Rali Deddf Iaith Belffast Sadwrn, 16 Chwefror

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rali Deddf Iaith Belffast Sadwrn, 16 Chwefror

Postiogan HuwJones » Llun 21 Ion 2008 6:03 pm

Mae rali arall i gefnogi statws i'r iaith Wyddelig ar Sadwrn 16 Chwefror.

Fe es i rali blaenorol y flyddyn ddiwedthaf - roedd hi'n ffantastic, cawson ni gymaint o groeso.
Heblaw am ddangos cefnogaeth a dysgu lot am ogledd Iwerddon roedd y diwrnod yn lot fawr o hwyl.

Buaswn i wrth fy modd i fynd eto eleni ond dwi'n helpu gyda gig yn Cwm y Glo i'r criw anti niwcs y noson honno.

Felly gobeithio bydd criw yn mynd draw o Gymru - a bydd CyIG yn gyrru neges o gefnogaeth eto

Am fanylion pellach o'r rali
http://www.eurolang.net/index.php?optio ... =1&lang=en

A dyma lluniau o Chwefror 2007
Delwedd
Delwedd
Delwedd
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Rali Deddf Iaith Belffast Sadwrn, 16 Chwefror

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 23 Ion 2008 11:35 pm

Os rhywn gyda syniad os taw yn y bore yntai y prynhawn fydd y rali?
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Rali Deddf Iaith Belffast Sadwrn, 16 Chwefror

Postiogan Positif80 » Mer 23 Ion 2008 11:41 pm

'Sgen i'm byd yn erbyn y rali o gwbl, ond mae gweld unryw lun o'r creepy murdering beardy bastard yna'n rywbeth anifyr iawn.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Rali Deddf Iaith Belffast Sadwrn, 16 Chwefror

Postiogan 7ennyn » Iau 24 Ion 2008 12:34 am

Positif80 a ddywedodd:'Sgen i'm byd yn erbyn y rali o gwbl, ond mae gweld unryw lun o'r creepy murdering beardy bastard yna'n rywbeth anifyr iawn.

Bydd llyfrau hanes y dyfodol yn cofnodi dy "creepy murdering beardy bastard" fel un o'r bobl ddaeth a heddwch i Iwerddon.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Rali Deddf Iaith Belffast Sadwrn, 16 Chwefror

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 24 Ion 2008 12:57 am

Sdim barf gyda Tony Blair, oes na? ;)
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Rali Deddf Iaith Belffast Sadwrn, 16 Chwefror

Postiogan Madrwyddygryf » Iau 24 Ion 2008 11:21 am

Dda i weld bod yr ymgyrchwyr y Wyddeleg yn rhai ifanc. Er siŵr bod yr iaith dim ond yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned Gatholig/ Cenedlaetholwyr yng Ngogledd Iwerddon.

Ydw’n gywir i ddweud bod y gymuned Brotestannaidd/unoliaethwyr gyda’u hiaith eu hunain hefyd?
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Rali Deddf Iaith Belffast Sadwrn, 16 Chwefror

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 24 Ion 2008 1:05 pm

I ateb fy ngwestiwn fy hyn, am 1yp fydd y rali yn dechrau, er bod yna rhyw weithdai yn y bore.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Rali Deddf Iaith Belffast Sadwrn, 16 Chwefror

Postiogan HuwJones » Iau 24 Ion 2008 2:43 pm

Er siŵr bod yr iaith dim ond yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned Gatholig/ Cenedlaetholwyr yng Ngogledd Iwerddon.

Ydw’n gywir i ddweud bod y gymuned Brotestannaidd/unoliaethwyr gyda’u hiaith eu hunain hefyd?


Ti'n iawn - Mae'r Wyddelig yn cael ei gyfrif fel peth Gatholig/ Cenedlaetholwyr er fod na ambell i Brotestaniaid sy wedi dysgu - eithriadau yw rhain.

Yr argraff dwi'n cael yw bod y Gatholig/ Cenedlaetholwyr a'r Gweriniaethwyr yn bennaf yn chwilio am beth positif newydd ar ol y trafferthion. Roedd y Wyddelig wedi banio o dan yr hen gyfundrefn Unolaethol tan tua 20 mlynedd nol! Nawr mae criw reit sylweddol o bobl (rhai ifanc yn bannaf) yn troi at yr iaith - gyda lot fawr o frwdfrydedd ac egni. Rhywbeth debyg i Gymru'r 70au. I gymharu ar erchylltra a phroblemau'r adeg y "Trafferthion" iddyn nhw mae'r iaith yn peth iach, ffres ac maen nhw'n croesawi pawb i'w dosbarthiadau nos.. canolfannau etc..

Wrth cwrs mae na Gatholig/ Cenedlaetholwyr sydd a dim diddordeb yn yr iaith ac mae na bobl Brotestannaidd sydd yn meddwl bod hyrwyddo Gwyddelig yn od, ond tydan nhw ddim yn ypsetio am bobl eraill yn siarad/dysgu... Dim fawr o broblem iddyn nhw i gymharu a phroblemau'r "Trafferthion"

Wedyn mae na rhai Unoliaethwyr sy'n ffricio allan yn llwyr gyda'r syniad o unrhywbeth i ymwneud a'r iaith Wyddelig. Mae stori yma heddiw am grwp o unoliaethwyr yn condemnio yr iaith Wyddelig yn cael ei cynnwys ar y pas-port Prydeinig newydd gan ei fod yn tanseilio eu "Prydeindod" ac yn ildio i derfysgwyr.... Y peth yw Gaelic yr Alban sydd ar y pas-ports a DIM Gwyddelig!!!!! Y stori'n llawn yma: http://sluggerotoole.com/index.php/webl ... h-blooper/

Er fod criw Adams a Criw Paisley yn rhannu grym yn eu Cynulliad (mewn ffordd anhygoel o gyfeillgar mae'n ymddangos), mae'r Unoliaethwyr wedi blocio rhoi hawliau i'r Wyddelig... Felly y rali ar 16.02 i bwyso am Deddf reit elfennol i gymharu a beth rydan ni wedi arfer yng Nghymru.

Mae rhai Protestaniaid y gogledd wedi dechrau galw eu hun yn "Ulster Scot" yn lle Prydeinwyr (neu northern Irish) ac yn hyrwyddo yr iaith/tafodiaith sydd yn perthyn i "Lowland Scots" ac sydd dal i gael ei siarad yn rhannau o'r 6 Sir. Y trafferth gyda phwysleisio eu gwreiddiau a chysylltiadau gydag Yr Alban yw fod yr Alban bellach yn symud tuag annibyniaeth o system gwleidyddol Prydain.. gan achosi mwy o ansicrwydd ac i'r Unoliaethwyr.

Dwi ddim yn gwybod lot am y mudiad iaith Ulster-Scot, ond pob lwc iddyn nhw yn eu hymdrechion i gadw eu hiaith.
Dyma linc i wefan Bwrdd yr Iaith Ulster-scots - http://www.ulsterscotsagency.com/
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Rali Deddf Iaith Belffast Sadwrn, 16 Chwefror

Postiogan Pogo » Gwe 25 Ion 2008 1:02 am

7ennyn a ddywedodd:
Positif80 a ddywedodd:'Sgen i'm byd yn erbyn y rali o gwbl, ond mae gweld unryw lun o'r creepy murdering beardy bastard yna'n rywbeth anifyr iawn.

Bydd llyfrau hanes y dyfodol yn cofnodi dy "creepy murdering beardy bastard" fel un o'r bobl ddaeth a heddwch i Iwerddon.


Fyddan nhw ddim.

Bydd llyfrau hanes y dyfodol yn cofnodi'r un barddog fel, "creepy murdering beardy bastard" a wnaeth dim byd o werth yn ei fywyd.
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

Re: Rali Deddf Iaith Belffast Sadwrn, 16 Chwefror

Postiogan HuwJones » Gwe 25 Ion 2008 9:08 am

Gan fod chi i gyd yn ffans o'r hen Gerry dyma cwpl o luniau eraill tynnais ohono fo

Delwedd
Delwedd

hefyd - ffilm o'r rali y flwyddyn ddiwethaf - ac ie, mae Gerry ar hwnna hefyd.
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai