Cymdeithas yr Iaith, Rali Deddf Iaith a Gerry Adams

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymdeithas yr Iaith, Rali Deddf Iaith a Gerry Adams

Postiogan Ugain I Un » Maw 20 Chw 2007 6:27 pm

Cynhalwyd Rali dros Ddeddf Iaith i'r Wyddelig
ar DdyddSadwrn 24 Chwefror 07

Cafodd Cymdeithas yr Iaith gwahoddiad i fynd draw
... sgorlio reit i'r gwelold am luniau' Gerry efo baner Tafod y Ddraig ac am y hanes rali llydduanus iawn... dros 4,000 o bobol!
Ugain I Un
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 01 Awst 2006 10:57 am

Postiogan Chip » Maw 20 Chw 2007 8:22 pm

faint mor gryf ma'r mudiadau iaith draw fan yno, i gymharu gyda cymru?
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Os oes na rhywun yn mynd o Gymru?

Postiogan Ugain I Un » Mer 21 Chw 2007 10:49 am

Dwn i ddim sut mae pethe yno o gymharu a Chymru?

Mae na dipyn o dyfiant yn dysgu Gwyddelig, ysgolion etc yn 6 sir y gogledd ers yr 80au. Hefyd mae na canolfan celfyddydau iaith wyddelig yn y Falls Rd (Ble mae'r rali yn cychwyn). Dwi'n meddwl bod ganddynt radio cymunedol yn wyddelig ym Melffast. Hefyd wrth gwrs mae Lá - y papur dyddiol o Belffast hefyd.

Oes na unrhywun yn ar ran CYIG mynd Dydd Sadwrn? Dwi'n gwybod bod na lot o ddiddordeb ymhlith ymgyrchwyr yn Iwerddon yn CYIG.

Os oes na rhywun yn mynd o Gymru - cysyllta a fi trwy neges preifat ar Maes E - ac efallai nai ddod efo chi (dim ond £60 dwy ffordd o Lerpwl ar EasyJet)

Diolch
Huw
Ugain I Un
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 01 Awst 2006 10:57 am

Hedfan 7 y bore o Lerpwl

Postiogan Ugain I Un » Iau 22 Chw 2007 4:22 pm

Mae na griw yn mynd o Gymru
Yn hedfan am 7 y bore - EasyJet o Lerpwl

Croeso i bawb arall
Ugain I Un
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 01 Awst 2006 10:57 am

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 22 Chw 2007 5:15 pm

Yn ogystal a'r cynrychiolwyr o Gymdeithas yr Iaith, mae'r mudiad wedi anfon neges o gefnogaeth (yn Wyddeleg) fydd yn cael ei ddarllen allan yn y rali.

Mae'n bwysig i bwyso ar y Llywodraeth Lafur o sawl cyfeiriad ynghylch hawliau ieithyddol a diffyg statws y Gymraeg a'r Wyddeleg.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 23 Chw 2007 11:29 am

cymdeithas.org a ddywedodd:Cefnogi Gorymdaith dros Ddeddf Iaith Wyddeleg

Ar Ddydd Sadwrn 24 Chwefror bydd Gwyn Sion Ifan, Sel Jones a Huw Jones o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn teithio i Belfast i fynychu gwrthdystiad dros Ddeddf Iaith Gwyddeleg i ogledd Iwerddon, ac i ddatgan cefnogaeth i’r 160,000 o siaradwyr yr Wyddeleg yn y gogledd. Yn ogystal â’r orymdaith ei hun, bydd cyngherddau a digwyddiadau ieithyddol eraill yn cyd-fynd â hi. Mae'r Gymdeithas eisioes wedi danfon neges o gefnogaeth at drefnwyr yr orymdaith.

Meddai Catrin Dafydd, Cadeirydd Grŵp Deddf Iaith y Gymdeithas:

"Mae Cymdeithas yr Iaith yn falch o gefnogi’r rali yn Belfast. Mae ein hymgyrch ni dros ddeddf iaith newydd yng Nghymru yn rhan o fudiad byd-eang i sicrhau hawliau dynol sylfaenol i bobloedd y byd. Wrth fynnu ein hawliau ni i bobl Cymru, rydyn ni’n sefyll gydag eraill fel siaradwyr yr Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon wrth iddynt fynnu eu hawliau nhw drwy ddeddfwriaeth."

Bydd yr orymdaith yn cychwyn ger y ganolfan ddiwylliant a chelf 'Cultúrlann McAdam Ó Fiaich' am 1pm, cyn gorymdeithio draw i 'Poets Square' yng nghanol Belfast, lle y'i cyferchir gan Janet Muller, Prif Weithredwraig POBAL, Cymdeithas ymbarel yr iaith Wyddeleg; Gerry Adams, Llywydd Sinn Féin; Cynrychiolwyr yr SDLP, ac aelodau blaenllaw sefydliadau Gaeleg eraill.

Cynnwys y neges o gefnogaeth a ddanfonwyd at drefnwyr yr orymdaith yw:

"Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dymuno yn dda i chi yn eich protest dros hawliau i'r Wyddeleg yn Béal Feirstre dydd Sadwrn. Yr ydym ni yma yng Nghymru yn ymladd dros gryfhau Deddf yr Iaith Gymraeg ar hyn o bryd fel bod y Gymraeg yn gyfartal â'r Saesneg. Credwn fod gan siaradwyr Gwyddeleg yng ngogledd Iwerddon yr hawl i ddisgwyl yr un hawliau ieithyddol a siaradwyr Saesneg y rhanbarth. Edrychwn ymlaen at gael cydweithio er mwyn sicrhau cyfiawnder i'r Gymraeg a'r Wyddeleg."

Mae’r mudiad iaith ymbarél POBAL - http://www.pobal.org - yn gweithio ers tair blynedd ar ddeddf iaith ac maen nhw wedi cyflwyno cynigion manwl a drafft o ddeddf a fyddai’n rhoi statws swyddogol i’r iaith yng Ngogledd Iwerddon, hawliau i siaradwyr yr Wyddeleg i ddefnyddio’r iaith ym maes addysg, y llysoedd, y cyfryngau, sefydliadau gwleidyddol, y gweithle etc. a byddai’n sefydlu swydd Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg a chorff cynllunio.

Yr Wyddeleg yw iaith swyddogol gyntaf Gweriniaeth Iwerddon. Yn 2003 pasiodd y Weriniaeth y Ddeddf Ieithoedd Swyddogol. Yn Ionawr 2007 daeth yr Wyddeleg yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Adrodd nol

Postiogan Ugain I Un » Llun 26 Chw 2007 10:06 am

Roedd y Rali yn gwych – tua 5,000 o bobl!!!

Cawsom croeso bendigedig. Cefais fy synnu faint o bobl oedd yn gallu cwpl o eiriau o Gymraeg gyda ambell un yn siarad Cymraeg yn rhugl ini. Rhoddwyd crysau T yr ymgyrch ini o fewn eiliadau ini gyrraedd.

Dechreuodd y gorymdaith o'r 'Culturlann' – sef canolfan celfyddydau / iaith Wyddelig yng nghanol y Falls Rd. Un o brif adeiladau y Falls Rd i ddweud y gwir. Mae'r lle'n smart iawn gyda caffi neis iawn a siop lyfrau yn y gwaelod a dosbarthiadau ar gyfer dysgu'r iaith a swyddfeydd mudiadau iaith fyny grysau. Hefyd stiwdio gorsaf radio cymunedol iaith Wyddelig 'Radio Failte,' radio pirate sy newydd cael trwydded.

Roedd y rali wedi trefnu'n slic iawn – er doeddent yn medru cael eu corn siarad i weithio chwaith... run fath a phob rali CyIG erioed!

Lot fawr o bobl ifanc yno a fel rali CyIG lot rhieni efo prams. I fi roedd yr holl beth yn edrych fel Rali CyIG ond efo lot, lot fwy o bobl. Dim iwnifforms neu bandiau pib fel y delwedd oedd gennyf fi o orymdaithau gogledd Iwerddon.

Yn wahannol iawn i rhai weithgareddau CyIG doedd dim presenoldeb mawr yr heddlu - Dim ond dau gerbyd heddlu naeth troi fyny'n (yn hwyr iawn) i'n arwain twy'r traffig i ganol y ddinas. Cerddon ni'n gwbl di drafferth i'r sgawr o flaen Neuadd y ddinas ble oedd 'bunting' wedi hongian ac roedd treilar lori mawr gyda system sain ar gyfer llwyfan. Wnaeth un o drefnwyr y rali gosod poster CyIG ar gefn y treilar/llwyfan yn amlwg iawn.

Ymhlith y siaradwyr oedd Gerry Adams – boi hollol charasmatic pan ti'n weld o go iawn – tydi o ddim yn dod drosodd felly ar y teledu. Mae gennyf lot o luniau ohono efo'r poster CyIG tu cefn iddo. Wnai danfon y lluniau i Maes E ac eraill heno 'ma. (heb gael cyfle i fynd trwy pethe ers dod adra... lwcus i gyrraedd gwaith yn iawn bore Llun)

Fy argraffiadau
- Ar ol erchylltra'r 'trafferthion' mae'r cymuned gweriniaethol yn cymryd at ddysgu ac hyrwyddo eu hiaith fel peth positif, cyffroes i'r dyfodol. Ac fel ffordd o ail fywiogi cymunedau di-freintiedig. Cafodd y Wyddelig ei banio hyd dechrau'r 1990au felly mae frwdfrydedd anhygoel.

- Wnaeth rhai arwainwyr gweriniaethol edrych ar Gymru a llwyddiant CyIG yn olfalus iawn tu 20 mlynedd nol fel ffordd ymlaen iddyn nhw. Dwi'n 100% sicr o hwn. Dwi'n cofio criw Sinn Fein yn dod drosodd i ymweld a CyIG yn yr 80au a CyIG yn cael llwyth o gachu yn y wasg a gan Dafydd Elis Thomas. “Dach chi eisiau troi Cymru fel gogledd Iwerddon' a “mae CyIG yn mynd fel yr IRA” oedd eu beirniadaeth nhw. Collon nhw y pwynt yn llwyr. Nawr bod heddwch, rhai o griw gogledd Iwerddon sydd copio llwyddiant ieithyddol Cymru a'r lot o weriniaethwyr sy'n troi mewn i fersiwn nhw o CyIG!!!

- Ar y rali roedd pobl o bob fath – rhan mwyaf dim yn siaradwyr Gwyddelig. Nid jyst criw bach, bach o ymgyrchwyr fel ralis CyIG.

- Mae nhw'n gyfathrebu'n dda iawn efo pobl tu allan i'r cylch bach o ymgyrchwyr – yn arbennig pobol heb yr iaith. Lot o placards gyda phethe amlwg iawn fel “Bi-lingual is Best” a “2 languages twice as good'. Mae maethiant CyIG i neud pethe amlwg fel hyn wedi bod yn siom mawr imi erioed

- Iddyn nhw, tydi cael grant ac arian cyhoeddus dim yn golygu bod yn hollol di asgwrn cefn ac yn an-wleidyddol fel mae lot o Gymry. Wnaethon ni gyfarfod dau newyddiadurwyr un o La - y papur newydd, a boi arall oedd yn cyfrannu at raglenni BBC Radio Ulster. Y dau ohonynt oedd yn rhan o drefniadau y rali'n rhanni placardiau a dal banneri ac arwain y chantio. Anodd dychmygu lot o bobl sydd wedi mynd i weithio i'r cyfryngau neu sefydliad yma yn neud hynny.

Fy mhrif argraff .... Roedden nhw yn ein edrych arnon ni am ysbrydoliaeth yn y gorffennol – ni dylai edrych beth maen nhw'n gwneud nawr i'n hysbrydoli ni heddiw.

Sori dwi wedi mwydro ymlaen am hir... gobeithio bod yr uchod o ddiddordeb?

Wnai sorito allan y lluniau heno

Huw
Ugain I Un
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 01 Awst 2006 10:57 am

Postiogan jammyjames60 » Llun 26 Chw 2007 6:11 pm

Pam 'dach chi'n feddwl oedd na lot mwy o bobl yn y gorymdaith hon i'w gymharu â be' 'dan ni'n ei weld yng Nghymru?

*A ydynt gyda diwylliant mwy protestiadol na Chymru, fel mae Ffrainc?
*Ai oherwydd roedd y gorymdaith yma yn newydd, ffres, a mi oedd pawb eisiau bod yn rhan ohoni?
*Ai oherwydd nad oeddent yn poeni am gael eu galw'n 'nashes' gan nad oedd stigma yng nghysylltiedig â'r mudiad eto (sydd yn broblem gyda chymdeithas yr Iaith yn fy marn i)?
* Ai oherwydd mae llawer mwy o bobol yn meddwl mae problem mawr hefo hawliau ynglyn â'u hiaith yn Iwerddon, lle yng Nghymru, maent yn credu mae'r Gymraeg yn ddiogel ?

Dwi'n meddwl bod o'n beth anhygoel doth cyn gymaint o bobol i'r mudiad yma, o weld pa mor beryglus oedd o, i ddeud y gwir. O weld y defnyddiodd yr IRA y Wyddeleg fel arf yn erbyn yr unoliaethwyr, mae'n peth anhygoel trodd cyn gymaint o bobl allan o dan yr amgylchiadau yna, i'r protestwyr cael y gyts i brotestio am yr iaith ar 'cae sgwar' yr unionists, mae'n turn out wych.

Dwi'n trio meddwl pam mae cyn gymaint mwy....
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan Chip » Llun 26 Chw 2007 8:29 pm

mae'n syndod mawr i glywed bo'r weddeleg wedi bod yn anghyfreithlon hyd y 90au, falle hyn 'di un o'r rhesymau pam ma'r mudiad mor gryf yno achos bod nw yn gofyn am hawliau mor, mor sylfaenol ac amlwg.
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Máirtín - Cyfaill y Gymdeithas

Postiogan Ugain I Un » Llun 26 Chw 2007 9:47 pm

http://apublishersblog.blogspot.com/

Canmol CyIG ar blog personal cyn gynghorydd Sinn Fein a ddoth draw i Gymru yn yr 80au. Mae Máirtín bellach yn berchnnog ar gwmni o papurau newydd yr Andersontown News

Pobl gorllewin Belffast yn edmygu Cymdiethas yr Iaith yn fwy na'r Gymry...
Wel... Dydach chi byth yn arwr yn eich gwlad eich hun!

(Efallai sgoriolio i lawr ar ol at ei gyfraniadu am Sul Chwef 25)
Ugain I Un
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 01 Awst 2006 10:57 am

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron