Angen help Sbaeneg

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Angen help Sbaeneg

Postiogan nicdafis » Maw 10 Ebr 2007 9:59 pm

Dw i am gofrestru ar y <a href="http://elcantodelloco.com/Foro/index.php">bwrdd negeseuon yma</a>, ond dw i'n methu'n lan ffeindio fy ffordd trwyddo. Fyddai rhywun yn fodlon creu cyfrif i fi ac wedyn cysylltu â fi mewn neges sydyn i ddweud beth yw'r cyfrinair?

Y rheswm yw bod rhywun/rhai sy'n defnyddio'r bwrdd yn dwyn "bandwidth" maes-e gan ddefynddio lluniau oddi ar fy gnweinydd, ond heb gyfrif dw i'n methu gweld pa lun(-iau) maen nhw'n dwyn.

Dw i newydd stopio <a href="http://www.futbol-global.net/foro/viewtopic.php?t=3344&start=25">rhywun arall</a> rhag wneud hyn - ffan Van der Graaf Generator o'r Eidal, mae'n debyg. Blydi hipis.

A rhyw <a href="http://badulyrics.blogspot.com/2007/04/john-bauer.html">flogiwr</a>, hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan sanddef » Maw 10 Ebr 2007 10:45 pm

Dw'i ddim yn gweld unrhyw opsiwn cofrestru yno. Jyst mewngofnodi.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Re: Angen help Sbaeneg

Postiogan Al » Maw 10 Ebr 2007 10:52 pm

nicdafis a ddywedodd:Dw i am gofrestru ar y <a href="http://elcantodelloco.com/Foro/index.php">bwrdd negeseuon yma</a>, ond dw i'n methu'n lan ffeindio fy ffordd trwyddo. Fyddai rhywun yn fodlon creu cyfrif i fi ac wedyn cysylltu â fi mewn neges sydyn i ddweud beth yw'r cyfrinair?


Beth am drio Google Translator, falle ei fod o braidd yn anghywir, ond yn well na dim..
Al
 

Postiogan eifs » Maw 10 Ebr 2007 11:05 pm

geshi sbec gyna, tria mynd i prif dudalen y band, mae na le yno i gofrestru, cofrestru i be, dwnim. Dim ond yn y man yna fedrai weld rhywle i gofrestru unrhywbeth

http://elcantodelloco.com/

pwyso ar y botwm sydd yn dweud nuevo usuario

a wedyn gweddio!
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 10 Ebr 2007 11:15 pm

Yn anffodus rhaid i ti brynu'r CD er mwyn cael cod* arbennig er mwyn gosod cyfrif ar y wefan. Gyda hwn cei fynediad i bob math o betha, ond sdim ffordd o amglych hynny mi dybiaf. :(

* dyw rhaglen to bach ddim yn gweithio ar y pc hwn am ryw reswm :?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan nicdafis » Mer 11 Ebr 2007 8:46 am

O'r gorau, diolch bois. Wna i drial cysylltu â'r band neu rywbeth.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron