O'r Houston Chronicle

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

O'r Houston Chronicle

Postiogan Hazel » Iau 31 Gor 2008 1:54 pm

Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: O'r Houston Chronicle

Postiogan Mr Gasyth » Iau 31 Gor 2008 2:14 pm

Rwy wedi pendroni droeso ysgwnni sawl ffordd sydd yna o ddweud 'yes' a 'no' yn Gymraeg. Ydi'r amrywiaeth yma o ddweud 'ia' a 'na' yn unigryw i'r Gymraeg? Siwr mod i'n cofio gweld llyfr yn Llyfrgell y Dre Dinbych ar y pwnc yma a roedd o mor drwchus a Beibl William Morgan.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: O'r Houston Chronicle

Postiogan Hazel » Iau 31 Gor 2008 2:31 pm

yes = aoo'

Gwêl yma: http://library.thinkquest.org/J002073F/ ... nguage.htm

Dw i'n cofio y roedd Navajo a Chymraeg yn defnyddio am iaithoedd cod yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: O'r Houston Chronicle

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 31 Gor 2008 3:16 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Rwy wedi pendroni droeso ysgwnni sawl ffordd sydd yna o ddweud 'yes' a 'no' yn Gymraeg. Ydi'r amrywiaeth yma o ddweud 'ia' a 'na' yn unigryw i'r Gymraeg? Siwr mod i'n cofio gweld llyfr yn Llyfrgell y Dre Dinbych ar y pwnc yma a roedd o mor drwchus a Beibl William Morgan.


Mae gen i deimlad bod mwy i'w cael, ond teimlad ydi hwnnw'n unig - tybed a rhai o'r ieithoedd Celtaidd sy'n gwneud hyn? Dwi'n gwybod bod llawer o ieithoedd llai gyda ffyrdd eithriadol o gymhleth o adeiladu a chreu geiriau ar y pryd ac yn fyrfyfyr, efallai mai un ohonyn nhw dwi'n meddwl am.

Jyst yn ochr-nodyn (ro'n i'n meddwl am hyn bora 'ma am ryw reswm) beth fyddai'r cyfieithiad Saesneg am 'ia/ie'? H.y. yndw = yes I am, ydi = yes it is a.y.b.?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: O'r Houston Chronicle

Postiogan Mr Gasyth » Iau 31 Gor 2008 3:55 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Jyst yn ochr-nodyn (ro'n i'n meddwl am hyn bora 'ma am ryw reswm) beth fyddai'r cyfieithiad Saesneg am 'ia/ie'? H.y. yndw = yes I am, ydi = yes it is a.y.b.?


wedi meddwl am y peth am lawer yn rhy hir, dwi di dod i'r casgliad ei fod yn dibynnu ar y cyd-destun a fod ia yn pontio amser a phersonnau!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: O'r Houston Chronicle

Postiogan Seonaidh/Sioni » Iau 31 Gor 2008 8:46 pm

C: Aeth hi heibio'r bore 'ma?
A: Do | Naddo

Eitha syml ydy hynny. Amser gorffennol => Do | Naddo - yn y Gymraeg. Ond yn yr Aeleg (ac dw i'n credu i hyn fod yn wir am y Gernyweg hithau) rhaid ailadrodd y ferf, e.e.

C: Am faca thu e? (A welaist ti o?)
F: Chunnaic (Do, "Gwelais") | Chan fhaca (Naddo, "Na welais")

C: An do rinn e sin? (A wnaeth o hynny?)
F: Rinn (Do, "Gwnaeth") | Cha do rinn (Naddo, "Na wnaeth")

Ac, wrth gwrs, mae gan yr Aeleg amryw i "ie"-eiriau yn y presennol hefyd, e.e.

C: An e teagasg a th' annad? (Ai athro wyt ti?)
A: 'S e (Ie) | Chan e (Nage)

C: A bheil iad a' tighinn? (Ydyn hwn'n dod?)
F: Tha (Ydyn) | Chan eil (Nag ydyn)

C: An robh sinn an sin? (Oedden ni yno?)
F: Bha (Oedden) | Cha robh (Nag oedden)

Felly, efallai fod yr Aeleg yn fwy cymhleth na'r Gymraeg o ran atebion cadarnhaol/negyddol. Ond mae'n symlach o ran ffurfiau'r ferf - mae "tha" yn golygu yr wyf, yr wyt, y mae, yr ydym, yr ydych ac yr ydynt, mae "bha" yn golygu yr oeddwn ... yr oeddynt, mae "bidh" yn golygu byddaf ... byddant, mae "Chunnaic" yn golygu gwelais ... gwelsant (ond "Am faca" mewn cwesitwn, "Chan fhaca" mewn ateb negyddol, "Nach faca" mewn cwestiwn negyddol).
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai