Cartwn yn Fanaweg

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cartwn yn Fanaweg

Postiogan Gwenci Ddrwg » Mer 12 Rhag 2007 5:56 am

Dwi newydd glywed am y cartwn cyntaf ar gael yn yr iaith Fanawaidd, a ro'n i'n rhyfeddod os buasech chi'n ffeindio hynny'n ddiddorol. Dyma'r cyswllt (mae 'na cyswllt arall ar y wefan at enghraifft os dach chi'n gallu dall yr iaith):

http://www.friendsandheroes.com/news.htm

Yn sylfaenol mae sioe Saesneg wedi cael ei cyfieithu, ond dwi ddim erioed wedi dod o hyd iddo fo ar deledu o gwbl (yn ei fersiwn Saesneg wrth gwrs, dwi'm yn meddwl bod y fersiwn Manaweg wedi cael ei arddangos hyd yn hyn). Pwy sy wedi gweld hwn?
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Postiogan dewi_o » Mer 12 Rhag 2007 11:52 am

Gwych ! Ffantastic i weld bod ymdrechion i greu adnoddau i blant mewn un o'r ieithoedd celtaidd.

Oes rhywun yn gwybod os yw plant yn dysgu'r iaith yn yr ysgol ac os ydy'r iaith yn ail ddangos ei hun ar yr ynys ?
Golygwyd diwethaf gan dewi_o ar Mer 12 Rhag 2007 9:45 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 12 Rhag 2007 1:22 pm

Mae plant yn dysgu'r iaith yn yr ysgolion, er wn i ddim yn iawn i ba raddau, ac hyd y gwn i gellir astudio'r Fanaweg fel pwnc yn yr ysgolion uwchradd hyd at lefel TGAU o leiaf (er dw i'm yn hollol sicr o hyd).

Yn ôl y cyfrifiad diwethaf ar Ynys Manaw mae tua 1,600 o bobl yn siarad y Fanaweg, ond dw i'n siwr dw i 'di darllen yn rhywle mae tua 40-60 sy'n siarad yr iaith fel iaith gyntaf, sy'n sicr yn awgrymu bod darpariaeth yn yr ysgolion, o leiaf.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Rhys » Mer 12 Rhag 2007 4:55 pm

May yna un ysgol gynradd cyfrwng Mannaeg ac mae yna Gymro (Mnr Rogers) yn dysgu ynddi fel athro!

Mae yna bennod am hanes yr iaith ac ymdrechion unigolion i'w hadfywio yn y llyfr bengigedig Spoken Here - werth ei ddarllen.

Newydd am y Fannaweg ar wefan papur newydd lleol
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 13 Rhag 2007 4:21 am

mae tua 40-60 sy'n siarad yr iaith fel iaith gyntaf

56 neu 59 yn union, dwi wedi cael gwybodaeth anghyson o bobl wahanol. Bellach mae'r grwp cyntaf yn symud i ysgol elfennol a bydd cyrsiau Manaweg ar gael yno hefyd ond dwi'm yn gwybod faint. Buasai ysgol elfennol trochiad cwl i weld ond does gan Mooinjer Veggey ddim lot o arian ar y funud.

Spoken Here

Llyfr da iawn, gan Canadiad mewn gwirionedd. Darllenais i hi un neu tri mlynedd nol.

PS yn ogystal â'r bethau ym most Rhys mae newyddion radio ar gael hefyd: http://www.manxradio.com/newsIndexGaelic.aspx
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai