Tudalen 1 o 4

Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

PostioPostiwyd: Gwe 19 Rhag 2008 10:48 pm
gan Lughaidh
Helo

W i 'n newydd fan hyn, Llydawr ydw i a dydy 'Nghymraeg i ddim yn rhy dda... ond w i 'n meddwl byddwch chi 'neall i beth bynnag...
Felly, pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad ? Pam dych chi wedi eu dysgu nhw ?

Finnau sy'n siarad Ffrangeg, Llydaweg (amryw dafodieithoedd), Gwyddeleg a Saesneg. W i 'n gwybod yn eitha da Gaeleg yr Alban hefyd, a thipyn bach o Gymraeg, o Gernyweg ac o Fanaweg. A thipyn bach o ieithoedd eraill ond dw i ddim yn gallu eu siarad nhw. I sgwenny yn Gymraeg fan hyn w i angen 'ngeiriadur i, ac w i angen 'ngramadeg i hefyd weithiau... :?

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2008 12:26 pm
gan Llefenni
Croeso i ti Lughaidh!

Dwi'n wael iawn - dim ond Saesneg, mymryn o Ffrangeg a digon o Roegaidd i beidio codi gwrychyn pan dwi'n mynd i'r wlad hynod yna ar fy ngwyliau :wps:

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

PostioPostiwyd: Sul 21 Rhag 2008 12:16 am
gan Seonaidh/Sioni
Lughaidh a ddywedodd:Finnau sy'n siarad Ffrangeg, Llydaweg (amryw dafodieithoedd), Gwyddeleg a Saesneg. W i 'n gwybod yn eitha da Gaeleg yr Alban hefyd, a thipyn bach o Gymraeg, o Gernyweg ac o Fanaweg. A thipyn bach o ieithoedd eraill ond dw i ddim yn gallu eu siarad nhw. I sgwenny yn Gymraeg fan hyn w i angen 'ngeiriadur i, ac w i angen 'ngramadeg i hefyd weithiau... :?

Uill, fàilte dhut, a Lughaidh. Carson a tha ainm Gàidhlig ortsa? An e "Louis" an t-ainm a th' ort? Mise...tha Cuimris agam (gu dearbh), beagan Coirnis is Breatnais, Beurla, Francais, Spàinnis, Gàidhlig na h-Alba, beagan Gàidhlig Mhannainn is Nirribhis. Mar a tha iad ag ràdh san òran "Guantanamera", ..."The words mean..."

Wel, croeso i ti Lewis. Pam mae enw Gaeleg arnot (math o fynegiant yn yr Aeleg ydi hyn)? Onid "Louis" d'enw di? Myfi...rw i'n medru Cymraeg (wrth gwrs), ychydig Gernyweg a Llydaweg, Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Gaeleg yr Alban, ychydig Aeleg Manaw a Norwyeg. Fel maen nhw'n deud yn y gan "Guantanamera", ..."Las palabras senyaran..."

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

PostioPostiwyd: Sul 21 Rhag 2008 7:03 pm
gan Gwenci Ddrwg
Ffrangeg yn rhugl, Saesneg yn rhugl, medru scrifennu a darllen Manaweg a Chymraeg, tipyn o Aeleg efo geiriadur, rhyw geiriau o Lydaweg, Lladin sylfaenol, medru darllen Occitaneg ond dim mwy. Mewn gwirionedd Ffrangeg ydy'r unig iaith dwi'n medru siarad yn ddyddiol heblaw am Saesneg. Eironig go iawn. Am fy rhesymau, mae Ffrangeg yn ddefnyddiol iawn i gael gwaith yma, mamiaith fy nain hefyd ond di hi ddim yn ei siarad gormod y dyddiau ma, mae gen i ffrindiau sy'n byw yn Ffrainc hefyd (ayyb). Ddaeth rhai o fy hynafiaid o'r Alban ac o Ynys Manaw ac o'n i eisiau dysgu'r hen iaith, yn sylfaenol, felly ddysgais i'r rhain.

Fanaweg

Yindissagh whooinney c'raad dynsee oo ee dy jeeragh, er lhinney foddee? Vel enney aym ayd? Ta mee shickyr dy vaik mee yn far-ennym ort raad erbee. Quevenos, ny row eshyn peiagh ennagh elley?

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2008 12:31 pm
gan Gowpi
Croeso i'r maes! Gobeithio y cei ddigonedd o gyfle i ymarfer dy Gymraeg yma felly!

Cymraeg - fy mamiaith (rhugl)
Saesneg - dylanwad (rhugl)
Ffrangeg - ysgol (dod i ben)
Llydaweg - blwyddyn cyntaf prifysgol (prin iawn)
Hebraeg - byw yn Israel am hanner blwyddyn (prin iawn)
Mandarin - byw yn China am 2 flynedd (dod i ben)
Sbaeneg - wrthi'n ei dysgu ar y foment gan mai dyma'r iaith harddaf i'r glust yn fy marn i, a dwi am ymweld De America rhywbryd yn fy mywyd!

Wy mwy fel y cymeriad Salvatore yn 'The name of the Rose' yn fwy na dim :winc:

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

PostioPostiwyd: Maw 23 Rhag 2008 1:03 pm
gan adamjones416
Wel Shwmae, Dydh Da, Salud, Dia dhuit, Ciad amar ata sibh?

Rwy'n siarad Cymraeg yn amlwg yn Rhugl - Cymraeg yw'r mamiaith
Saesneg yn rhugl ond dwi'n ffeindio siarad mewn achlysuron cyhoeddus yn anodd iawn i ddweud y gwir
Affricaans yn rhugl, Teulu tad-cu yn tarddu o Dde'r Affrig ac felly cefais fy magu yn Affricaans gyda'm tad-cu
Iseldireg am ei bod mor debyg i Affricaans, medraf deall iseldireg a'i siarad ond dwi'm yn siarad yn berffaith o achos y dylanwad affricaneg sydd arna i.
Almaeneg yn yr ysgol - Gwneud cwrs tgau dwi'm yn rhugl ond dwi'n gallu siarad Cryn dipyn, Gallwn ddweud yr un peth am Sbaeneg ond nid yn yr ysgol yn hytrach gartref ar y we a llyfrau ayyb.
Wedyn mae'n dod i'r Ffrangeg, Gwyddeleg, Cernyweg, Pwyleg, Rwsieg, Tswlw a Tsieceg lle medraf ddweud ychydig ond dwi ffaelu cael sgwrs ddwys yn yr ieithoedd yma. Dwi hefyd yn gwybod ychydig o eiriau Gaeleg yr Alban, Llydaweg, Basgeg, Ffrisieg, Xhosa, Setswana, Swahili, Norwyeg, Swedeg, Daneg, Eidaleg a Lladin.

Dwi'n hoffi ieithoedd a fy uchelgais yw i fod yn athro Gymraeg a ieithoedd modern neu gyfieithydd proffesiynol.

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

PostioPostiwyd: Maw 23 Rhag 2008 3:42 pm
gan Kez
Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg - full monty
Galisieg - digon tebyg i'r Sbaeneg ifi gal shelffad.
Portiwgaleg - digon tebyg i'r Alisieg sy'n chwaer iaith iddi, ond man nhw'n siarad yn rhy gloi ac ma mwstash gida bron pob menyw o Bortiwgal, felly wi'm yn ei hiwso hi lot.
Catalaneg - eto i gyd yn ddigon tepyg i'r Sbaeneg ifi ei darllin a'i rhyw hannar ddeall ar bapur - swn i'n gallu cal wthad fan leiaf.
Falenseg - Catalaneg yw hon er ei bod hi'n dafodiaith ohoni, ond mae rhywrai yn mynd yn grac iawn os gwetid di 'ny. Ma' mwy o wahaniath rhwnt Cymraeg Dyffryn Teifi a Chwm Sgwt a bod yn onest.
Ffrangeg - digon i ddod i napod rhywun a chal dadl - sydd wastod yn digwdd gida'r basdards di-enid.
Eidaleg - bydda i'n lwcus i gal cusan erbyn hyn ond bach o bractis a symud y breichiau ac fi alla i gyrradd y jacpot.
Cacheg - mamiaith.

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

PostioPostiwyd: Mer 24 Rhag 2008 2:16 pm
gan Lughaidh
Yindissagh whooinney c'raad dynsee oo ee dy jeeragh, er lhinney foddee? Vel enney aym ayd? Ta mee shickyr dy vaik mee yn far-ennym ort raad erbee. Quevenos, ny row eshyn peiagh ennagh elley?


Er lhinney dynsee mee Gaelg. As mish Quevenois er yn orum elley ! Mae yr un bobl ym mhob fforom Celtaidd, w i'n meddwl !

Mae enw Gwyddelig arna i achos mod i'n siarad Gwyddeleg, a mae 'r enw "Lughaidh" 'n debyg i'm gwir enw.

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

PostioPostiwyd: Mer 24 Rhag 2008 3:53 pm
gan yavannadil
Rwsieg (fy mamiath), Cymraeg a Saesneg, a dw i'n dysgu Llydaweg. I ddweud yn wir, mae fy Llydaweg i fel fy Mhwyleg neu Czech neu Srpski: ar ôl tair mlynedd, gallaf i darllen, sgrifennu efo geiriadur a siarad araf iawn :(
Ac wrth gwrth dw i'n deall Wcraineg/Rwsieg Wen ;)

Re: Pa ieithoedd eraill dych chi 'n siarad?

PostioPostiwyd: Iau 25 Rhag 2008 4:51 am
gan Gwenci Ddrwg
Er lhinney dynsee mee Gaelg. As mish Quevenois er yn orum elley ! Mae yr un bobl ym mhob fforom Celtaidd, w i'n meddwl !

Ia. Mae Sionaidh ym mhob man. :lol: Ond wrth gwrs diolch i gymuned uffernol o fach mae'r debygrwydd o feindio pobl gyfarwydd yn uchel go iawn.