Trueni bod yr ymgyrch wedi ei ddomiwneiddio gymaint gan Weriniaethwyr yn fy marn i. Os dan ni di dysgu unrhyw beth yma yng Nghymru yna'r ffaith bod angen ehangu'r apel tu hwnt i Genedlaetholwyr er mwyn sicrhau chwarae teg i'r iaith.
Dwi'n dallt pam bod Gweriniaethwyr yn chwarae rhan mor blaengar - does dim ond angen cerdded lawr y Shankill a'r Falls i weld pwy sy'n 'perchnogi' yr iaith Wyddeleg yno. Ond dwi yn credu bod angen gwneud llawer mwy serch hynny i dori'r ffiniau i lawr. Os rhywbeth gall ymgyrchu dros ieithoedd leiafrifol Gogledd Iwerddon ar y cyd chwarae rhan bach mewn tori rhywfaint ar y gwagle mawr sy'n parhau rhwng y ddau gymdeithas. Rhywfath o rali "Deddf Ieithoedd Gwyddeleg a Ulster Scots".