Holloll gywir - yn iaith Iran (Farsi) mae gair am "drwg". A dyma'r gair, wedi'w sillafu gan ein habiec ni - "bad"!
Waw, ti'n jocio? Wel yn dechnegol maen nhw'n credu bod ein ieithoedd Ewropeaidd yn dod o'r un rhan o'r byd felly dim synnu os wyt ti'n meddwl amdani. Mae gynnon ni lawer o eiriau oddi wrth Sanskrit, sy wedi cael ei siarad yn agos iawn i Iran mwy 'na 2000 blynedd yn ôl. Er enghraifft, geiriau fel "ti" (Cymraeg) "tu" (Ffrangeg), "thou" (Saesneg Ganol) ac ati. Sut? Wel, dim syniad o gwbwl.
Ac ar yr un bwnc cyffredinol, mae Basgeg yn ofnadwy o ddiddorol, mae hi wedi bod yno ers cymaint o amser, yn amlwg ers mwy o amser 'na phob iaith arall yn Ewrop (neu yn y byd hollol efallai). Arbenigwr dwi ddim ond dwi di clywed pobl crybwyll y ffaith lladdodd ieithoedd Ewropeaidd newydd pob hen iaith ar y gyfandir heblaw Basgeg, yn ystod yr
oesoedd neolithig! Anghredadwy go iawn!
Dywedais i o'r blaen fod hi'n bosibl i fwy nag un iaith, i fwy nag un math o iaith, yn cael ei harfer ymysg yr amryw Bictiaid. Mae'n bosibl fod pawb yn gywir i raddau, e.e. fod rhai o'r Pictiaid yn siarad P-Gelteg tebyg i iaith Gododdin, fod rhai yn siarad Q-Gelteg tebyg i iaith Dalriada, fod rhai yn siarad rhyw "Hen Gelteg" nad oedd yn debyg iawn i naill na'r llall, fod rhai yn siarad iaith I-E gyn-Gelteg ac fod rhai yn siarad iaith nad oedd I-E.
(Gweles i ddim hwn yr adeg gyntaf darllenes i dy neges)
Wel os dwi'm yn anghywir, dwi'n credu bod rhai ffynonellau (oddi wrth yr un oesoedd) yn son am iaith y Pictaidd fel un iaith, nid fel casgliad o ieithoedd. Ar ôl be dwi di darllen amdani, un iaith (neu tafodieithoedd o'r un iaith) oedd hi. O leiaf, does 'na ddim unrhyw rheswm i gredu taw grwp o ieithoedd oedd hi, oherwydd does 'na ddim llawer o sillafiadau gwahanol ar gerrig Pictaidd, dwi'n credu. Hefyd, tasai 'na cyswllt rhwng yr ieithoedd Geltaidd a'r iaith Bictaidd, pam oes gynni hi sillafiad mor wahanol ohonynt? Wrth gwrs, mae popeth yn bosib, ond dwi'm yn gallu deall y syniad taw iaith Geltaidd (neu grwp o ieithoedd Geltaidd) oedd Picteg.
Dylwn i chwilio am mwy o wybodaeth wedi gwneud gwaith yr wythnos.
(Sori am fy Nghymraeg erchyll, dwi wedi blino heddiw a ma gen i lot o waith ar y funud, aiiiiii!)