Ffilm am foi sy'n ond yn gallu siarad Wyddelig

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffilm am foi sy'n ond yn gallu siarad Wyddelig

Postiogan HuwJones » Llun 17 Rhag 2007 7:21 pm

Ffilm fer am foi sy'n deffro un bore ac yn darganfod ei fod ond yn gallu siarad a deall Gwyddelig

http://sluggerotoole.com/index.php/webl ... d-bhearla/
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Ffilm am foi sy'n ond yn gallu siarad Wyddelig

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 18 Rhag 2007 3:00 pm

HuwJones a ddywedodd:Ffilm fer am foi sy'n deffro un bore ac yn darganfod ei fod ond yn gallu siarad a deall Gwyddelig

http://sluggerotoole.com/index.php/webl ... d-bhearla/

Mae hon yn chwaer ffilm i "Yu Ming Is Ainm Dom" am foi Tseiniaidd a'i straffig wrth ddysgu Gwyddeleg.

Ar ôl gwylio'r ddwy ffilm tua deg gwaith, dwi'n ffeindio'r agwedd tuag at y Wyddeleg yn y ddwy ffilm braidd ar yr ochr negatif erbyn hyn a deud y gwir. Ma na chydig o elfen o weld yr iaith fel rhywbeth quaint, rhyw anomaly diwylliannol, yn hytrach na iaith gyfathrebu fyw yn y ddwy ffilm. Fel rhywun yn edrych mewn ar danc pysgod. Wedi deud hynny, i bobol sydd ddim yn siarad iaith leiafrifol o ddydd i ddydd dwi'n siwr ei bod hi'n codi lot o gwestiynau, a ma Yu Ming wastad yn mydn lawr yn dda yn nosweithiau Pictiwrs felly pwy dwi i ddeud de.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan HuwJones » Mer 19 Rhag 2007 9:16 am

Ti'n iawn bod na ochr uffernol o negyddol am y ffilm (dwi heb gael cyfle i weld y llall eto) - mae'n amlwg bod gan y Gwyddelod hyd yn oed mwy o hang ups am eu hiaith na sydd gan y Cymry. Fel petai nhw'n gorfod cael y joc i mewn cyntaf yn erbyn eu hun cyn bod neb arall yn.
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Postiogan Rhys » Mer 19 Rhag 2007 11:19 am

Ychydig oddi ar y pwnc, ond dwi'n cofio gweld Satellite City un tro (sy'n ddoniol fel ffwc yn fy marn i), ac roedd Randy (yr Americanwr os nad ydych yn gyfarwydd a'r rhaglen) yn dysgu Cymraeg. Roedd pawb arall yn chwerthin am ei ben a dweud, does neb yn siarad Cymraeg. :?

Yn eironig mae hanner y cast yn siaradwyr Cymraeg :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 20 Rhag 2007 11:38 pm

Trist i weld bod Gwyddeleg yn ymddangos yn mor defnyddiol 'na Ffrangeg yno!

Ma tête...

Ah merde alors!
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 21 Rhag 2007 10:53 am

Gwenci Drwg a ddywedodd:Trist i weld bod Gwyddeleg yn ymddangos yn mor defnyddiol 'na Ffrangeg yno!

Ma tête...

Ah merde alors!


A thristach fyth y jôc fawr yn Yu Ming yw fod y ddau wyddel yn Nulyn â dim syniad pa iaith mae Paddy'n siarad. Allai ddim coelio hyn a deud y gwir, gan fod rhywfaint o Wyddeleg yn orfodol i bawb yno.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron