Rhedeg dros yr Iaith Lydaweg

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rhedeg dros yr Iaith Lydaweg

Postiogan HuwJones » Maw 13 Tach 2007 1:59 pm

Mae'r cefnogwyr yr iaith Lydaweg wedi mabwysiadu'r syniad o gynnal marathon rhedeg yn yr un steil a'r Basgwyr... er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r iaith ac annog pobl i'w dysgu.

Bydd y "Redadeg" yn mynd am 600km ym mis Ebrill. Gweler y wefan: http://arredadeg.free.fr/

Roedd na drafodaeth ar Maes E amser bach yn ol am y "Korrika" sef y fersiwn Basg sydd yn cael eu cefnogi gan filoedd o bobol bellach. Gwaetha modd wnaeth y trafodaeth ar Maes-E dangos bod rhai Cymry ddim hanner mor positif a hyderus a phobloedd eraill.. gydag un person yn arbennig yn postio negeseuon reit gas.

Tasa cynnal rhyw fath o sioe fawr fel hyn yn ffantastig i'r Gymraeg... Os mae'r Llydawyr, Basgwyr a Chatalanwyr yn gwneud .. beth amdanon ni???

Trafodaeth gwreiddiol ar Maes E http://www.maes-e.com/viewtopic.php?t=22159





Delwedd
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Rhedeg dros yr Iaith Lydaweg

Postiogan Gowpi » Maw 13 Tach 2007 3:34 pm

HuwJones a ddywedodd:.. gydag un person yn arbennig yn postio negeseuon reit gas.

Positif 80 meddyliais i fy hun? Ie, oedd yr ateb nid annisgwyl.
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Postiogan Rhys » Maw 13 Tach 2007 5:07 pm

Efallai dylai criw o Gymru fynd draw i brofi'r peth (ymchwil cofiwch nid piss up). Reit ta ble rois i fy sgidiau rhedeg?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan HuwJones » Mer 14 Tach 2007 10:47 am

Tasa gret i gael criw i fynd draw o Gymru i gefnogi'r peth.
Swn i wrth fy modd i fynd.. hyd yn oed i drio rhedeg (y can llath cyntaf).

Tybed tasa Cymdeithas Cymru Llydaw yn gallu hel criw at ei gilydd???

Mwy o newyddion am y Rhediad Llydaweg yma:
http://www.eurolang.net/index.php?optio ... =1&lang=cy
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 22 Tach 2007 4:24 am

Tasa cynnal rhyw fath o sioe fawr fel hyn yn ffantastig i'r Gymraeg... Os mae'r Llydawyr, Basgwyr a Chatalanwyr yn gwneud .. beth amdanon ni???

Dydy eich iaith ddim ny fynd i ddarfod mewn 30 mlynyddfel y Llydaweg...ond wrth gwrs dylech chi feddwl amdani hi beth bynnag. Os ydy hynny'n gefnogi'ch iaith, pam dim?
Golygwyd diwethaf gan Gwenci Ddrwg ar Sad 24 Tach 2007 5:58 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Postiogan Nei » Iau 22 Tach 2007 10:13 am

30 mlynedd? Dyna i gyd ti'n rhoi i'r LLydaweg?
Me meus nemed naou miz da roul va yaounkiz...
Rhithffurf defnyddiwr
Nei
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 235
Ymunwyd: Llun 27 Hyd 2003 6:37 pm
Lleoliad: Pontypridd

Re: Rhedeg dros yr Iaith Lydaweg

Postiogan Positif80 » Iau 22 Tach 2007 2:15 pm

Gowpi a ddywedodd:
HuwJones a ddywedodd:.. gydag un person yn arbennig yn postio negeseuon reit gas.

Positif 80 meddyliais i fy hun? Ie, oedd yr ateb nid annisgwyl.


Pompus, toi? Oes tywod yn y dy fagina neu rywbeth? Why only the other day, o'n i'n brwshio gwallt cathod bach a helpu orphans i groesi'r ffordd.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sad 24 Tach 2007 5:56 am

30 mlynedd? Dyna i gyd ti'n rhoi i'r LLydaweg?

Mae'r rhan fwyaf (fel tua 70-80%) o'i siaradwyr yn hen (60+). Wedyn 20 neu 30 mlynedd mae'r siaradwr 'na'n mynd i fod yn marw. Mae 0.5% o bobl dan 20 yn medru'r iaith. Ceisia'i wneud y fathemateg.

Rhwng 1900-1940/1950 ceisiodd Ffrainc i ladd ieithoedd fel Llydaweg yn ddifrif iawn iawn (a rwan maen nhw'n cwyno am sefyllfa Québéc yng Nghanada!). :rolio: Felly mae 'na llai o siaradwyr sy'n dwad o'r oes wedyn 1950. Maen nhw'n aml heddiw, ond eithaf hen. (Mae fy Nghymraeg yn wan felly gallwn i ddim egluro yn well 'na hwn ond dwi'n credu bod y rheswm 'ma'n gwir).
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Postiogan Nei » Iau 29 Tach 2007 1:59 pm

Gwenci drwg, sdim ishe iti esbonio'r sefyllfa i fi, ma mam yn Llydawes! jyst fi sy'n eternal optimist o ran ffigyre'r iaith
Me meus nemed naou miz da roul va yaounkiz...
Rhithffurf defnyddiwr
Nei
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 235
Ymunwyd: Llun 27 Hyd 2003 6:37 pm
Lleoliad: Pontypridd

Postiogan Gwenci Ddrwg » Mer 05 Rhag 2007 5:56 am

Eternal optimist? Nid digon cryf fel disgrifiad. Hoffwn weld yr iaith dal cael ei siarad wrth gwrs, ond yn realistig...be ydy dy rheswm i fod yn mor positif amdani hi? Eglura plis, dwi'n chwilfrydig.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai