Manaweg

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Manaweg

Postiogan Seonaidh/Sioni » Maw 15 Gor 2008 9:03 am

Dyma enghraifft i chi o 2003. Dim gwobr am ei gyfieithu, mae ofn arna i, ond tipyn o sbort efallai:-

"Agh ga dy vel myn-chengaghyn goll sheese dy mooar ayns gagh ayrn jeh'n teihll, t'eh cur taitnys feer vooar dooin dy vel Bretnish goll seose."

Bydd hyn yn rhesymol syml i'r rhai sy'n deall Gaeleg. Fodd bynnag, roeddwn i yn Ynys Manaw wythnos ddiwetha. Mae'n ymddangos does na ddim lot o bobl sy'n arfer y Fanaweg - wel, by farw'r iaith yn swyddogol rhyw 30 blwyddyn yn ol, ond mae na gryn dipyn o bobl sy wedi chadw hi'n fyw fel ail iaith ac rdw i'n credu fod na rai erbyn hyn sy'n ei siarad fel iaith gyntaf. Mae ysgol gynradd Fanaweg erbyn hyn. Mae'r sillafu'n dod o ymarferion Saesneg a Chymraeg (yn arbennig yr Y yn debyg i Y Gymraeg). Mae'r iaith yn treiglo ac, wrth dreiglo, yn aml mae'n newid llythrennau fel yn y Gymraeg (yn hytrach na sticio H mewn fel yn yr Aeleg). Yn anffodus efallai, mae CH yn sefyll dros CH Gymraeg a CH Saesneg - weithiau maen nhw'n rhoi coma dan yr C os mai Saesneg ydy'r CH. Mae'r strydoedd bron i gyd yn cael eu henwi yn Saesneg ac yn Fanaweg, mae'r Fanaweg i'w gweld ar bob adeilad y llywodraeth.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Manaweg

Postiogan Gwenci Ddrwg » Mer 16 Gor 2008 2:26 am

"Agh ga dy vel myn-chengaghyn goll sheese dy mooar ayns gagh ayrn jeh'n teihll, t'eh cur taitnys feer vooar dooin dy vel Bretnish goll seose."

Cyfieithiad "Ond er bod ieithoedd leol yn diflannu yn gyffredinol ym mhob man o'r byd, mae'n rhoi pleser enfawr i ni [gweld] bod y Gymraeg yn cryfhau"

Yn dechnegol mae Manaweg yn gwneud yn lawer gwell na Gaeleg yr Alban oherwydd ieuenctid ei ddefnyddwyr a chanran o'i boblogaeth (tua 2% yn erbyn 0.6%).Mae 'na cylch o bobl sy'n defnyddio'r Fanaweg yn ddyddiol ond mae'r rhan fwyaf o'i siaradwyr yn eto ifainc (fel arfer, dydy eu rhieni ddim yn siarad yn mor rhugl neu o gwbwl felly rhaid i ni aros am mwy o teuluoedd wrth-Fanaweg yn y dyfodol). Sut bynnag mae delwedd yr iaith ar ôl gweddill y byd yn ofnadwy o wallus, i ddeud y lleiaf...dyna problem yr iaith. Dim cyhoeddusrwydd o gwbwl. A fel dysgwr Manaweg yng Nghanada, dach chi ddim eisiau gwybod pa fath o crap dwi'n clywed amdani weithiau...
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai