Tudalen 1 o 1

Llywodraeth Sbaen yn ceisio carcharu yr Harry Potter Catalan

PostioPostiwyd: Llun 03 Medi 2007 11:15 am
gan HuwJones
Mae hanes y wladwriaeth Sbaeneg i erlyn ffan Harry Potter 14 oed yn fwy anodd i gredu i nag un rhywbeth mae JK Rowling byth wedi sgwennu

Tua bedair blynedd nol wnaeth hogyn 14 oed o'r enw Eric o'r dref Lloret de Mar sgwennu ebost at gwmnau fel rhan o'r ymgyrch i gael labeli yn yr iaith Catalan ar gynnyrch yn y siopau.
Gan fod Eric yn ffan mawr o lyfrau Harry Potter wnaeth o arwyddo'r llythyr yn 'Eric i l'Exit de Phoenix' (Eric and the Army of the Phoenix).

Dychmyga sioc ei deulu felly pan ddaeth 20 o heddlu gwrth-derfysgol i'w ty yn chwilo am gell al-Qa'ida a llusgu'r hen Eric o flaen yr uchel lys ym Madrid am fygythiadau terfysgol .
Pan mynnodd Eric siarad Catalan a dweud nad oedd o'n Sbaenwr ceisiodd seiciatrig yr heddlu cudd profi ei fod yn dioddef o broblemau meddyliol! Roedd ei deulu yn ystyried gadael Sbaen i wlad arall a gofyn am political asylum! Mae ei gefnogwyr bellach wedi cymryd camau yn erbyn Llwyodraeth Sbaen yn llys iawderau dynol Strasbourg a'r Cynheloedd Unedig.

Mae Eric bellach wedi dod yn enwog iawn, mae mawrion fel Noam Chomseky wedi'i gefnogi. Mae llyfr am ei hanes yn best seller ac mae drama comedi am ei hanes wedi bod yn llwyddiant mawr ar lwyfannau.

Mae'r rhaglen dogfen "Eric and the Army of the Phoenix" bellach wedi'i postio ar YouTube gydag is-deitlau Saesneg ac yn bendant gwerth ei gwylio.
Mae o mewn 5 darn byr. Dyma linc i'r rhan gyntaf: http://www.youtube.com/watch?v=aIiRFSCgGu4

Gwefan cefnogi Eric yn Saesneg http://www.ericielfenix.cat/index.php?o ... &Itemid=55

PostioPostiwyd: Llun 03 Medi 2007 11:42 am
gan nicdafis
Stori anhygoel.

Blogiaf.

PostioPostiwyd: Llun 03 Medi 2007 11:53 am
gan Griff-Waunfach
Diddorol iawn! Felly beth oedd cynnwys y llythyrau anfonodd e at y busnesau hyn?

PostioPostiwyd: Llun 03 Medi 2007 1:14 pm
gan dafz
Wwww... Diddorol!

PostioPostiwyd: Llun 03 Medi 2007 1:30 pm
gan nicdafis
Griff-Waunfach a ddywedodd:Diddorol iawn! Felly beth oedd cynnwys y llythyrau anfonodd e at y busnesau hyn?


Mae'n darllen ei ebost ym munud cyntaf y clip cyntaf.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Medi 2007 5:11 pm
gan Gwenci Ddrwg
Amhosib. Credwn i ddim hynny taswn i ddim yn darllen yr erthygl bellach.

Ewww sori am fy Nghymraeg ddrwg!

PostioPostiwyd: Gwe 14 Medi 2007 5:13 pm
gan Positif80
Yn fy marn i, mae Harry Potter yn bla ar ein ieuenctid, felly carcharwch y byggar bach - sefyll i fyny dros ei iath neu'i peidio.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Medi 2007 10:13 pm
gan Kez
Positif80 a ddywedodd:Yn fy marn i, mae Harry Potter yn bla ar ein ieuenctid, felly carcharwch y byggar bach - sefyll i fyny dros ei iath neu'i peidio.


Sut y gelli di weid shwt beth?

Mae'n gas gen i dy deip di o 'muggle'.

Bysa 'Azkaban' yn rhy dda o lawer iti!!!

PostioPostiwyd: Sad 15 Medi 2007 2:10 am
gan Gwenci Ddrwg
Yn fy marn i, mae Harry Potter yn bla ar ein ieuenctid, felly carcharwch y byggar bach - sefyll i fyny dros ei iath neu'i peidio.

Ydy hynny'n ddifrif?

Wrth gwrs, i ddeud y gwir dwi'n meddwl bod HP yn eithaf canolig...