Sut felly? Gyda llywodraeth sy' o'u plaid, economi gref, ymwybyddiaeth rhyngwladol o'u treftadaeth hanesyddol... ac i rhoi pen ar bopeth, llwyth o gefnogaeth o drws nesa... lle gewn ni'm llawer nôl :(
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Macsen » Maw 12 Rhag 2006 4:19 pm

Nifer o ddeisebau wedi eu harwyddo gan Macsen: 347

Nifer o'r deisebau rheini gafodd unrhyw effaith: 0
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Y Wyddelig

Postiogan Ugain I Un » Mer 13 Rhag 2006 9:21 am

Tan y 90au roedd y Wyddelig yn anghyfreithlon yng Ngogledd Iwerddon.

Mae ymgyrchwyr dros y Wyddelig yn dal i wynebu rhagfarnau a gwrthwynebiad gan sectorau o'r hen griw Paisleyite – Er engraifft - roedden nhw'n hollol bendant doedd Deddf Iaith ddim i'w cynnwys yn cytundeb St Andrews yn ddiweddar.

Yn ol y wefan http://www.answers.com/
According to the 2001 Census, 167,487 people (10.4% of the population) had some knowledge of Irish
Ugain I Un
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 01 Awst 2006 10:57 am

Nôl

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron