gan Seonaidh/Sioni » Iau 11 Rhag 2008 8:24 am
Wel dyma Hen Air Saesneg wedi'w fenthyg gan yr Aeleg - "baidhseagal". Un arall? "telebhisean". Fel a ddywedwyd uchod, mae pob iaith yn benthyg o bobman. Serch hynny, be mae Myrddyn Bragwr yn dweud am ddatblygiad y Saesneg? Ydi o'n son am eiriau megis "betws" ac "awgrymu", hen fenthyciadau o'r Saesneg i'r Gymraeg a'r geiriau Seasneg rwan heb eu defnyddio mwyach? Pryd bydd fersiwn Gymraeg ar y silffau? Daw Moelfryn, fi'n credu, o fro Cumbria, llawn trefi bychain ag enwau fel "Penrith", "Cumrew", "Ravenglass", "Carlisle" ac ati.
A bheil thu gam aithneachadh?