Y dde eithafol a dwyieithrwydd

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y dde eithafol a dwyieithrwydd

Postiogan Ar Roue » Iau 01 Chw 2007 10:02 pm

Rhyw ddeg niwrnod yn ol bu Marine Le Penn ar y teledu yn siarad yn erbyn y defnydd o'r ieithoedd "rhanbarthol". Cyfeiriodd yn arbennig at y modd roedd y Llydaweg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer addysg a digwyddiadau cyhoedus, ac ar arwyddion ffyrdd" "Roedd yr ymddangosiad hwn o ddwyieithrwydd yn fater difrifol iawn. (ac yn ymosodiad ar Ffrainc ?)

Dydd llun roedd Le Pen yn Roazhon fel rhan o ymgyrch y FN ar gyfer llywyddiaith Ffrainc, ac roedd gwrthdystwr i;w chroesawu yn orsaf tren y ddinas,

gellir gweld darn o;r gwrthdystiad yma

http://www.dailymotion.com/Stourm/video ... nif-290107
Rhithffurf defnyddiwr
Ar Roue
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Maw 23 Ion 2007 2:53 pm
Lleoliad: LLOEGR

Postiogan Geraint Edwards » Iau 01 Chw 2007 10:34 pm

Dyna eironi. Wyddoch chi mai Llydawr o dras yw ei thad, Jean Marie Le Pen? Mae'n dod o Ar Drinded Karnag (La Trinité sur Mer), pentref glan mor tafliad carreg o feini hirion Carnac.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan Dylan » Sul 04 Chw 2007 5:26 am

Fideo gwych gwych gwych. Bron ag ennyn deigryn.

record Ffrainc ar ieithoedd lleiafrifol yn gwneud i Loegr hyd yn oed edrych yn lled gydymdeimladwy
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Positif80 » Sul 04 Chw 2007 5:56 am

Dwi'n tueddol o gymeryd ochr Brian Pillman ar yr pwnc yma, sef: WHO GIVES A FLYING FUCK? Sori, ond mi fydd ieithoedd lleiafrifol fel y Cymraeg yn byw 'sdim ots pa mor wirion mae'r twats di-wybodaeth yn ymdwwyn.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Dylan » Sul 04 Chw 2007 6:02 am

ti'n treulio lot o amser yn teithio o un edefyn i'r nesa yn datgan yn groch nad wyt ti'n poeni am y pwnc o dan sylw. Mae hynny'n cymryd dipyn o ymroddiad am rhywun mor ddi-hid :winc:

cer i gwely :D
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Positif80 » Sul 04 Chw 2007 6:04 am

Dylan a ddywedodd:ti'n treulio lot o amser yn teithio o un edefyn i'r nesa yn datgan yn groch nad wyt ti'n poeni am y pwnc o dan sylw. Mae hynny'n cymryd dipyn o ymroddiad am rhywun mor ddi-hid :winc:

cer i gwely :D


Pwynt da. Dwi weld cael digon o Budweisers (cwrw swyddogol Duw) felly off i'r gwley a fi.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan CaptainBrugge » Sul 19 Awst 2007 10:02 am

Dylan a ddywedodd:Fideo gwych gwych gwych. Bron ag ennyn deigryn.



Da ni fel Cymry, yn gyffredinol, yn lot rhy passive
CaptainBrugge
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Llun 29 Mai 2006 11:33 am

Postiogan Macsen » Llun 20 Awst 2007 8:53 am

Dylan a ddywedodd:record Ffrainc ar ieithoedd lleiafrifol yn gwneud i Loegr hyd yn oed edrych yn lled gydymdeimladwy

Y gwahaniaeth yw nad yw Ffrangeg yn edrych yn ryw saff iawn erbyn hyn.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan docito » Llun 20 Awst 2007 1:32 pm

Ma na gymhariaetha fan hyn i'r hyn ddigwyddodd Yn Sbaen adeg Franco. Roedd e o'r farn bod ieithoedd rhanbarthol yn achosi mwy o ddrwg na da i'r wlad yn gyffredinnol ac yn arwain ati ddiffyg undod cenedlaethol. Aeth ati i anghyffreithloni'r ieithoedd lleifarfifol yn yr ysgolion ond fe barhaodd yr ieithoedd fel iath y bobl ac mae'n eironig i ddweud i'r ieithoedd ffynu ar y cyfan yn ystod y cyfnod.
Bellach mae'r sefyllfa wedi newid yn gyfan gwbl gyda nifer o ysgolion yn uniaith yn dysgu yr iaith/ddeialect rhanbarthol.
Fe wnes i gael trafodaeth ddwys am hyn gyda rhai o drigolion lleol pentre bychan yn rhanbarth valenia. Roeddent hwy o'r do hyn o gyfnod franco oedd yn meddu ar sbaeneg a Valenciano (rwy'n siarad sbaeneg a don i ddim yn deall gair o valenciano). Fe nododd y dynion bod yna bryder mawr bellach yn ardal nad yw sbaeneg y plant yn ddigon da a'u bod yn methu i fynd i brifysgolion tu allan i'r rhanbarth. Cofiwch dyw'r sefyllfa ddim yr un peth a ninnau fan yma sy'n gwbl ddywieithog. Roedd y pentre ro'n i'n aros ynddi yn gyfan gwbl valenciano.
ddim yn siwr beth oedd pwynt y cyfranniad ond jyst eisie siarad.
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Maw 21 Awst 2007 8:24 am

Mae Neil Hamilton yn bleidiol iawn i'r Gymraeg - ac roedd o'n aelod blaenllaw o'r Monday Club ac yn gefnodgwr brwd o Ian Smith yn Rhodesia. Debyg i Enoch Powell. Tydi pwynt rhywun ar y sbectrwm wleidyddol ddim yn dweud dim am eu safiad ar ddefnydd iaith. Gellir dweud mai'r chwith wleidyddol wnaeth mwy i ymrwymo yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith i fewn i Ganoligrwydd y DG yn hytrach na'r dde, ac wrth gwrs o'r dde (gydag elfennau eithafol) y daeth Lewis a Bebb.

Ar lefel wleidyddol, un elfen mewn ymdrech i sicrhau grym trwy greu hunaniaeth mytholegol yw iaith - os yw iaith benodol yn hybu grym y person sydd eisiau/mewn grym, yna fe fyddant yn dod o hyd i ddadleuon i "brofi" hynny. Petai Barcelona wedi cefnogi Franco yn 1936, bid siwr buasai'r 40 mlynedd nesaf wedi bod yn wahanol iawn yng Nghatalwnia. "Myth" y FN yn Ffrainc yw "Ffrainc", sef gwladwriaeth unedig, uniaith, felly o reidrwydd rhaid dileu gwahaniaeth (debyg i rai o'r elfennau yng ngenedlaetholdeb Cymreig y 30au oedd yn creu syniad o Gymru ar sail cymuned wledig, neo-ffiwdal fel ffordd o ymwrthod rhag y byd newydd trefol, ddemocrataidd.)

Os ydi'r anrhydeddus Mr Llwyd yn gywir am genedlaetholdeb fel ideoleg "denau" (darn da ar Brooks yn tu chwith, Rhys - dipyn yn fyr, ond difyr), mae'n bosib fod yr un peth yn wir am iaith - ideoleg denau ydyw i'w llenwi, fel po'r galw, gan syniadau gwleidyddol eraill (e.e. yng Nghymru gellir gweld dibyniaeth Rhyddfrydwyr y 19fed ganrif ar yr ardaloedd Cymraeg a Llafur yn yr 20fed ar yr "American Wales" (chwedl Dai Smith), a'r ffordd mae Bourne et al rwan yn ceisio symud i ryw fath o safbwynt Gymraeg, i gyd fel ffyrdd o ddelio efo iaith yng nghyd-destun thioriau gwleidyddol ehangach.)
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron