Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

Postiogan Aran » Llun 05 Ion 2009 2:48 pm

Wel am gasgliad difyr o bobl ac ieithoedd!

Saesneg ydy fy mam iaith i, ond Cymraeg fy iaith bob dydd. Wedyn, dw i'n dechrau cyrraedd i rywle efo'r Sbaeneg, sef fy iaith darged bresennol...:D Dyna'r unig rhai dw i'n medru cynnal sgwrs ynddyn nhw ar y funud.

Fues i (ar adegau gwahanol) yn medru cynnal rhyw fath o sgwrs yn yr Eidaleg, Ffrangeg, Thai, Shona ac Arabeg, ond maen nhw wedi hen ddiflannu gen i erbyn hyn. Dw i'n hoff iawn o Isel-Deureg, Affrikaans, Almaeneg a Rwseg, ond dim ond efo chydig bach o eiriau yma ac acw ynddyn nhw - 'run peth efo Basgeg, Gwyddeleg a Gaidhlig. Licio smalio bod fi am ddysgu nhw rhyw ddydd...:winc:

A gen i fymryn o'r Llydaweg - wedi bod yn addo dysgu hi ers blynyddoedd, ond byth yn cyrraedd dim pellach na mynychu ambell cwrs penwythnos... :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

Postiogan Gwenci Ddrwg » Llun 05 Ion 2009 9:42 pm

Aran: waw oes na unrhyw ieithoedd yn Ewrop ti heb geisio?
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

Postiogan Josgin » Iau 08 Ion 2009 9:00 pm

Cymraeg - mamiaith.
Saesneg pryd mae rhaid .
Ffrangeg pryd mae rhaid .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 09 Ion 2009 9:24 am

Cymraeg yn rhugl, ac mi fedra i siarad cryn dipyn o Ffrangeg pan fydd 'na Ffrancwyr o gwmpas.

Mi fedraf siarad Saesneg yn berffaith, ond yn dewis peidio.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

Postiogan Aran » Iau 15 Ion 2009 5:36 pm

Gwenci Ddrwg a ddywedodd:Aran: waw oes na unrhyw ieithoedd yn Ewrop ti heb geisio?


Duwcs, 'mond potsian dw i'n gwneud - dim ond Eidaleg a Sbaeneg dw i erioed wedi cyrraedd i rywle hefo nhw, a rwan yn cymysgu'r ddwy yn ddifrifol... pan dw i'n deud 'chydig bach o eiriau' dw i wirioneddol yn ei feddwl!... :winc:

Fyswn i wrth fy modd yn cael y Ffrangeg yn rhugl fatha chdi - a pam sgen ti'r Fanaweg? Mae hyna'n ddiddorol iawn...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

Postiogan Kez » Sul 18 Ion 2009 4:34 pm

Aran a ddywedodd:
Gwenci Ddrwg a ddywedodd:Aran: waw oes na unrhyw ieithoedd yn Ewrop ti heb geisio?


Duwcs, 'mond potsian dw i'n gwneud - dim ond Eidaleg a Sbaeneg dw i erioed wedi cyrraedd i rywle hefo nhw, a rwan yn cymysgu'r ddwy yn ddifrifol...


Cefais yr un broblem; astudio Sbaeneg er cyrraedd Prifysgol ac wedyn newid i Eidaleg am bo fi ddim yn lico'r darlithwyr Sbaeneg. Cwmpo rhwng dwy stol ar bob cyfle a chymysgu ar bob cownt fu fy hanes.

Dysgais Sbaeneg yn iawn trwy amgylchiadau wedyn a'i hoelio i ryw raddau - ac ma'n agor y drysau i'r chwaer-ieithoedd eraill. Fy nghyngor i yw i ddysgu un iaith yn drwyadl ac fe ddaw dysgu'r chwaer-iaith yn rhwyddach o lawer - heb y cymysgu sy'n anorfod os wyt ti'n hanner dysgu yr un a'r llall ar yr un pryd.

Dyw hyn ddim yn broblem gyda rhai ieithoedd, ond o ran yr ieithoedd Romawns (heblaw am Ffrangeg o bosibl), gwell dysgu un cyn mynd at y llall.

Wrth gwrw, cyngor i ddynon yw hwn - ma menwod yn gallu aml-dasgio :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

Postiogan Aderyn Coch » Sul 18 Ion 2009 9:45 pm

Saesneg (wrth gwrs)
Sbaeneg - da iawn
Portiwgaleg - da, achos bod hi'n deybg iawn i Sbaneg

Llawer o ieithoedd eraill hefyd (bachigion) - Almaeneg, Swedeg, Lithwaneg, Tyrceg, Ffinneg, Japaneg, Basgeg...
Mae'n uwch na 9000!
Rhithffurf defnyddiwr
Aderyn Coch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Gwe 19 Medi 2008 7:46 pm
Lleoliad: Lerpwl/Cilgwri

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

Postiogan Macsen » Llun 19 Ion 2009 12:36 pm

Cofi, dipyn bach o Hwntw
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

Postiogan Orcloth » Llun 19 Ion 2009 1:16 pm

Ha! Dwi'n falch o weld nad fi di'r unig un "thic" yn fama! Brolio ma nhw, ta be? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

Postiogan Aran » Iau 22 Ion 2009 4:25 pm

Kez a ddywedodd:Dysgais Sbaeneg yn iawn trwy amgylchiadau wedyn a'i hoelio i ryw raddau - ac ma'n agor y drysau i'r chwaer-ieithoedd eraill. Fy nghyngor i yw i ddysgu un iaith yn drwyadl ac fe ddaw dysgu'r chwaer-iaith yn rhwyddach o lawer - heb y cymysgu sy'n anorfod os wyt ti'n hanner dysgu yr un a'r llall ar yr un pryd.


Estoy seguro que tienes razon (o necesito el subjunctivo alli?! odio el subjunctivo) - lo que es dificil para mi es que me gusta mucho el italiano, y quiero mucho aprenderla por la segunda vez, y no tengo bastante, ym, hunan-reolaeth para esperar...

Pero como dices, debo esperar, o no voy a hablar ningun otra idioma bien. Quizas que voy a hacerlo bien esta vez...

Al mismo tiempo, sin embargo, es una broma buena cuando digo palabras italianas hablando castellano...:D
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

NôlNesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron