gan Dafydd Iwanynyglaw » Maw 21 Awst 2007 8:24 am
Mae Neil Hamilton yn bleidiol iawn i'r Gymraeg - ac roedd o'n aelod blaenllaw o'r Monday Club ac yn gefnodgwr brwd o Ian Smith yn Rhodesia. Debyg i Enoch Powell. Tydi pwynt rhywun ar y sbectrwm wleidyddol ddim yn dweud dim am eu safiad ar ddefnydd iaith. Gellir dweud mai'r chwith wleidyddol wnaeth mwy i ymrwymo yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith i fewn i Ganoligrwydd y DG yn hytrach na'r dde, ac wrth gwrs o'r dde (gydag elfennau eithafol) y daeth Lewis a Bebb.
Ar lefel wleidyddol, un elfen mewn ymdrech i sicrhau grym trwy greu hunaniaeth mytholegol yw iaith - os yw iaith benodol yn hybu grym y person sydd eisiau/mewn grym, yna fe fyddant yn dod o hyd i ddadleuon i "brofi" hynny. Petai Barcelona wedi cefnogi Franco yn 1936, bid siwr buasai'r 40 mlynedd nesaf wedi bod yn wahanol iawn yng Nghatalwnia. "Myth" y FN yn Ffrainc yw "Ffrainc", sef gwladwriaeth unedig, uniaith, felly o reidrwydd rhaid dileu gwahaniaeth (debyg i rai o'r elfennau yng ngenedlaetholdeb Cymreig y 30au oedd yn creu syniad o Gymru ar sail cymuned wledig, neo-ffiwdal fel ffordd o ymwrthod rhag y byd newydd trefol, ddemocrataidd.)
Os ydi'r anrhydeddus Mr Llwyd yn gywir am genedlaetholdeb fel ideoleg "denau" (darn da ar Brooks yn tu chwith, Rhys - dipyn yn fyr, ond difyr), mae'n bosib fod yr un peth yn wir am iaith - ideoleg denau ydyw i'w llenwi, fel po'r galw, gan syniadau gwleidyddol eraill (e.e. yng Nghymru gellir gweld dibyniaeth Rhyddfrydwyr y 19fed ganrif ar yr ardaloedd Cymraeg a Llafur yn yr 20fed ar yr "American Wales" (chwedl Dai Smith), a'r ffordd mae Bourne et al rwan yn ceisio symud i ryw fath o safbwynt Gymraeg, i gyd fel ffyrdd o ddelio efo iaith yng nghyd-destun thioriau gwleidyddol ehangach.)
Ie, ie. Na fe.