Cymry - Cenedl Unieithog

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymry - Cenedl Unieithog

Postiogan docito » Mer 27 Chw 2008 5:14 pm

Eisie dangos pwnc trafod newydd. Rhywbeth i ddechre trafodaeth yw hwn:

Nath e fwrw fi pan o'n i'n darllen pump am y penwythnos cwpwl o misoedd yn ol gyda cwestiwn yn holi faint o ieithoedd odd pawb yn siarad?

Nath y mwyafrif ddweud ma mond dau o'n nhw yn medru

Yw hi'n deg dweud bod hi'n warth ein bod NINNAU yn methu siarad mwy na dau?

Y gwirionedd yw ma dim ond trwy lwc y ma'r mwyafrif ohono ni yn medru siarad dwy iaith. Ry ni'n fwy na parod I feirniadu dieithriaid sydd ddim yn gwneud ymdrech gyda'n hiaith ni ond pam ddylse nhw os I ni yn rhy ddiog I ddysgu unrhyw iaith arall.

Ma'r iseldirwyr a'r scandinafiaid yn siarad sawl iaith ac hyd yn oed y genedlaeth ifanc o ffrancwyr yn dechre medru'r saesneg eto dyw'r Cymry ddim yn gwneud unrhyw ymdrech o gwbl.

Rydyn ni yn ymfalchio bo ni'n siarad dwy iaith - hyd yn oed i'r gradde bod ni'n brolio am y ffaith - yn enwedig wrth I ni gymharu'n hunen gyda saeson. Ond dydyn ni ddim gwell na nhw.

Ma'n siwr neuth y mwyafrif ddadle ein bod ni yn ymdrechu i gadw'n hiaith ni yn fyw - ond faint o ymdrech fydd hi mewn gwironedd i ehangu'n gorwelion a dysgu iaith arall????

Yn hytrach na beirniadu eraill am beidio a dysgu ein hiaith ni beth am gal Gymry sy'n aml ieithiog. A nid jyst dysgu'r ieithe celtaidd ond Cymry sy'n siarad ieithoedd ewropeaidd.

Digon teg nad yw'r system addysg yn hybu hyn llawer. Ond beth am i nine (mwyafrif ohonom wedi gadel system addysg orfodol ) ddangos esiampl a gwneud ymdrech yn hytrach na chwyno am eraill.

Mewn gwirionedd dy ni ddim gwell na Brits abroad. Ond yn hytrach na darllen y sun yn costa del sol, da ni yn darllen y newyddion ar wefan bbc yn Sevilla.

Beth yw'r barn ni?
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Re: Cymry - Cenedl Unieithog

Postiogan Macsen » Mer 27 Chw 2008 7:03 pm

Mae bois y cyfndir yn medryu'r Seasneg am yr un rheswm a ni - mae o dros bobman yn y cyfryngau yno. Dyw nhw heb fynd allan o'i ffordd i'w ddysgu o mewn dosbarth. Does dim llawer o bwrpas jesd dysgu iath allan o ryw gyfrifoldeb i wneud hynny. Does dim cyfrifoldeb ar neb i ddysgu iaith, heblaw eu bod nhw'n byw mewn ardal lle mae'r iaith hwnnw'n cael ei siarad. Sna'm byd yn warthus ar Season yn siarad un iaith os mai dyna iaith y lle mae nhw'n byw. Dim on pam mae nhw'n symud i Sbaen, Ffrainc, neu ardal Gymreg, y mae cyfrifoldeb arnyn nhw i ddysgu iaith arall.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cymry - Cenedl Unieithog

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 28 Chw 2008 11:03 am

Ma "bois y cyfandir" yn cychwyn dysgu ieithoedd eraill (nid dim ond Saesneg, ond ie, Saesneg gan fwyaf yn y Gorllewin, mae Almaeneg a Rwsieg yn llawer mwy defnyddiol yn y Dwyrain) yn llawer cynharach na ni ac yn llawer mwy o ddifrif am eu dysgu'n 'iawn' yn lle dysgu digon i allu ordro panad yn caffi pan ar wylia.

Ma'n nhw hyd yn oed yn cael immersion ar gyfer ieithoedd tramor - fel petasen ni'n dysgu daearyddiaeth drwy gyfrwng Ffrangeg er enghraifft.

Rhaid cydnabod nad ydan ni o ddifri am ddysgu ieithoedd eraill Ewrop am ein bod ni dal yn edrych at America yn hytrach nac Ewrop o ran busnes. Ffactorau economaidd sy'n cymell pobol i ddysgu ieithoedd mewn niferoedd mawr, ac mae'r byd busnes yn parhau i fod yn fyd Saesneg am y tro.

Ma siarad Ffrangeg wedi agor llawer o ddrysau i fi o ran gwaith ac yn bersonol felly dwi'n falch iawn o fedru cyfathrebu ynddi, ac o'r herwydd yn frwd i geisio dysgu iaith arall.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Cymry - Cenedl Unieithog

Postiogan Madrwyddygryf » Iau 28 Chw 2008 1:37 pm

Gwnaeth Felipe Fernández-Armesto pwynt da am hyn wrth son

“Meanwhile, the British - or at least those outside communities where a traditional language already thrives alongside English - have to be disabused common falsehoods. The first is that language learning is unnecessary in an English-speaking world…..”

Mae hyn i lawr i bŵer economaidd yr Unol Daliaethau wrth gwrs, sydd yn arwain at benarglwyddiaeth ddiwylliannol Americanaidd ac rydym ym Mhrydain yn ,fel mae’r Saeson yn dweud, ‘riding on their coat-tails’.

Dwi yn teimlo braidd yn euog wrth fynd ar y cyfandir a pheidio deall yr iaith a dwi yn gwneud yr ymdrech oleuaf i ddeud brawddegau syml. Ond mae’n eithaf rhwystredig ar adegau pan wyt yn mynd i wlad dramor ond yn diweddu fyny yn siarad Saesneg achos maen nhw yn gweld hi’n haws i siarad Saesneg gyda thi yn lle bod ti’n baglu dros eu hiaith a gwneud stymiau. Pan es i Baris cwpl o flynyddoedd yn ôl, mi ymdrechais i ail-gofio fy Ffrangeg TGAU a thrio siarad yr iaith gyda phobl leol, ond dibwynt oedd fy ymdrechion weithiau.
“Je…fwdrê…crôc..mŷsiŷr…sî fŵ ple”
“ Merci, and what would you like to drink ?”
“….Er coke please.”


Fe hoffwn ail-afael a’r Ffrangeg rywbryd a mynd i ddosbarthiadau nos, fe hoffwn hefyd edrych ar gyfryngau Ffrangeg ond diawch mae’n anodd yn y wlad yma (sydd yn wirion bost wrth feddwl fod Ffrainc dim ond tua 25 milltir i ffwrdd). Does dim rhaglenni Ffrengig yn cael eu darlledu ar y teledu, sdim smic o gerddoriaeth Ffrengig ar y radio a dyw cineplex lleol dim ond yn dangos ffilmiau Ffrengig fan hyn fan draw.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cymry - Cenedl Unieithog

Postiogan Aran » Iau 28 Chw 2008 1:57 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Does dim rhaglenni Ffrengig yn cael eu darlledu ar y teledu, sdim smic o gerddoriaeth Ffrengig ar y radio a dyw cineplex lleol dim ond yn dangos ffilmiau Ffrengig fan hyn fan draw.


Gei di wrando ar orsafeydd radio arlein - http://www.radio-locator.com/ yn lle da i gael hyd o rai mewn bron unrhyw iaith. Hefyd, gei di hynny o fideos a CDau yn y Ffrengig ti isio ar http://www.amazon.fr neu http://www.ebay.fr ... :D
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Re: Cymry - Cenedl Unieithog

Postiogan bartiddu » Iau 28 Chw 2008 3:02 pm

Wnes i geiso cael bach o afael ar Sbaeneg drwy Cd’s Michel Tomas, rhyw 3 mlynedd nol nawr, dwi dal i gofio ambell beth. Fi’n credu’r ysgogiad ar y pryd oedd fy mod wedi laru ar y dau ddeimensiwn iethyddol o’r cyfryngau Cymraeg a Saesneg a oedd yn gyfyngedig i bethe fel s4c a radio Cym, a Sky Sports (pam na alwa nhw fe’n Sky England Sports Only?) News24, ITV ayb heb son am y ffilmiau a’r rhaglennu americannaidd ar y bocs, yr holl Cd’s seisnig sydd gen i, er mor braf ydynynt, oni'n teimlo fy mod yn cael fy moddi mewn safbwynt seisnegaidd o bopeth!
Oni wedi laru ar y pryd o weld y byd trwy perspectif y ddau iaith yma, oni'n chwanti rhywbeth newydd, ac oni am cael y profiad o gael ogwydd bach gwahanol drwy iaith gwahanol, drwy medru gwylio dvd’s o dramor a darllen ambell i lyfr falle, caneuon mewn iaith arall, dyna oedd y syniad. Os oedd Peter Ustinov medru medru wyth iaith medren i gael scap ar 2 a hanner falle! :?
Ond oherwydd difyg ymarfer y briwsion oni wedi dysgu trwy’r Cd’s, gan nad wy’n bwriadu mynd i Sbaen yn y dyfodol agos am wn i, nag yn nabod siaradwyr Sbaeneg, methiant fuodd y man gwyn man draw fach ‘ma.
Dwi wedi bod yn ceisio gwella fy ngeirfa Cymraeg yn y cyfamser, yn bersonol dwi’n credu bod hyn yn fwy pwysig i mi na dysgu iaith gwlad ni fyddaf yn debygol o ymweld ag ef, drwy difyg ymarfer a goramlygrwydd i’r cyfryngau seisnig dwi’n colli ac yn mynd yn ansicir o eiriau blynyddau nol oedd yn reddfol i mi.
Sgen i’m cynlluniau mynd i wlad dramor yn y blynyddoedd nesaf, ond diawch erioed, trwy rhyw hap a damwain a wyrth y wê dwi’n chware’n selog ers dros blwyddyn gyda “Clan” gemau cyfrifiadol o’r Almaen, a fyddai’n handi ar diawl i medru deall nhw’n siarad ar yr hedffôns,er bod nhw i gyd yn medru saesneg, dim ond “danke” a “Ja” sy’ gen i ar hyn o bryd ( heblaw pan ma’r cwrw’n rhyddhau ambell i “Javull Herr Generaal!” ambell i noswaith, o diar hen ffilmiau melltigedig ww2 :wps: ) a ma’r hen babelbysgodyn yn dod i ben a cyfiaethu’r fforymau’r clan (yn sâl iawn) pan dwi’n cael pip arnynt, ond braf fydde cael rhyw fath o afael ar yr iaith, wedi meddwl, ond sgen i’m bwriad ymweld a’r wlad, hmmm y cwestiwn yw a oes amser da fi i wrando ar Cd’s Almaenig y bonheddwl Michel Tomas? Oes ‘na wir bwynt, falle ddyle fi edrych mewn i’r peth, ond hyn a hyn o amser sydd i gael mewn bywyd…Auf Wiedersain!
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Cymry - Cenedl Unieithog

Postiogan Gwenci Ddrwg » Gwe 29 Chw 2008 7:57 pm

Sna'm byd yn warthus ar Season yn siarad un iaith os mai dyna iaith y lle mae nhw'n byw. Dim on pam mae nhw'n symud i Sbaen, Ffrainc, neu ardal Gymreg, y mae cyfrifoldeb arnyn nhw i ddysgu iaith arall.

Wel mae Ffrancwyr yn byw yn Ffrainc (weithiau yn unig, dwi'n nabod nifer ohonynt sydd heb weld Lloegr unwaith) ond sut bynnag maen nhw'n arfer gwneud ymdrech i ddysgu Saesneg. Ti'n gallu ffeindio llawer o bobl Ewropeaidd sy'n siarad ieithoedd o wledydd mae nhw heb wylio erioed i rhai rhesymau ariannol. Ac am dy ail bwynt, wel faint o Saeson sy'n mynd i Sbaen/Ffrainc ac ati pob blynedd? Llawer, ond yn amlwg does dim "cyfrifoldeb" arnyn nhw, o leiaf yn eu barn nhw ar hyn o bryd!

Fe hoffwn ail-afael a’r Ffrangeg rywbryd a mynd i ddosbarthiadau nos, fe hoffwn hefyd edrych ar gyfryngau Ffrangeg ond diawch mae’n anodd yn y wlad yma (sydd yn wirion bost wrth feddwl fod Ffrainc dim ond tua 25 milltir i ffwrdd). Does dim rhaglenni Ffrengig yn cael eu darlledu ar y teledu, sdim smic o gerddoriaeth Ffrengig ar y radio a dyw cineplex lleol dim ond yn dangos ffilmiau Ffrengig fan hyn fan draw.

Wel i wella'r sefyllfa sdim ond un ffordd: chwilia am styff ar-lein. Gwefannau newyddion, fforymau cefnogaeth ac ati, mae'r rhyngwyd yn defnyddiol iawn os wyt ti angen help 'da iaith.

mae’n eithaf rhwystredig ar adegau pan wyt yn mynd i wlad dramor ond yn diweddu fyny yn siarad Saesneg achos maen nhw yn gweld hi’n haws i siarad Saesneg gyda thi yn lle bod ti’n baglu dros eu hiaith a gwneud stymiau

Mae hynny'n ddigwydd ym mob man yn anffodus. Dala siarad Ffrangeg hyd yn oed os ydy'r berson arall eisiau siarad Saesneg wrthot ti, mae hynny'n arfer gweithio os wyt ti rili eisiau ymarfer.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Cymry - Cenedl Unieithog

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 29 Chw 2008 8:27 pm

“Je…fwdrê…crôc..mŷsiŷr…sî fŵ ple”
“ Merci, and what would you like to drink ?”

C'est vrai. Quand j'aurais en France...wel, efallai 5 mlynedd yn ol, es i a'r dyn bach (dim ond 5 oed oedd o ar y pryd) i Ddisneyland yn ymyl Paris. Wel, wrth i ni ymweld a Pharis o bryd i'w gilydd, 'swn i'n ordro yn Ffrangeg a chael ateb yn Ffrangeg. Ond ar faes Disneyland, no we chose! Byddai'r staff yn siarad a'u gilydd yn y Ffrangeg, byddwn i'n gofyn am rywbeth yn Ffrangeg - a chael ateb Saesneg. Rydw i'n credu mai polisi iaith Disney ydy hyn.

Anodd fu Ynys yr Ia/Gwlad yr Ia. Es i yno, flynyddoedd yn ol, heb fawr o'r iaith, ac yn mynd i'r siopau a dweud rhywbeth fel "Taladd thw ensc?" (Wyt ti'n siarad Saesneg) - unwaith mi ges i'r ateb "nei", ond o'n i'n llwyddo i raddau wrth gyfathrebu yn Islensk - wel, mae'n debyg i Norwyeg ac 'roedd tipyn o'r iaith honno gen i ar y pryd.

Mae'n wir fod y Prydeinwyr yn waeth ar ieithoedd tramor na phobl dramor. A be dwi wedi clywed yn ddiweddar? Byddan nhw'n cael gwared a'r brawf lafar yn y GCSE gan ei bod "yn rhy galed" ac "yn gorbwyso'r myfyrwyr". Sofft neu be? MAE hi'n anodd i siarad mewn iaith estron, yn arbennig os rydych chi'n dal i feddwl mewn iaith arall, e.e. Saesneg neu Gymraeg. Ond, oni bai i chi lwyddo yn hyn, ddylech chi ddim cael tystysgrif i ddweud bod chi'n medru'r iaith - oherwydd byddech chi'n methu ffwythiannu'n addas mewn amgylchedd yr iaith honno.

Wel, os ydych chi am siarad, e.e., Almaeneg wrth ymweld a'r Almaen, ac yn gofyn am bethau yn Almaeneg, ac yn cael ateb Saesneg, beth am fethu deall ac yn ceisio esbonio yn Gymraeg.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cymry - Cenedl Unieithog

Postiogan Kez » Gwe 29 Chw 2008 11:52 pm

O ran pobol yn troi i'r Saesneg gyda chi pan ichi'n trio siarad iaith arall, fe aiff rhywun at yr iaith hawsaf i'r ddou o'chi ei deall ac mae'r Saesneg wedi hen ennill ei phlwy fel y 'lingua franca'. Os dangoswch chi wrth Sbaenwr ne Ffrancwr er enghraifft (sy'n digwydd siarad Saesneg) bod eich crap chi ar eu hiaith nhw yn ddigon i gynnal sgwrs heb fod neb yn teimlo'n lletwith, fe siaradan nhw a chi yn Sbaeneg neu Ffrangeg o fewn dim.

Ryn ni'r Cymry yr un fath - faint ohonon ni 'sa'n troi at y Saesneg gyda rhywrai sy'n dysgu Cymraeg ac wedyn yn troi at y Gymraeg ar ol sylweddoli bod lefel eu Cymraeg yn ddigon da i gynnal sgwrs heb i neb deimlo'n anghyfforddus.

Wrth gwrddyd a phobl newydd a chanddynt iaith rych chi'n moyn ei dysgu, gwedwch wrthyn nhw nag ych chi'n siarad Saesneg am taw Cymro wyt i; fe synnech chi pwy mor gloiad y dysgwch chi iaith arall pan nag yw'r Sysnag yno fel help llaw.

Ma'r Sysnag erbyn hyn yn iaith mor gryf fel ei bod hi'n rhwystr i bobl ddysgu ieithoedd eraill - mae'n agor drysau i'r byd ac yn cau drysau ar y byd hefyd, gwaetha'r modd.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Cymry - Cenedl Unieithog

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sad 01 Maw 2008 5:27 am

Wel, os ydych chi am siarad, e.e., Almaeneg wrth ymweld a'r Almaen, ac yn gofyn am bethau yn Almaeneg, ac yn cael ateb Saesneg, beth am fethu deall ac yn ceisio esbonio yn Gymraeg.

Wel meddylia amdani tipyn, pa math o berson sy'n dechrau dysgu Almaeneg cyn gwneud unrhyw ymdrech o gwbwl at ddysgu Saesneg yn y lle cyntaf? Os wyt ti'n dysgu Almaeneg mae rhaid i ti fedru o leiaf digon o Saesneg i oroesi ynddi, ar ôl rhesymeg. Mae pobl yn gwybod hwn, yn gyffredinol, felly dwi'm yn deall sut buasai hynny'n lwyddo (yn anad dim os ydy'r berson arall yn adnabod y Gymraeg!). Ceisia egluro iddynt sut wyt ti wedi llwyddo bod yn unieithog yn Gymraeg ac hefyd pam wyt ti eisiau astudio'r Almaeneg yn gyntaf yn lle Saesneg! :lol:

Wel i ddeud y gwir dwi wedi meddwl am y syniad 'ma yn y gorffennol, pan ro'n i'n gwylio Cymru (wel...dwi'n gallu dweud iddynt nad oes geni unrhyw Saesneg, dwi'n Siarad Ffrangeg wedi'r gwbwl...) ond ym...wel...dydy pobl ddim yn rhy ddwl. Pa Canadiad francophone sydd eisiau dysgu Cymraeg yn lle Saesneg yn ystod gwyliau ym Mhrydain Fawr??? :ofn: :lol: Putain ça serait carrément impossible. 8)
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron