Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon a'r Wyddeleg

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon a'r Wyddeleg

Postiogan S.W. » Llun 08 Hyd 2007 8:25 am

Casineb amlwg Unoliaethwyr tuag at y Wyddeleg wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar:

http://news.bbc.co.uk/1/hi/northern_ireland/7032764.stm

http://news.bbc.co.uk/1/hi/northern_ireland/7028542.stm
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Griff-Waunfach » Maw 09 Hyd 2007 12:35 pm

Mr McNarry said there was plenty of recognition already for the language and is also opposing proposed legislation for an Irish Language Act.


Ond mae deddf iaith yn rhan o gytundeb St Andrews?!
Oeddwn i yn meddwl bod del wedi cael ei neud i cynnwys Ulster Scots yn y deddf iaith hefyd?
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan S.W. » Maw 09 Hyd 2007 5:38 pm

Wel, mi fethodd mesur un o MLAs yr UUP i geisio gwahardd y Gwyddeleg o siambrau Stormont beth bynnag

http://news.bbc.co.uk/1/hi/northern_ireland/7036276.stm
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan HuwJones » Mer 10 Hyd 2007 9:19 am

Bydd y stori yma ar wefan Eurolang.net yn y dyddiau nesaf gyda bach o lwc - hefyd gyda newyddion am y camau mae llywodraeth yr Alban yn cymryd i ddefnyddio'r iaith Aeleg

Mae'r enw "Scottish Executive' a'r coron yn mynd i gael ei newid gan lywodraeth y SNP i "Scottish Government /Riaghaltas na h-Alba" gyda baner yr Alban - heb y goron - ar y logo.

Tybed beth mae unoliaethwyr - sydd yn edrych tua'r Alban cymaint - yn meddwl o hyn oll? Ydy eu syniadaeth o 'Brydeindod' yn cael eu tanseilio wrth i'r Alban dilyn trywydd debyg i Eire?

Dwi wedi edrych ar sawl wefan o ogledd Iwerddon ond heb weld unrhyw trafodaeth / erthyglau sy'n cyfeirio at hyn.

SW - mae gent ti fathodyn Glasgow Rangers ar gyfer dy negeseuon i Maes E.. Wyt ti'n ymwybodol o drafodaeth am y pwnc gan unolaethwyr?


Dyma'r stori diwedda am ogledd Iwerddon oedd ar Eurolang.net
http://www.eurolang.net/index.php?optio ... =1&lang=cy
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Postiogan S.W. » Mer 10 Hyd 2007 10:02 am

Na dwi'm yn ymwybodol o unrhyw beth, yn bennaf gan nad ydw i'n cymysgu a Unoliaethwyr Ulster Scots. Dwi di bod i dafandai cefnogwyr Rangers yn yr Alban a mae pawb sy'n fy nabod yn y cylchoedd yno yn gwybod be di fy ngwleidyddiaeth i - Cenedlaetholwr Cymraeg.

Dwi'n credu bod yr Alban yn codi cwestiynau o fewn carfannau o'r boblogaeth Unoliaethol sydd a chystylltiadau a'r Alban, a mae rôl Glasgow Rangers yn hynny yn ran o'r drafodaeth. Mae nifer o gefnogwyr yr SNP yn aelodau o Rangers (nid mwyafrif yn sicr), mae Govan sy'n cynnwys stadiwm Ibrox a stadau tai Protestanaidd iawn - bues i yno am dro rhai misoedd yn nol a gweld sawl Orange Lodge etc yno, bellach yn etholaeth SNP yn Senedd yr Alban.

Serch hynny. dwi'm yn credu bydd yn tanseilio eu credoau Unoliaethol. O dras Albanaidd ydynt, a maent yn dewis dathlu hynny, nid Albanwyr mohonynt. Mae'r iaith Ulster Scots fel y Gwyddeleg wedi ei 'wleidyddio' yn drwm yn y dalaith gyda Ulster Scots yn cael ei ystyried yn iaith Unoliaethol (er i mi ddallt bod nifer sylweddol o siaradwyr Ulster Scots yn Gatholigion!), a'r Wyddeleg yn iaith Weriniaethol.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Mer 10 Hyd 2007 10:35 am

Yn y drafodaeth ar y mater, dywedodd Caral Ni Chuilin, nid yw iaith yn destun cythrwbwl gwleidyddol yng Nghymru.

Helo, Caral, dyma'r Blaned Ddaear yn galw.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan S.W. » Mer 10 Hyd 2007 11:21 am

I fod yn deg os ti'n cymharu hi a sefyllfa'r iaith yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban dydy hi ddim yn destyn gwleidyddiaeth.

Ar y cyfan mae holl bleidiau y Cynulliad yn gefnogol i'r iaith ac ar y cyfan mae mwyafrif poblogaeth Cymru yn o leiaf derbyn y ffaith bod y Gymraeg yn hawlio rhywfaint o statws yn y wlad. Mae pobl fel Chris Bryant yn ceisio gwneud testyn gwleidyddiaeth allan o'r iaith unwaith yn ragor ond maent yn methu'n lan.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan HuwJones » Mer 10 Hyd 2007 12:10 pm

Diolch SW am dy ateb blanorol - difyr iawn. Dim ond unwaith mod i wedi bod i'r Alban, dwi'n gwybod ychydig iawn am y lle mewn gwirionedd. Mae'n ymddangos imi fod yr Alban yn newid lot ers datganoli. Lot fwy na Chymru mae'n siwr. Dwi'n meddwl bydd cefnogwyr Rangers yn dal i ddefnyddio'r union jack fel rhan o'u 'image' yn hir ar ol i'r Alban ennill ei hannibyniaeth, er fod hynny'n ymddangos yn peth reit anghyson. Stim problem o gwbl efo bod yn anghyson.

Cyn belled a neges DI yn y G. Ie wir! Mae cefnogwyr y Wyddelig yn dueddol o feddwl bod pob dim yn berffaith ynglyn a'r Gymraeg. Ar y llaw arall, hyd yn oed ar ol heddwch torri allan yno, mae natur 'dadleuon' yn ogledd Iwerddon gallu gyrraedd lefel o ffyrnigrwydd tasa dychryn unrhywun o Gymru. Rydan ni'n ffodus iawn yma.
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Postiogan S.W. » Mer 10 Hyd 2007 12:35 pm

Diolch SW am dy ateb blanorol - difyr iawn. Dim ond unwaith mod i wedi bod i'r Alban, dwi'n gwybod ychydig iawn am y lle mewn gwirionedd. Mae'n ymddangos imi fod yr Alban yn newid lot ers datganoli. Lot fwy na Chymru mae'n siwr. Dwi'n meddwl bydd cefnogwyr Rangers yn dal i ddefnyddio'r union jack fel rhan o'u 'image' yn hir ar ol i'r Alban ennill ei hannibyniaeth, er fod hynny'n ymddangos yn peth reit anghyson. Stim problem o gwbl efo bod yn anghyson.


Synnwn i ddim dy fod yn iawn. Byddwn nhw (fel unrhyw glwb arall) ddim am gael eu gweld yn colli eu symbolau (hyd yn oed os ydynt a symbnoliaeth gwleidyddol tu hwnt i Ibrox). Mae chwifio'r UJ a canu caneuon Prydeinllyd afiach gymaint iw wneud hefo gwilltio Celtic ag y mae o a unrhyw beth arall.

Mae ne gynnydd pendant wedi bod yn y nifer o bobl sy'n chwifio'r Saltire yn lle'r UJ yn Ibrox a mewn gemau Rangers yn y blynyddoedd diwethaf serch hynny, ges i rhywun yn cynnig bet hefo fi i mi fynd i Ibrox (nhw'n talu) i chwifio banner "Welsh Not British" yn y gem. Dwi'm mor ddewr a hynny.....eto.

Wrach un diwrnod nawn nhw ddilyn Motherwell a chael Billboard yr SNP yn y maes.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan S.W. » Maw 16 Hyd 2007 9:51 am

Y DUP rwan yn ceisio cefnu ar gytundeb gyda Sinn Fein i gael Ddeddf Iaith Wyddeleg

http://news.bbc.co.uk/1/hi/northern_ireland/7046117.stm
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron