Lansiad BBC Alba 19eg o Fedi

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Lansiad BBC Alba 19eg o Fedi

Postiogan Lorn » Maw 02 Medi 2008 7:51 pm

O'r diwedd bydd yr Iaith Aeleg yn yr Alban yn cael eu sianel eu hunain ar y 19eg o Fedi.

Mae i'w weld eisoes ar sianel 168 ar Sky i unrhyw rai sydd a diddordeb. Ar hyn o bryd mae rhai pethau'n cael eu dangos fyddai fel arall ar BBC 2 yr Alban fel Rapal a rhyw gartwn o'r enw Sailidh Mailidh (tybed be di hwnnw yn Gymraeg :D ) ond bydd pethau gwreiddiol yn dechrau o'r 19eg.

Hen bryd!
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Lansiad BBC Alba 19eg o Fedi

Postiogan Seonaidh/Sioni » Maw 02 Medi 2008 8:07 pm

Aidh - seann uaine gu dearbh. (Ie, hen bryd yn wir). Ond does gen i ddim bocs, dim Skye TV, ac mae ofn arna i byddyn ni'n colli'r gwasanaeth Gaeleg ar sianeli BBC1, BBC2 ac ITV. Faint o raglenni teledu Cymraeg sy ddim ar S4C?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Lansiad BBC Alba 19eg o Fedi

Postiogan Lorn » Maw 02 Medi 2008 8:40 pm

Wel os wyt ti yn yr Alban swn i'n meddwl bydd ar gael ar Freeview hefyd felly paid a poeni!

Ac oni bai bod yr ynys di lansio'u gwasanaeth teledu eu hunain dwi'n amau mae Skye ydy'r ffurf cywir ! :gwyrdd:
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Lansiad BBC Alba 19eg o Fedi

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 04 Medi 2008 12:36 am

Newyddion ofnadwy o dda ond dwi'n tipyn rhy bell i gael y sianal a sgen i ddim teledu chwaith. :lol: Dan ni angen sianal Canadaidd, efellai mewn canrif, os dan ni'n lwcws.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Lansiad BBC Alba 19eg o Fedi

Postiogan Ar odre'r Moelwyn » Iau 11 Medi 2008 8:57 am

Yn anffodus ni fydd BBC Alba ar gael ar Freeview hyd yn oed yn yr Alban, ar y dechrau beth bynnag, dim ond ar Sky (sianel 168), Freesat a Virgin Media. Mae hyn yn bechod, yn sicr ac roedd dipyn o gwyno am hyn, ac wrth reswm. Yr ofn yw y bydd y sianel newydd mor anodd i’w derbyn fel na fydd llawer yn gwylio.

Y peth pwysig yw fod cymaint o bobl â phosibl yn gwylio’r rhaglenni. Dwi wedi safio’r sianel fel un o fy ffefrynnau ar Sky heddiw, a dwi’n edrych ymlaen yn arw at weld y rhaglenni, a gwella fy Ngaeleg!
Ar odre'r Moelwyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Sul 10 Chw 2008 4:13 pm

Re: Marwolaeth BBC Gaeleg 19eg o Fedi

Postiogan Seonaidh/Sioni » Iau 11 Medi 2008 9:11 pm

A pha obaith i ni'r deinosoriaid heb Skye TV sy'n digwydd byw yn yr Alban ac yn ymddiddori yn yr Aeleg? Bydda i'n talu'r drwydded bob blwyddyn ar direct debit, heb gyfle i weld rhaglenni Cymraeg - ac rwan efallai heb gyfle i weld rhaglenni Gaeleg chwaith? Wel, o leiaf mae gen i radio sy'n derbyn Rèidio nan Gàidheal...
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Lansiad BBC Alba 19eg o Fedi

Postiogan Ar Roue » Mer 17 Medi 2008 3:51 pm

Dyma cam ymlaen i'r Aeleg, gobeithio y bydd S4C yn rhoi sylw i'r lansiad.

Dywedir yn y wasg y bu rhai rhagleni ar gael ar y we. Ymddengys fod pryd a sut yn gyfrinach mawr.

Beth sydd yn fy synnu nad oes llawer o son am y gwasanaeth newydd ar wefan BBC Alba a llai byth ar wefan Bòrd na Gàidhlig (Bwrdd iaith yr Alban).

Bob llwyddiant i BBC Alba.
Rhithffurf defnyddiwr
Ar Roue
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Maw 23 Ion 2007 2:53 pm
Lleoliad: LLOEGR

Re: Lansiad BBC Alba 19eg o Fedi

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 17 Medi 2008 6:07 pm

Bòrd na Gàidhlig??? Dyna fwrdd heb ei ariannu'n iawn, heb ddigonedd o staff, yn brysur iawn efo ceisio perswadio Comhairle nan Eilean Iar a Phàrlamaid na h-Alba i gynhyrchu planaichean na Gàidhlig... A chi'n disgwyl iddyn nhw hysbysebu Teledu Talu Gaeleg ar eu gwefan? Pryd bydd ganddyn nhw ysbaid i anadlu, efallai.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Lansiad BBC Alba 19eg o Fedi

Postiogan Lorn » Sad 20 Medi 2008 7:43 am

Mi fuodd y lansiad neithiwr am 9 a rhaid i mi ddeud o be welais i ohono (y rhaglen cyntaf) mi oedd o'n reit da. Licio Skipnnish felly oedd hynny'n bonus. Di recordio'r gweddill felly mi welai nhw eto.

Cytuno hefo Ar Roue bod ti'n siom nad oedd mwy o sylw wedi ei roi i'r lansiad yn enwedig gan y BBC a'r Bòrd na Gàidhlig ond o be dwi wedi ei weld mae dal cred cryf mai dim ond siaradwyr Gaeleg fyddai a diddordeb yn y math yma o stori a nid y boblogaeth ehangach.
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Lladd teledu Gaeleg rhydd 19eg o Fedi

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 20 Medi 2008 8:48 pm

Wel, mi welais i dipyn hefyd - gan ei fod ar BBC2. Ond ar ol neithiwr, a finnau heb Skye neu deledu talu am y pryd, pa faint o raglenni Gaeleg fydd ar BBC1, BBC2, ITV mwyach?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron