Miloedd yn rhedeg 1,500 o filltiroedd dros eu hiaith

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Miloedd yn rhedeg 1,500 o filltiroedd dros eu hiaith

Postiogan HuwJones » Gwe 23 Maw 2007 7:10 pm

Miloedd o bobl y rhedeg 1,500 o filltiroedd dros eu hiaith,
tra fod hanner miliwn o bobl eraill yn eu gwylio.


Delwedd

Ar Ddydd Iau 21 Mawrth fe gychwynnodd y Korrika (Rhediad) o amgylch Gwlad y Basg er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian dros Euskera (iaith y wlad).

Bydd criwiau'n rhedeg cyfanswm o 1,500 o filltiroedd gan gychwyn wrth ymyl Bilbo ac yn gorffen ar 1 Ebrill yn Iruña (Pamplona). Trwy ddilyn ffordd cwmpasog iawn bydd y Korrika yn galw heibio cymaint o ardaloedd hyd a lled y wlad â phosibl, o ddinasoedd fel Gasteiz (Vitoria) a Donostia (St. Sebastian) i bentrefi bychain uchel ym mynyddoedd y Pyrenee a threfi lan mor fel Donibane Lohitzun (Saint Jean de Luz ) ar ochr Ffrainc y ffin.

Cynhelir y Korrika pob dwy flynedd a hon fydd y 15fed. Trefnir y cyfan gan AEK, mudiad gwirfoddol sydd yn hybu llythrennedd a dysgu'r iaith i oedolion. Mae'r arian a gasglir o'r Korrika yn mynd at gyflogau 500 o athrawon mewn dros 100 o Euskaltegis (ysgolion iaith). Mae gwaith AEK yn ogystal â'r darpariaeth sylweddol y system addysg swyddogol.

Stori llawn ar Eurolang.net
http://www.eurolang.net/index.php?optio ... =1&lang=cy

Mae diwedd y clip yma ar YouTube yn dangos maint y peth
http://www.youtube.com/watch?v=p0ZQoXDDn68

Gyda llaw mae'r Korriak yn mynd dydd A nos am y 10 diwrnod - fel y gwelir ar y clip o fffilm yma.
http://www.youtube.com/watch?v=AGlTKU_kpSs


Delwedd
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Postiogan sanddef » Gwe 23 Maw 2007 8:23 pm

Da iawn. Roeddwn i yno ar gyfer yr un ym 1995, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd o.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan HuwJones » Sad 24 Maw 2007 9:14 pm

A dyma gwpl o ddarnau o ffilm eraill sydd wedi ymddangos ar YouTube
Mae'r peth yn anhygoel - pam na chawn ni rhywbeth fel hyn dros y Gymraeg?

Gwerth eu gweld

http://www.youtube.com/watch?v=xHIrL4ph040

http://www.youtube.com/watch?v=cqECBNeOqvk
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Postiogan sanddef » Sul 25 Maw 2007 12:34 am

Wedi blogio amdani fan hyn.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Positif80 » Sul 25 Maw 2007 4:09 am

O wel...rhedwch am eich iaith, gan wybod y bydd y Saesneg yn ei threchu yn y flynyddoedd i ddod. Brilliant. Pnawn well spent. Iesu Grist, am beth hurt i wneud. Rhedeg am eich iaith. Ffor ffycs secs :rolio:

Dwi wedi cael llond bol a;r bobl achingly trendi sydd yn ceisio dangos pa mor cwl yr ydynt trwy cefnodi'r achosion lleiafrifol yma. 'Rydym i gyd ar amser sydd wedi'i benthyg (i ddwyn dywediad Saesneg). Mae'r Cymraeg wedi diwrywio i ryw fratiaeth llwyr, a mi fydd y ieithoedd eraill yn marw marwolaeth yr un mor trychinebus a'r Cymraeg.

Shit happens, mae ieithoedd yn marw. Dwi wedi cael llond bol o smalio poeni am rywbeth bu farw yn oes y Rhufeiniaid. Nihilistaidd? Collfarnus? Ie'n wir. Ond mae fy llygaid i yn agored. Dwi'n aros am y fomb mawr; dwi'm gwybod na fydd y "Gymraeg" yn goroesi'n hirach na fy amser pitwi i ar y ddaear. Dwi 'mond yn siarad yr iaith allan o euogrwydd.

Nid yw'tr good guys byth yn ennill. Mi fydd juggerauut y Saesneg yn faedddu unrhyw iaith lleiafrifol yn pendraw. Wel, y Saesneg neu Chinese. Either or.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan HuwJones » Llun 26 Maw 2007 11:35 am

a mi fydd y ieithoedd eraill yn marw marwolaeth yr un mor trychinebus a'r Cymraeg.


Nace wir! Nid oes rydan ni'n gwneud mwy o ymdrech nac rydan ni'n neud ar hyn o bryd. Yr holl bwynt o gynnwys newyddion am Wlad y Basg ar MaesE yw bod nifer o siaradwyr Basgeg yn cynyddu. Mae ymdrechion enfawr maent yn neud dros eu haiith yn meddwl bod Basgeg yn ffynnu .

Gyda maint y wlad a maint poblogaeth yn reit debyg i Gymru - mae'n difyr iawn i weld sut maen nhw'n mynd ati. Petawn ni ddilyn esiampl y Basgwyr gallwn sicrhau bydd darlun y nesges blaenorol ddim yn dod yn wir

(Gyda llaw diolch am dy neges Positif80 - mae dy insults patheig personol ond yn neud i fi'n fwy penderfynnol)
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Postiogan SerenSiwenna » Llun 26 Maw 2007 12:23 pm

Ella wneith o ddim fawr o wahaniaeth ond o leia bod nhw'n trio ac yn mwynhau wrth wneud.

Fues i yn gweithio yn gwlad y basg am mis un haf mewn ysgol haf ac roedd y plant yn fanna yn benderfynol iawn mai Basg oeddynt am siarad gydol ei hoes - hyd ynoed y rhai 4-5 mlwydd oed, roeddynt yn falch iawn o'i hetifeddiaeth. Mae digwyddiadau fel yr un uchod yn cyfnerthu'r teimladau hyn ac felly fydd y plant yn cadw'r iaith trwy bywydau. Dwi ddim yn meddwl wneith iaith y basg dirywio na diflanu heb rhyw drastic measures rywsut.

Ella bysa rhywbeth tebyg yn gweithio yng Nghymru? 8) Fysa'n hwyl beth bynnag ac mae gen i angen cael gwared a pwys neu ddau eniwe :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan Griff-Waunfach » Llun 26 Maw 2007 12:39 pm

Ardderchog i weld
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Llun 26 Maw 2007 12:55 pm

Lwcys nad oes gan bawb yr un agwedd diog a Positif 80, neu fyddai'r ddynoliaeth heb foddran dysgu siarad yn y lle cyntaf. Fydden ni dal yn byw mwen coed rywle am ei fod o'n ormod o drafferth dod i lawr.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan sanddef » Llun 26 Maw 2007 1:09 pm

Positif80 a ddywedodd:O wel...rhedwch am eich iaith, gan wybod y bydd y Saesneg yn ei threchu yn y flynyddoedd i ddod. Brilliant. Pnawn well spent. Iesu Grist, am beth hurt i wneud. Rhedeg am eich iaith. Ffor ffycs secs :rolio:


Mae'r Korrika yn llwyddiant enfawr. Ffaith.

Dwi wedi cael llond bol a;r bobl achingly trendi sydd yn ceisio dangos pa mor cwl yr ydynt trwy cefnodi'r achosion lleiafrifol yma.


Beth yw trendi? Cymryd diddordeb mewn bywyd?

'Rydym i gyd ar amser sydd wedi'i benthyg (i ddwyn dywediad Saesneg). Mae'r Cymraeg wedi diwrywio i ryw fratiaeth llwyr, a mi fydd y ieithoedd eraill yn marw marwolaeth yr un mor trychinebus a'r Cymraeg.


Felly pam gwastraffu dy amser yn ymweld a maes-e?

Shit happens, mae ieithoedd yn marw. Dwi wedi cael llond bol o smalio poeni am rywbeth bu farw yn oes y Rhufeiniaid. Nihilistaidd? Collfarnus? Ie'n wir. Ond mae fy llygaid i yn agored.


Na, ti'n amlwg yn hollol ddall

Dwi'n aros am y fomb mawr; dwi'm gwybod na fydd y "Gymraeg" yn goroesi'n hirach na fy amser pitwi i ar y ddaear.


Pwy arall deudodd hynny? Rhywun o gwmpas amser y Llyfrau Gleision dw'i'n credu. Ta waeth, ti jyst yn mwydro wan.

Dwi 'mond yn siarad yr iaith allan o euogrwydd.


Ys dywed yn America: duh!

Nid yw'tr good guys byth yn ennill. Mi fydd juggerauut y Saesneg yn faedddu unrhyw iaith lleiafrifol yn pendraw. Wel, y Saesneg neu Chinese. Either or.


Dylet ti ystyried gwerthu dy set deledu. Mae'n aflonyddu ar dy ymennydd. Neu ar beth bynnag sy gen ti tu mewn i dy benglog.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron