Mae hanes y wladwriaeth Sbaeneg i erlyn ffan Harry Potter 14 oed yn fwy anodd i gredu i nag un rhywbeth mae JK Rowling byth wedi sgwennu
Tua bedair blynedd nol wnaeth hogyn 14 oed o'r enw Eric o'r dref Lloret de Mar sgwennu ebost at gwmnau fel rhan o'r ymgyrch i gael labeli yn yr iaith Catalan ar gynnyrch yn y siopau.
Gan fod Eric yn ffan mawr o lyfrau Harry Potter wnaeth o arwyddo'r llythyr yn 'Eric i l'Exit de Phoenix' (Eric and the Army of the Phoenix).
Dychmyga sioc ei deulu felly pan ddaeth 20 o heddlu gwrth-derfysgol i'w ty yn chwilo am gell al-Qa'ida a llusgu'r hen Eric o flaen yr uchel lys ym Madrid am fygythiadau terfysgol .
Pan mynnodd Eric siarad Catalan a dweud nad oedd o'n Sbaenwr ceisiodd seiciatrig yr heddlu cudd profi ei fod yn dioddef o broblemau meddyliol! Roedd ei deulu yn ystyried gadael Sbaen i wlad arall a gofyn am political asylum! Mae ei gefnogwyr bellach wedi cymryd camau yn erbyn Llwyodraeth Sbaen yn llys iawderau dynol Strasbourg a'r Cynheloedd Unedig.
Mae Eric bellach wedi dod yn enwog iawn, mae mawrion fel Noam Chomseky wedi'i gefnogi. Mae llyfr am ei hanes yn best seller ac mae drama comedi am ei hanes wedi bod yn llwyddiant mawr ar lwyfannau.
Mae'r rhaglen dogfen "Eric and the Army of the Phoenix" bellach wedi'i postio ar YouTube gydag is-deitlau Saesneg ac yn bendant gwerth ei gwylio.
Mae o mewn 5 darn byr. Dyma linc i'r rhan gyntaf: http://www.youtube.com/watch?v=aIiRFSCgGu4
Gwefan cefnogi Eric yn Saesneg http://www.ericielfenix.cat/index.php?o ... &Itemid=55