Er siŵr bod yr iaith dim ond yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned Gatholig/ Cenedlaetholwyr yng Ngogledd Iwerddon.
Ydw’n gywir i ddweud bod y gymuned Brotestannaidd/unoliaethwyr gyda’u hiaith eu hunain hefyd?
Ti'n iawn - Mae'r Wyddelig yn cael ei gyfrif fel peth Gatholig/ Cenedlaetholwyr er fod na ambell i Brotestaniaid sy wedi dysgu - eithriadau yw rhain.
Yr argraff dwi'n cael yw bod y Gatholig/ Cenedlaetholwyr a'r Gweriniaethwyr yn bennaf yn chwilio am beth positif newydd ar ol y trafferthion. Roedd y Wyddelig wedi banio o dan yr hen gyfundrefn Unolaethol tan tua 20 mlynedd nol! Nawr mae criw reit sylweddol o bobl (rhai ifanc yn bannaf) yn troi at yr iaith - gyda lot fawr o frwdfrydedd ac egni. Rhywbeth debyg i Gymru'r 70au. I gymharu ar erchylltra a phroblemau'r adeg y "Trafferthion" iddyn nhw mae'r iaith yn peth iach, ffres ac maen nhw'n croesawi pawb i'w dosbarthiadau nos.. canolfannau etc..
Wrth cwrs mae na Gatholig/ Cenedlaetholwyr sydd a dim diddordeb yn yr iaith ac mae na bobl Brotestannaidd sydd yn meddwl bod hyrwyddo Gwyddelig yn od, ond tydan nhw ddim yn ypsetio am bobl eraill yn siarad/dysgu... Dim fawr o broblem iddyn nhw i gymharu a phroblemau'r "Trafferthion"
Wedyn mae na rhai Unoliaethwyr sy'n ffricio allan yn llwyr gyda'r syniad o unrhywbeth i ymwneud a'r iaith Wyddelig. Mae stori yma heddiw am grwp o unoliaethwyr yn condemnio yr iaith Wyddelig yn cael ei cynnwys ar y pas-port Prydeinig newydd gan ei fod yn tanseilio eu "Prydeindod" ac yn ildio i derfysgwyr.... Y peth yw Gaelic yr Alban sydd ar y pas-ports a DIM Gwyddelig!!!!! Y stori'n llawn yma:
http://sluggerotoole.com/index.php/webl ... h-blooper/Er fod criw Adams a Criw Paisley yn rhannu grym yn eu Cynulliad (mewn ffordd anhygoel o gyfeillgar mae'n ymddangos), mae'r Unoliaethwyr wedi blocio rhoi hawliau i'r Wyddelig... Felly y rali ar 16.02 i bwyso am Deddf reit elfennol i gymharu a beth rydan ni wedi arfer yng Nghymru.
Mae rhai Protestaniaid y gogledd wedi dechrau galw eu hun yn "Ulster Scot" yn lle Prydeinwyr (neu northern Irish) ac yn hyrwyddo yr iaith/tafodiaith sydd yn perthyn i "Lowland Scots" ac sydd dal i gael ei siarad yn rhannau o'r 6 Sir. Y trafferth gyda phwysleisio eu gwreiddiau a chysylltiadau gydag Yr Alban yw fod yr Alban bellach yn symud tuag annibyniaeth o system gwleidyddol Prydain.. gan achosi mwy o ansicrwydd ac i'r Unoliaethwyr.
Dwi ddim yn gwybod lot am y mudiad iaith Ulster-Scot, ond pob lwc iddyn nhw yn eu hymdrechion i gadw eu hiaith.
Dyma linc i wefan Bwrdd yr Iaith Ulster-scots -
http://www.ulsterscotsagency.com/