gan Ar Roue » Llun 22 Medi 2008 11:41 am
Mae gan yr Alban sianel Gaeleg o'r diwedd. Fe rhoddodd newyddion S4C ychydig o sylwi i'r lansiad ac roedd yna ddarn eithaf hir yn “ The Scotaman” ar fore dydd y lansiad.
Serch hynny mae gennyf ddau ffrind yn yr Alban er nad ydynt yn siarad y Gaeleg maent yn aml yn gwylio rhaglenni yn yr iaith. Bu imi yn siarad a hwy ar y ffon amser te dydd Gwener a ni wyddai yr un ohonynt fod y lansiad yn digwydd.Ffoniodd un i ddweud fod y rhaglenni yn eithaf da, beth bynnag yn well nag oedd ar y sianeli eraill.
Dywedir os yw BBC Alba am lwyddo mae rhaid denu gwylwyr di-Aeleg, mae'r cynulleidfa yna nid yn unig yn yr Alban ond tu hwnt ond rhaid iddynt gael wybod am y sianel yn y lle cyntaf.
Rwyf yn cwrdd yn aml a Cymry yn Lloegr na wyddant y gallant gael S4C ar Sky ond iddynt rhoi alwad i S4C a gofyn iddyn hwy eu rhoid ar rhestr derbynwyr.
Mae'n warthus nad yw y sianel newydd ar gael ar Freeview, trwy fethu a wneud hyn maent yn amddifadu nifer o siaradwyr yr iaith o'r cyfle i weld y rhaglenni. Digon hawdd dweud ei fod ar gael ar Sky ond nid pawb sydd a'r modd i dalu yn fisol amdano. Yn sicr bu nifer yn troi at deledu lloeren a bydd Sky yn ddiolchgar i'r BBC am eu cymorth i hybu eu busnes ond erys eraill heb y rhaglenni a dim gostyngiad iddynt ym mhris y drwydded gwylio.
Eleni rwyf yn mynd ati o ddifri i ddysgu'r Aeleg wedi ymaelodi a'r Cwrs Ryngrwyd, Sabhal Mòr Ostaig ac edrachaf ymlaen at wylio y rhaglenni Aeleg ar y rhyngrwyd
Cofiwch ddweud wrth bawb am y sianel newydd mae rhaid i'r sianel lwyddo.