Dyma enghraifft i chi o 2003. Dim gwobr am ei gyfieithu, mae ofn arna i, ond tipyn o sbort efallai:-
"Agh ga dy vel myn-chengaghyn goll sheese dy mooar ayns gagh ayrn jeh'n teihll, t'eh cur taitnys feer vooar dooin dy vel Bretnish goll seose."
Bydd hyn yn rhesymol syml i'r rhai sy'n deall Gaeleg. Fodd bynnag, roeddwn i yn Ynys Manaw wythnos ddiwetha. Mae'n ymddangos does na ddim lot o bobl sy'n arfer y Fanaweg - wel, by farw'r iaith yn swyddogol rhyw 30 blwyddyn yn ol, ond mae na gryn dipyn o bobl sy wedi chadw hi'n fyw fel ail iaith ac rdw i'n credu fod na rai erbyn hyn sy'n ei siarad fel iaith gyntaf. Mae ysgol gynradd Fanaweg erbyn hyn. Mae'r sillafu'n dod o ymarferion Saesneg a Chymraeg (yn arbennig yr Y yn debyg i Y Gymraeg). Mae'r iaith yn treiglo ac, wrth dreiglo, yn aml mae'n newid llythrennau fel yn y Gymraeg (yn hytrach na sticio H mewn fel yn yr Aeleg). Yn anffodus efallai, mae CH yn sefyll dros CH Gymraeg a CH Saesneg - weithiau maen nhw'n rhoi coma dan yr C os mai Saesneg ydy'r CH. Mae'r strydoedd bron i gyd yn cael eu henwi yn Saesneg ac yn Fanaweg, mae'r Fanaweg i'w gweld ar bob adeilad y llywodraeth.