Radio a theledu Sbaeneg/Catalan ar y we

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Radio a theledu Sbaeneg/Catalan ar y we

Postiogan HuwJones » Mer 26 Maw 2008 2:08 pm

Yn dilyn y nosweithiau sgwrsio Sbaeneg/Catalan yn y pyb ym Methesda (gweler y neges arall ar Maes-E yn "ieithoedd eriall") dyma rhai o'r lincs i wasanaethau teledu a radio sydd ar gael gyda band llydan etc.. Ffordd gret i helpu ddysgu iaith

En castellano;-
O Venezuela i’r Byd! - Gwylio teledu sydd o safbwynt Hugo Chavez yn fyw! http://www.telesurtv.net/
Radio Rebelde, Hafana Cuba http://www.radiorebelde.com.cu/ Salsa, Sosialaeth ac acen bendigedig Cubaniadd!
Radio Euskadi - O Wlad y Basg yn Sbaeneg http://www.eitb.com/castellano/programas/programa.asp?id=RE
Radio Nacional de España http://www.rtve.es/ (Y newyddion yn cefnogol iawn i safbwynt llywodraeth Madrid)

Patagonia - am gadw cysylltiad gyda’r holl newyddion cyffroes o’r Wladfa - (mae ambell i raglen “Hora Galesa” hefyd)
http://www.radiochubut.com/ Chebut/Trelew
http://www.lu4radio.com/ LU4 Radio Patagonia

Ràdio i televisió en català:-
Catalunya Radio http://www.catradio.cat/pcatradio/crHome.jsp
Catalunya Informacio http://www.catradio.cat/pcatradio/crSeccio.jsp?seccio=ci
TV3 Catalunya - y brif sianel deledu yn catala http://www.tv3.cat/
3cat24 - Gwasanaeth deledu newyddion 24 awr http://www.3cat24.cat/


Delwedd
Golygwyd diwethaf gan HuwJones ar Mer 26 Maw 2008 8:21 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Radio a theledu Sbaeneg/Catalan ar y we

Postiogan Rhys » Mer 26 Maw 2008 5:27 pm

Mewn Basgeg
Bilbo Hiria Gorsaf radio Basgeg dinas Bilbo - os ti'n dallt Basgeg Huw (dwi ddim), byddi di'n joio'r rhaglen irratia mae'n siwr. Bu bron i mi ymddangos ar y rhaglen ond rhoddodd annibynniaeth Montenegro stop ar hynny yn anffodus (anffodus i fi, nid i bobl Montenegro) gan i'r gohebydd fynd draw yno yn lle fy nghyfweld i gyda penmaenmawr. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron