Tudalen 2 o 3

Re: Sesiwn Siarad Sbaeneg/Catalan/ Basgeg

PostioPostiwyd: Maw 18 Maw 2008 9:58 pm
gan HuwJones
Beth ydi 'blymin hec' yn Sbaeneg? ' Joder' neu 'Coño' mae'n siwr
Wnes i dy fethu di drwy drwch blewyn - wnes i gyrraedd y Douglass jyst am naw o'r gloch. Dywedoedd y ddynes tu ol y bar roeddet ti newydd, newydd wedi mynd.

Mae ddrwg iawn gennyf am hynny. mae'n baraidd yn anodd imi gyrraedd lot cyn naw. Stim byd gwaeth na thrio trenfu pethe ond i deimlo fod bobl yn dy adael i lawr. Dwi bendant am ddod i'r nosweithiau, dwi'n diolchgar iti am eu sortio allan. Felly welai di y tro nesa, ac os dwi ddiim yno'n brydlon, paid a phoeni, chill out, mwynha dy beint a byddaf yna cyn hir!

Eskerrik asko
Huw

Re: Sesiwn Siarad Sbaeneg/Catalan/ Basgeg

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 10:49 am
gan m.c.macrall
Kaxio

No te preocupades. Quieres cambiar el tiemp a 8.30 ?

Yo espero que venga. Debo practicar mas.

Agur

Re: Sesiwn Siarad Sbaeneg/Catalan/ Basgeg

PostioPostiwyd: Maw 01 Ebr 2008 7:26 am
gan m.c.macrall
Bon Dia

Yo espero ver todos alli este noche 8.30 ?

Agur

Re: Sesiwn Siarad Sbaeneg/Catalan/ Basgeg

PostioPostiwyd: Maw 01 Ebr 2008 4:50 pm
gan Mihangel Macintosh
Ymddiheiriadau ond dwi yng Nghaerdydd.

Fins ara

Re: Sesiwn Siarad Sbaeneg/Catalan/ Basgeg

PostioPostiwyd: Sad 31 Mai 2008 7:29 pm
gan Iago2
Oes un ohnoch chi selogion y Dyglas all roi fi ar ben ffordd i ddysgu rhywfaint o Gatalaneg neu Sbaeneg? Ma gen i grap reit dda ar y Ffrangeg a'r Eidaleg ond hoffwn i fedru dweud rhywfaint yng Nghatalaneg gan fy mod yn mynd i briodas yng Nghatalwnia ym mis Hydref.

Re: Sesiwn Siarad Sbaeneg/Catalan/ Basgeg

PostioPostiwyd: Sul 01 Meh 2008 3:28 am
gan Mali
Dwi newydd gychwyn taclo'r llyfr 'Spanish for Dummies' :P , ond mi fasa hi'n braf medru ymarfer be dwi 'di ddysgu ayb efo rhywun arall.
Yn anffodus , mae Besda ychydig yn rhy bell.....
Oes 'na raglen / rwbath ar y we faswn i'n medru ei ddefnyddio i'm helpu plîs?

Re: Sesiwn Siarad Sbaeneg/Catalan/ Basgeg

PostioPostiwyd: Mer 04 Meh 2008 11:15 pm
gan HuwJones
Helo Mali a Iago
Diolch am y negesuon. Pechod eich bod chi ddim yn byw yn nes at y 'Duggie" i ymuno ac ein sesiynau siarad

SBAENEG
Beth am y Podcasts yma... mae 'Gwers 1' ar waelod y dudalen http://www.notesinspanish.com/category/beginners-podcast/. Ac mae'r wefan gyda stwff i wahanol lefelau, o ddechreuwyr at reit anodd. Mae'r Podcasts am ddim ond yn anffodus mae rhaid talu am y worksheets, ond dylai'r un geirfa a gramadeg sydd yn y Podcasts i ddechreuwyr bod yn 'Spanish for Dummies' neu lyfrau eraill.

Mali - Dwi ddim wedi dod ar draws dim byd 'interactif'. Wnes i gychwyn blynyddoedd yn ol gyda casets ofnadwy o naff (cofio casets?). Mae lot fawr o stwff da iawn ar gael .. llyfrau, CDs ac ar lein. ... Gobeithio bod yr Podcasts yma'n helpu rhywfaint?

CATALÀ
Mae'n anos ffeindio stwff ar gyfer Català yn WH Smiths neu Bookland yng Nghymru wrth gwrs, ond mae'r llyfr yma'n dda a gallet ti ei ordro fo neu gael o Amazon: http://www.teachyourself.co.uk/lcatalan.htm Mae CD ar gael hefyd. Er bod yn ddrutach... swn i gael y CD - mae'n hopeless heb glywed yr ynganiad

Ar line mae na lot fawr.. mae hwn ar gyfer myfyrwyr newydd ym Mhrifysgol Barcelona:
http://www.ub.edu/guiaconversa/angles/a.php?fer=GUIA&idioma%5B%5D=1&idioma%5B%5D=7&ordre=1
Tria y darn 'cyfarchion' am y basics fel hello, sut mae etc.. Gallet ti glcio ar y gair i glywed sut ti'n dweud.

Gobeithio bod hynny'n help?
Buena Suerte / Bon Sort (Pob lwc)
Huw

Re: Sesiwn Siarad Sbaeneg/Catalan/ Basgeg

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2008 2:51 am
gan Mali
Gracias i ti am ymateb Huw , a llawer o ddiolch i ti am y linc. :D

Bydd brêc bach dros yr haf

PostioPostiwyd: Iau 31 Gor 2008 8:12 am
gan HuwJones
Bydd brêc bach yn y nosweithiau yn y Douglas dros yr haf, mae'n debyg bydd sawl un o'r criw i ffwrdd ar wahanol adegau

Y syniad yw i ail-gychwyn ar 16 Medi - ond bydd neges i gadarnhau hynny yma ar Maes-E yn nes at yr amser.

Llawer o ddiolch i bawb sydd wedi troi fyny. Rydan ni wedi gwneud yn dda iawn yn llwyddo cynnal y nosweithiau bron pob wythnos am tua 6 mis!
Mae'r nosweithiau wedi bod yn lot o hwyl efo cwmpeini da - ac yn help mawr wrth drio gwella Español a Català.

Muchas Gracias - Moltes Gracies - Eskerrik Asko

Re: Sesiwn Siarad Sbaeneg/Catalan/ Basgeg

PostioPostiwyd: Gwe 19 Medi 2008 9:42 am
gan m.c.macrall
Amser cychwyn eto ? Ar ol siarad efo ambell un mae'r unig Gatalanes sydd yn mynychu ar gwrs wlapn nos Fawrth a Iau felly buasai nos Fercher yn well di hyn yn iawn efo pawb arall ? I gychwyn ar y 29ain ?