Tudalen 1 o 1

Pwyleg ar yr heol yn Lloegr

PostioPostiwyd: Gwe 16 Chw 2007 12:12 pm
gan Dili Minllyn
Diddorol. Dw'n gyfarwydd ag enwau strydoedd dwyieithog yn Llundain (yn ieithoedd Asiaidd yn bennaf), ond dyma'r tro cyntaf i mi weld arwydd ffordd swyddogol o'r fath.

(Mae'r llun yn rhoi ychydig o gamargraff, gan nad yw'n dangos yr arwydd Saeseng gerllaw).

PostioPostiwyd: Gwe 16 Chw 2007 12:45 pm
gan 7ennyn
Cynsail i bwyso ar y siroedd Seisnig ar y ffin i roi'r fersiynau Cymraeg o enwau llefydd yng Nghymru ar eu harwyddion ella?

PostioPostiwyd: Gwe 16 Chw 2007 1:23 pm
gan Dili Minllyn
Buodd ymgyrch aflwyddiannus ynghylch gorsafoedd yn ddiweddar.

Er hynny, wele hwn. Gwell nag a gei di gan ambell gyngor yng Nghymru.

PostioPostiwyd: Sad 17 Chw 2007 3:30 am
gan sanddef
Y tro dwetha imi deithio trwy Iwerddon nes i sylwi ar y ffaith bod yr arwydd digidol yng ngorsaf bysiau Dulyn yn ddwyieithog: Saesneg a'r Bwyleg.