Mae'r cefnogwyr yr iaith Lydaweg wedi mabwysiadu'r syniad o gynnal marathon rhedeg yn yr un steil a'r Basgwyr... er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r iaith ac annog pobl i'w dysgu.
Bydd y "Redadeg" yn mynd am 600km ym mis Ebrill. Gweler y wefan: http://arredadeg.free.fr/
Roedd na drafodaeth ar Maes E amser bach yn ol am y "Korrika" sef y fersiwn Basg sydd yn cael eu cefnogi gan filoedd o bobol bellach. Gwaetha modd wnaeth y trafodaeth ar Maes-E dangos bod rhai Cymry ddim hanner mor positif a hyderus a phobloedd eraill.. gydag un person yn arbennig yn postio negeseuon reit gas.
Tasa cynnal rhyw fath o sioe fawr fel hyn yn ffantastig i'r Gymraeg... Os mae'r Llydawyr, Basgwyr a Chatalanwyr yn gwneud .. beth amdanon ni???
Trafodaeth gwreiddiol ar Maes E http://www.maes-e.com/viewtopic.php?t=22159