gan adamjones416 » Maw 23 Rhag 2008 1:03 pm
Wel Shwmae, Dydh Da, Salud, Dia dhuit, Ciad amar ata sibh?
Rwy'n siarad Cymraeg yn amlwg yn Rhugl - Cymraeg yw'r mamiaith
Saesneg yn rhugl ond dwi'n ffeindio siarad mewn achlysuron cyhoeddus yn anodd iawn i ddweud y gwir
Affricaans yn rhugl, Teulu tad-cu yn tarddu o Dde'r Affrig ac felly cefais fy magu yn Affricaans gyda'm tad-cu
Iseldireg am ei bod mor debyg i Affricaans, medraf deall iseldireg a'i siarad ond dwi'm yn siarad yn berffaith o achos y dylanwad affricaneg sydd arna i.
Almaeneg yn yr ysgol - Gwneud cwrs tgau dwi'm yn rhugl ond dwi'n gallu siarad Cryn dipyn, Gallwn ddweud yr un peth am Sbaeneg ond nid yn yr ysgol yn hytrach gartref ar y we a llyfrau ayyb.
Wedyn mae'n dod i'r Ffrangeg, Gwyddeleg, Cernyweg, Pwyleg, Rwsieg, Tswlw a Tsieceg lle medraf ddweud ychydig ond dwi ffaelu cael sgwrs ddwys yn yr ieithoedd yma. Dwi hefyd yn gwybod ychydig o eiriau Gaeleg yr Alban, Llydaweg, Basgeg, Ffrisieg, Xhosa, Setswana, Swahili, Norwyeg, Swedeg, Daneg, Eidaleg a Lladin.
Dwi'n hoffi ieithoedd a fy uchelgais yw i fod yn athro Gymraeg a ieithoedd modern neu gyfieithydd proffesiynol.
Citsh yn y goc yw pegi, wp hi mewn yn stêdi, tynn hi fas ar ôl gal flas a walle gei di fabi