Iaith y Pictiaid?

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Iaith y Pictiaid?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 20 Chw 2008 9:46 pm

Holloll gywir - yn iaith Iran (Farsi) mae gair am "drwg". A dyma'r gair, wedi'w sillafu gan ein habiec ni - "bad"! Nag ydy i'n credu, o ddifrif, i "black" ddod o "beltza", ond mae'n ddidorol beth bynnag!
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Iaith y Pictiaid?

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 21 Chw 2008 4:27 am

Holloll gywir - yn iaith Iran (Farsi) mae gair am "drwg". A dyma'r gair, wedi'w sillafu gan ein habiec ni - "bad"!

Waw, ti'n jocio? Wel yn dechnegol maen nhw'n credu bod ein ieithoedd Ewropeaidd yn dod o'r un rhan o'r byd felly dim synnu os wyt ti'n meddwl amdani. Mae gynnon ni lawer o eiriau oddi wrth Sanskrit, sy wedi cael ei siarad yn agos iawn i Iran mwy 'na 2000 blynedd yn ôl. Er enghraifft, geiriau fel "ti" (Cymraeg) "tu" (Ffrangeg), "thou" (Saesneg Ganol) ac ati. Sut? Wel, dim syniad o gwbwl. :ofn:

Ac ar yr un bwnc cyffredinol, mae Basgeg yn ofnadwy o ddiddorol, mae hi wedi bod yno ers cymaint o amser, yn amlwg ers mwy o amser 'na phob iaith arall yn Ewrop (neu yn y byd hollol efallai). Arbenigwr dwi ddim ond dwi di clywed pobl crybwyll y ffaith lladdodd ieithoedd Ewropeaidd newydd pob hen iaith ar y gyfandir heblaw Basgeg, yn ystod yr oesoedd neolithig! Anghredadwy go iawn! :ofn:

Dywedais i o'r blaen fod hi'n bosibl i fwy nag un iaith, i fwy nag un math o iaith, yn cael ei harfer ymysg yr amryw Bictiaid. Mae'n bosibl fod pawb yn gywir i raddau, e.e. fod rhai o'r Pictiaid yn siarad P-Gelteg tebyg i iaith Gododdin, fod rhai yn siarad Q-Gelteg tebyg i iaith Dalriada, fod rhai yn siarad rhyw "Hen Gelteg" nad oedd yn debyg iawn i naill na'r llall, fod rhai yn siarad iaith I-E gyn-Gelteg ac fod rhai yn siarad iaith nad oedd I-E.

(Gweles i ddim hwn yr adeg gyntaf darllenes i dy neges)

Wel os dwi'm yn anghywir, dwi'n credu bod rhai ffynonellau (oddi wrth yr un oesoedd) yn son am iaith y Pictaidd fel un iaith, nid fel casgliad o ieithoedd. Ar ôl be dwi di darllen amdani, un iaith (neu tafodieithoedd o'r un iaith) oedd hi. O leiaf, does 'na ddim unrhyw rheswm i gredu taw grwp o ieithoedd oedd hi, oherwydd does 'na ddim llawer o sillafiadau gwahanol ar gerrig Pictaidd, dwi'n credu. Hefyd, tasai 'na cyswllt rhwng yr ieithoedd Geltaidd a'r iaith Bictaidd, pam oes gynni hi sillafiad mor wahanol ohonynt? Wrth gwrs, mae popeth yn bosib, ond dwi'm yn gallu deall y syniad taw iaith Geltaidd (neu grwp o ieithoedd Geltaidd) oedd Picteg. :ofn: Dylwn i chwilio am mwy o wybodaeth wedi gwneud gwaith yr wythnos.

(Sori am fy Nghymraeg erchyll, dwi wedi blino heddiw a ma gen i lot o waith ar y funud, aiiiiii!)
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Iaith y Pictiaid?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 22 Chw 2008 12:00 am

Os wyt ti'n dychmygu gorymdaith o ieithoedd yn treiddio Prydain, efallai rhyw iaith cyn I-E i ddechrau, efallai iaith I-E cyn-Geltaidd wedyn, iaith "Hen Gelteg" ar ol hynny - ac ymlaen - mae popeth yn bosibl. Ac rhaid cofio mai peth cymharol ddiweddar ydy difetha iaith: pan nad oedd pobl yn mynd yn bell, byddai ieithoedd yn parhau. Er enghraifft, yn gymharol ddiweddar 'roedd llefydd yn Ne'r Alban (Yr Ucheldiroedd Deheuol) lle arferid Saesneg, eraill lle arferid Gaeleg ac eraill lle arferid Cymraeg Ystrad Clud. Byddai eich iaith yn dibynnu i ba gwm (hen fynegiant Swydd Efrog...) yr oeddech yn perthyn.

Wrth gwrs, ar ol cwymp Ystrad Clud, newidiodd yr iaith swyddogol yn gyntaf i Aeleg, yna i Ffrangeg ac yna i Saesneg. Ond mae'n cymryd cryn dipyn o bryd i iaith farw. Ond petasech chi'n gofyn am iaith De'r Alban i ryw swyddog ar y pryd, basech chi'n cael yr ateb "Saesneg".

Mae'n bosibl i rywbeth tebyg ddigwydd yng Nghaledonia adeg y Pictiaid. Buasai rhyw "iaith swyddogol", efallai math o Gelteg-P, ond buasai, efallai, pobl o fewn yr ardal nad oeddent yn siarad yr iaith honno. Gwyddem am Frythoniaid o gwmpas Sruighlea, o ran fwyaf o dan y Pictiaid, ac hefyd am Wyddelod yn y gorllewin fu o dan y Pictiaid o bryd i'w gilydd. Ac mae'n ddigon bosibl fod 'na ieithoedd eraill. Wedi'r cwbl, mae gweddillion ieithoedd eraill i'w cael mewn enwau lleoedd, ynysoedd ayb.

Cerrig y Pictiaid - diddorol. Mae boi yn Aberdwyn wedi dangos bod llawer o'r "meini Pictaidd" wedi cael eu harysgrifennu yn Hen Norseg gan ddefnyddio Ogham. Ond mae hyn yn eitha diweddar, wedi cwymp y Pictiaid.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Iaith y Pictiaid?

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 28 Chw 2008 3:39 am

Buasai rhyw "iaith swyddogol", efallai math o Gelteg-P, ond buasai, efallai, pobl o fewn yr ardal nad oeddent yn siarad yr iaith honno

Iaith swyddogol? Sut? Yn ystod hanes y Pictiaid, roedd llywodraethau "canol" yn anaml go iawn. Heb unrhyw fath o lywodraeth swyddogol yn y lle cyntaf sy'n gallu cefnogi defnydd yr iaith "swyddogol" sut oedd hwn yn bosib i gael o gwbwl? Eglura tipyn bach mwy be wyt ti eisiau dweud yn union. Efallai dealles i ddim yn ddigon da.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Iaith y Pictiaid?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 29 Chw 2008 7:44 pm

...a dyna, yn union, pam rhoddais i "iaith swyddogol" yn lle iaith swyddogol. A wyt am hollti gwallt?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Iaith y Pictiaid?

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sad 01 Maw 2008 5:46 am

Waw waw weles i ddim, ffrwydra ddim arna i. 8) Ond eto be wyt ti eisiau deud gan "iaith swyddogol" yn y lle cyntaf hyd yn oed 'da dyfynodau? Be di'r wahaniaeth rhwng "iaith swyddogol" ac iaith swyddogol yn union? Iaith swyddogol sydd ddim yn swyddogol (!) neu rhywbeth? :? Dwi ar goll yma. :(
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Iaith y Pictiaid?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 01 Maw 2008 8:03 pm

O Ddrwg Wenci! Wrs fwrth nad oedd unrhyw iaith swyddogol adeg honno. Ond sai pob llys, swn i'n credu, yn arfer un iaith. Felly, yr hyn o'n i'n ceisio ddweud oedd fod iaith llys Brude, efallai, yn cyfateb i'n syniad heddiw o "iaith swyddogol".
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Nôl

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron