Miloedd o bobl y rhedeg 1,500 o filltiroedd dros eu hiaith,
tra fod hanner miliwn o bobl eraill yn eu gwylio.
Ar Ddydd Iau 21 Mawrth fe gychwynnodd y Korrika (Rhediad) o amgylch Gwlad y Basg er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian dros Euskera (iaith y wlad).
Bydd criwiau'n rhedeg cyfanswm o 1,500 o filltiroedd gan gychwyn wrth ymyl Bilbo ac yn gorffen ar 1 Ebrill yn Iruña (Pamplona). Trwy ddilyn ffordd cwmpasog iawn bydd y Korrika yn galw heibio cymaint o ardaloedd hyd a lled y wlad â phosibl, o ddinasoedd fel Gasteiz (Vitoria) a Donostia (St. Sebastian) i bentrefi bychain uchel ym mynyddoedd y Pyrenee a threfi lan mor fel Donibane Lohitzun (Saint Jean de Luz ) ar ochr Ffrainc y ffin.
Cynhelir y Korrika pob dwy flynedd a hon fydd y 15fed. Trefnir y cyfan gan AEK, mudiad gwirfoddol sydd yn hybu llythrennedd a dysgu'r iaith i oedolion. Mae'r arian a gasglir o'r Korrika yn mynd at gyflogau 500 o athrawon mewn dros 100 o Euskaltegis (ysgolion iaith). Mae gwaith AEK yn ogystal â'r darpariaeth sylweddol y system addysg swyddogol.
Stori llawn ar Eurolang.net
http://www.eurolang.net/index.php?optio ... =1&lang=cy
Mae diwedd y clip yma ar YouTube yn dangos maint y peth
http://www.youtube.com/watch?v=p0ZQoXDDn68
Gyda llaw mae'r Korriak yn mynd dydd A nos am y 10 diwrnod - fel y gwelir ar y clip o fffilm yma.
http://www.youtube.com/watch?v=AGlTKU_kpSs