Wel, rydw i wedi gwneud tipyn o ymchwil am iaith y Pictiaid. Does na ddim lot i'w gael. Y problem ydy nad oes llenyddiaeth yn yr iaith honno (neu yn yr ieithoedd hynny) ar gael - dim ond rhyw gerfiau ar feini, y rhan fwyaf ohonynt yn defnyddio Ogham.
Mae enwau Gaeleg i'w cael led-led yr Alban - ac mae enghreifftiau hefyd yn Lloegr a Chymru (tybed fod "Quantock Hills" yn tarddu o rywbeth fel "Ceann-cnoc" efallai - ac mae sawl afon "Esk", "Usk", "Axe", "Exe", "Wiske" ac yn y blaen sy'n edrych yn debyg iawn i'r gair "uisge", sy'n golygu "dwr" yn yr Aeleg). Hefyd, mae enwau Cymraeg - neu o leiaf Cymreigaidd - i'w gael led-led yr Alban, e.e. Strath Carron, Aberdeen, Aberdour, Penicuik, Glasgow, Strathpeffer ayb. Ond ni ddywed hyn ddim am natur iaith y Pictiaid: mae hen Frythoniaid Ystrad Clud/Manaw Gododdin wedi rheoli rhan fwyaf yr Alban ar un adeg - ac, wrth gwrs, hen Wyddelod Dalriada. Ond bu prydiau pan oedd yr amryw "Bictiaid" yn rheoli rhan fwyaf yr Alban hefyd.
Ymddengys i rai ysgolheigiau fod "Picteg" yn debyg i iaith Ystrad Clud/Gododdin. Mae Cynddeyrn (Esgob Ystrad Clud) wedi dweud fod y Pictiaid yn siarad iaith yn debyg i'w iaith ei hun. Pan ymwelodd Columcille a Brud (Brenin Pictiaid Inbhir Nis) bu rhaid iddo gael cyfieithydd. Ond mae'n ddigon posibl fod gan y Pictiaid fwy nag un iaith.
Be dw i'n feddwl? Mae'r enw "Argyll" yn hen iawn: yn ol y Gaeliaid, mae'n golygu "Earra Gaidheal" - "Gaeliaid y Dwyrain". Ond, fel y gwyddoch, mae Argyll yng ngorllewin yr Alban. Yn Llydaw ceit "Armor" ac "Arcoet", sef yr ardal wrth y mor a'r ardal wrth y goed. Efallai fod "Argyll" yn tarddu o "Ar-Gwyddel", yr ardal lle mae'r Gwyddelod yn byw. A chan fod Ystrad Clud yn agos iawn (hen brifddinas Alclud - Dùn Breatainn heddiw) credaf mai o "hen Gymraeg Ystrad Clud" y daw y gair "Argyll".
Ond i ddychweld at y Pictiaid: mae'n amlwg fod na lot o gyswllt rhwng Dalriada a Phictavia rhwng efallai 500 a 900 OC. Mae'n ddigon posibl fod rhan o'r Pictiaid ag iaith debyg i'r Aeleg - cyn i goron yr Alban yn syrthio i wyr Dalriada. Mae'n ddigon posibl hefyd fod rhan o'r Pictiaid ag iaith debyg i Gymraeg Iseldiroedd yr Alban o'r un rheswm. Ac mae'n bosib fod rhan o'r Pictiaid ag iaith (neu ieithoedd) yn holloll ar wahan. Hefyd, mae recordiau o bethau Picteg, e.e. enwau pobl a llefydd, sy'n ymddangos mewn ffurfiau Gaeleg a Chymreigaidd, e.e. "Fergus" a "Uurguist" (Gwrgest) "Eoghan" ac "Uuein" (Owain).
Ond dyma, efallai, syndod ichi. Beth mae "Stonehaven" yn golygu? Mae Stonehaven yn dref rhwng Aberdeen a Montrose - ac mae ei henw wedi bodoli mewn ffurf debyg i "Stonehaven" cyn i'r Saesneg gael ei harfer yn yr ardal. Dydy "Stonehaven" ddim yn golygu dim yn y Gymraeg, dim yn yr Aeleg ychwaith. Yn ol Ptolemi, bu'r ardal yno yn nwylo rhyw lwyth o'r enw "Taezali" neu "Taexali" tua 150 OC. Dydy hyn ddim yn edrych fel enw Brythoneg neu ynteu Oidelig i mi.
Mae'r Rhufeiniaid wedi siarad am "Picti et Caledonii" - sef Pictiaid a Chaled-ddynion. Efallai fod y "Caledonii" yn ddynion P-Gelteg (fel y Gododdin) oedd yn rheoli sawl llwyth "Pictaidd" nad oedden yn siarad Celteg o gwbl. Pwy a wyr?