Tudalen 2 o 2

Re: Lansiad BBC Alba 19eg o Fedi

PostioPostiwyd: Sul 21 Medi 2008 7:27 am
gan Lorn
Mi fydd rhagleni fel Rapal yn parhau i gael eu dangos ar BBC2 yr Alban yn ogystal ag ar BBC Alba, ond dwi erioed di dod ar draws unrhyw ragleni Gaeleg ar BBC 1 Yr Alban a prin iawn ar STV ond allai'm gweld sut bydd allbwn prin Gaeleg STV yn cael ei effeithio gan y sianel BBC Alba.

A does dim agen i ti gael teledu Sky, mi elli hefyd gael Freesat sef fersiwn lloeren o Freeview.

Re: Lansiad BBC Alba 19eg o Fedi

PostioPostiwyd: Sul 21 Medi 2008 10:45 pm
gan Seonaidh/Sioni
Wel, mi welais innau ac fy mab i "Aiteal" heno ar FBC2 - gobeithio fod ti'n iawn. Onid ydy "Eorpa" ar FBC1? Sai'n well gen i petasen nhw wedi rhoi'r sianel newydd ar Sianel 4, tipyn fel yng Nghymru.

Re: Lansiad BBC Alba 19eg o Fedi

PostioPostiwyd: Llun 22 Medi 2008 10:33 am
gan Lorn
Na dwi'n siwr mae ar BBC 2 yr Alban mae Eorpa hefyd, oni bai ei fod yn cael ei ail ddangos.

O ran cael y sianel yn lle Sianel 4 fel yma yng Nghymru dim ond am ychydig o flynyddoedd eraill bydd y sefyllfa yma'n parhau beth bynnag. Ar y llwyfanau digidol mae S4C a Channel 4 ochr yn ochr.

Re: Lansiad BBC Alba 19eg o Fedi

PostioPostiwyd: Llun 22 Medi 2008 11:41 am
gan Ar Roue
Mae gan yr Alban sianel Gaeleg o'r diwedd. Fe rhoddodd newyddion S4C ychydig o sylwi i'r lansiad ac roedd yna ddarn eithaf hir yn “ The Scotaman” ar fore dydd y lansiad.

Serch hynny mae gennyf ddau ffrind yn yr Alban er nad ydynt yn siarad y Gaeleg maent yn aml yn gwylio rhaglenni yn yr iaith. Bu imi yn siarad a hwy ar y ffon amser te dydd Gwener a ni wyddai yr un ohonynt fod y lansiad yn digwydd.Ffoniodd un i ddweud fod y rhaglenni yn eithaf da, beth bynnag yn well nag oedd ar y sianeli eraill.

Dywedir os yw BBC Alba am lwyddo mae rhaid denu gwylwyr di-Aeleg, mae'r cynulleidfa yna nid yn unig yn yr Alban ond tu hwnt ond rhaid iddynt gael wybod am y sianel yn y lle cyntaf.

Rwyf yn cwrdd yn aml a Cymry yn Lloegr na wyddant y gallant gael S4C ar Sky ond iddynt rhoi alwad i S4C a gofyn iddyn hwy eu rhoid ar rhestr derbynwyr.

Mae'n warthus nad yw y sianel newydd ar gael ar Freeview, trwy fethu a wneud hyn maent yn amddifadu nifer o siaradwyr yr iaith o'r cyfle i weld y rhaglenni. Digon hawdd dweud ei fod ar gael ar Sky ond nid pawb sydd a'r modd i dalu yn fisol amdano. Yn sicr bu nifer yn troi at deledu lloeren a bydd Sky yn ddiolchgar i'r BBC am eu cymorth i hybu eu busnes ond erys eraill heb y rhaglenni a dim gostyngiad iddynt ym mhris y drwydded gwylio.

Eleni rwyf yn mynd ati o ddifri i ddysgu'r Aeleg wedi ymaelodi a'r Cwrs Ryngrwyd, Sabhal Mòr Ostaig ac edrachaf ymlaen at wylio y rhaglenni Aeleg ar y rhyngrwyd

Cofiwch ddweud wrth bawb am y sianel newydd mae rhaid i'r sianel lwyddo.