Tudalen 1 o 1

Amddiffyn y Llydaweg

PostioPostiwyd: Maw 23 Rhag 2008 12:25 am
gan Ar Roue
Wele lythyr a ymddangosodd ar wefan Cymdeithas Cymru Llydaw

http://cymru-llydaw.blogspot.com/2008/1 ... -wedi.html


]Helpwch amddiffyn y Llydaweg ym mhentref Plougerne

Mae maer plwyf Plougerne wedi penderfynu newid enwau mannau yn y pentref a dileu pob enw Llydaweg yno! Bydd Lostrouc'h e Lila yn troi'n Rue des hortensias, er enghraifft. Gofynnodd i'r grŵp sy'n gweithio ar y cynllun i sicrhau mai Ffrangeg yw pob enw yno, rhywbeth cywilyddus ac yn achos i pryder, a chofio hanes y pentref a'r angen i ddiogelu dyfodol y Llydaweg.

Mae pobl Plougerne'n erfyn ari unrhyw un a all wneud i ysgrifennu i ddangos gwrthwynebiad i'r cynllun.

Dylid ysgrifennu at y maer:
an aotrou Lesven,
Ti-kêr Plougerne,
Rue du verger,
29880 PlougerneBreizh / Llydaw (F)

Re: Amddiffyn y Llydaweg

PostioPostiwyd: Maw 23 Rhag 2008 5:53 am
gan Gwenci Ddrwg
Dwi'm eisiau bod yn pesimistaidd ond pob lwc, bydd ei angen arnoch chi yn erbyn iaith cariad, yr Iaith Lanaf yn y Byd (C) (TM).

Re: Amddiffyn y Llydaweg

PostioPostiwyd: Maw 23 Rhag 2008 8:23 pm
gan Seonaidh/Sioni
Hag setu ar cyfeiriad e-bost:- [url]mairie@plouguerneau.fr[/url]
- rhywbeth i chi ei wneud yn ystod gwyliau Dolig - cofiwch Niemoeller ("Ac ni fu neb ar ol i'm hamddiffyn innau")

Re: Amddiffyn y Llydaweg

PostioPostiwyd: Mer 24 Rhag 2008 4:56 pm
gan Ray Diota
peth od i ddweud - ond ar gyrraedd nol i Gymru glywes i am hyn! dim lot o ffws yn llydaw o be weles i (ddim yn roazhon be bynnag)... ma nhw'n od 'da'u hiaith ma raid i fi weud... :?

Re: Amddiffyn y Llydaweg

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2009 8:57 pm
gan Josgin
Rai blynyddoedd yn ol, fe wnaeth gwenidog addysg Ffrainc wneud ymdrech i gymhathu'r ysgolion Diwan o fewn y system Ffrengig. Bu cryn ddadlau am hyn, ond yr oedd, yn ei hanfod , yn golygu mwy o ddefnydd o Lydaweg o fewn ysgolion eraill.
Yr oedd rhai ysgolion gwladwriaeth i fod yn benodedig 'dwyieithog ' ( dwyieithrwydd o fath gwan iawn, cofier) . Bu ymateb ffyrnig yn erbyn y syniad ymysg carfanau na fyddech yn disgwyl - undebau athrawon , am un (NAUWT yn gryf yn Ffrainc, mae'n rhaid ! ) . Darllenais i feirdd a llenorion drefnu protest yn erbyn y syniad yn St Brieuc . Ni allf ddychmygu protest gan feirdd a llenorion yn erbyn addysg Gymraeg , hyd yn oed yn Gwent .

Re: Amddiffyn y Llydaweg

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2009 9:55 pm
gan Seonaidh/Sioni
Gwir, dym ni ddim yn cael protestiadau yn erbyn yr Aeleg yma yn yr Alban pryd maen nhw agor ysgol gynradd Aeleg newydd (fel a wnaeth Cyngor Glasgau'n ddiweddar) - er gwaetha nad oes ond 1 neu 2% o'n poblogaeth ni'n ei harfer.

Beth yn y byd sy'n bygythu hen Ffrancod Llydaw?

Re: Amddiffyn y Llydaweg

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ion 2009 10:12 am
gan Ar Roue
I ddeall beth oedd safbwynt caredigion y Lydaweg at ymgais y llywodraeth Ffrainc i rheoli ysgolion Diwan, rhaid deall agwedd rhai o wleidyddion Ffrainc tuag at yr ieithoedd rhanbarthol.

Y peth pwysicaf i’r gwladgarwyr Ffrenig yw bod bob dinesydd yn gyfartal a dylid fod gan bob dinesydd yr un hawl,

Gellid tybio felly y byddai rhain yn cefnogi hawl y Llydäwyr i gael addysg a gwasanaethau eraill drwy gyfrwng eu hiaith. Na dim o gwbwl y ddadl yw mai’r hyn mae yr ymgyrchwyr dros yr “ieithoedd rhanbarthol” yn geisio yw mwy o hawliau na gweddill y dinasyddion, sef yr hawl I ddewis pa iaith i’w defnyddio.

Yn ychwanegol ar yr union adeg pan oedd Cyngor Ewrop yn trafod siarter i sicrhau hawliau i siaradwyr “yr ieithoedd llai eu defnydd” newidiwyd cymal dau o gyfansoddiad y wladwriaeth. Gwnaed y Ffrangeg yr unig iaith y gellid ei ddefnyddion yn gyfreithlon ar gyfer addysg, bywyd cyhoeddus ac adloniant.

Mae Ffrainc wedi arwyddo y Siarter Ewropeaidd Ieithoedd Llai eu Defnydd. Byddai hyn wedi rhoi yr un hawl i’r Lydaweg a sydd gan siaradwyr y Gernyweg yng Nghernyw, ond ni all Ffrainc gadarnhau na gweithredu y siarter oherwydd cymal dau.

Geisiwyd newid cymal dau y llynedd ond methiant bu bob ymdrech ond wedi beirniadaeth gan adran o’r Cenhedloedd Unedig newidiwyd cymal arall. Bellach cydnayddi fod yr ieithoedd “rhanbarthol” yn rhan o dreftadaeth Ffrainc.

Doedd y beirdd yr athrawon a’r llenorion ddim yn erbyn addysg dwyieithog ond o blaid y fath o addysg dwyieithog a geir yng Nghymru.

Y tebygrwydd fyddai y byddai’r ysgolion dwyieithog wedi diflannu a dosbarthiadau dwyieithog wedi eu sefydlu yn eu lle o dan y wladwriaeth. A byddai rhai o athrawon sy'n gymwys i ddysgu y Llydaweg wedi eu symud i ysgolion ymhell o Lydaw.