Wel, ie, a dyna tôn llawer o sylwadau Magan - dyw'r bobl 'ma ddim yn fy neall, felly mae'n iawn i fi gymryd y pis ohonyn nhw, achos nhw sy'n rong, a fi sy'n iawn. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng hyn a dweud wrth rhyw Americanwr o dwrist "dych chi gyd yn dwpsinod tew" pan mae'n gofyn i ti "say something in Welsh, it's such a <i>beautiful</i> language". Mae'n jôc sy'n ddoniol am hanner eiliad, ond mae'n arwydd o ddi-obaith.
Eto, rhaid pwysleisio mod i'n dod at hyn gyda llai na llaw llawn o gardiau, heb weld y cyfres, ac mae'n fwy na phosibl mod i'n anheg i'r boi. Dw i'n chwarae dadleuydd y diafol yma gan fod yr agwedd wahanol rhwng Magan ac Ifor ap Glyn, <b>fel y gwelais i</b>, yn un sy'n werth trafod. I fi. Gall dy filltiroedd di amrywio