Wel am gasgliad difyr o bobl ac ieithoedd!
Saesneg ydy fy mam iaith i, ond Cymraeg fy iaith bob dydd. Wedyn, dw i'n dechrau cyrraedd i rywle efo'r Sbaeneg, sef fy iaith darged bresennol... Dyna'r unig rhai dw i'n medru cynnal sgwrs ynddyn nhw ar y funud.
Fues i (ar adegau gwahanol) yn medru cynnal rhyw fath o sgwrs yn yr Eidaleg, Ffrangeg, Thai, Shona ac Arabeg, ond maen nhw wedi hen ddiflannu gen i erbyn hyn. Dw i'n hoff iawn o Isel-Deureg, Affrikaans, Almaeneg a Rwseg, ond dim ond efo chydig bach o eiriau yma ac acw ynddyn nhw - 'run peth efo Basgeg, Gwyddeleg a Gaidhlig. Licio smalio bod fi am ddysgu nhw rhyw ddydd...
A gen i fymryn o'r Llydaweg - wedi bod yn addo dysgu hi ers blynyddoedd, ond byth yn cyrraedd dim pellach na mynychu ambell cwrs penwythnos...