Tudalen 1 o 2

Almaeneg - angen cyfieithiad

PostioPostiwyd: Sad 07 Chw 2009 11:10 am
gan Duw
Dwi'n cyfieithi pecyn cyfrifiadurol yn bresennol, ond roedd y fersiwn Saesneg yn cynnwys y llinell hon (heb ei chyfieithu o'r Almaeneg).

Cyd-destun - rhywbeth i wneud a gallu gwneud rhywbeth gydag erthygl. Mae'r bloc o sylwadau yn son am fywiogi erthyglau, adrodd ar erthyglau ac ati a hawliau syml sydd gan weinyddwyr system i olygu erthyglau. Tries i ddefnyddio geiriaduron ar-lein, ond roedd mwy o ddryswch yma.

Kann gemeldete Artikel veralten

Diolch am unrhyw gymorth.

Re: Almaeneg - angen cyfieithiad

PostioPostiwyd: Sad 07 Chw 2009 5:15 pm
gan Kantorowicz
kann: gall (berf IIIu presennol mynegol - ond mae angen goddrych, sef - rwy'n cymryd - y gweinyddwr)
gemeldete: y cwynwyd amdano [beth yw past participle yn Gymraeg? - ta waeth, mae'n dod o'r ferf 'melden', sef 'cwyno am; report']
Artikel: eg. 'erthygl'
veralten: berf 'dyddio, mynd yn hynafol neu'n amherthnasol; become obsolete'

Dydw i ddim yn deall fy hunan - oes ystyr arall i 'veralten' o bosibl? Ydy e'n golygu "Gall [y gweinyddwr] ddileu erthyglau y cwynir amdanynt"?

Holaf gyfaill yn yr Almaen.

Re: Almaeneg - angen cyfieithiad

PostioPostiwyd: Sad 07 Chw 2009 10:28 pm
gan Duw
Diolch kant. Gwerthfawrogi.

Re: Almaeneg - angen cyfieithiad

PostioPostiwyd: Sad 07 Chw 2009 11:33 pm
gan Hedd Gwynfor
Wel mae'r cyfieithydd arlein yn rhoi: "Can reported articles become obsolete" ond ni'n gwybod pa mor ddibynadwy ydyn nhw!!

Re: Almaeneg - angen cyfieithiad

PostioPostiwyd: Sul 08 Chw 2009 9:30 am
gan Duw
Posib taw dyna yw hi. Er, fel ti'n dweud, dyw'r cyfieithwyr arlein 'ma ddim mor ddibynadwy a hynny. Diolch am cymryd yr amser. Peth gore i mi wneud yw cysylltu a'r awdur dwi'n meddwl.

Re: Almaeneg - angen cyfieithiad

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2009 3:16 pm
gan Kantorowicz
Holais gyfaill yn yr Almaen, ond heb lwyddiant llwyr.

Roedd fy nghynnig o'r blaen yn anghywir: mae 'veralten' yn ferf gyflawn felly nid yw'n bosibl bod iddi wrthrych. Ond beth yw'r ystyr, felly? - wn i ddim yn iawn. Dyma'r ateb ges i ar o^l i'm ffrind ymghynghori a^ ffrind arall sy'n deall compiwtyrs:
mittlerweile habe ich mit jemandem gesprochen, der sich mit der Internet-/Computersprache besser auskennt. Er meint, daß es sich um einen Schreibfehler handelt und es "verwalten" heißen müßte.
Ich hoffe, das bringt Dich weiter.

H.y. gwall teipio sydd yma, a'r ferf a ddylai fod yno yw 'verwalten' ('gweinyddu'). Mae'n bosibl, felly, nad oeddwn i mor bell ohoni, er 'mod i'n anghywir!

Re: Almaeneg - angen cyfieithiad

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2009 7:21 pm
gan Duw
Diolch am eich cymorth, buddiol iawn. Af ati a chyfieithu'n ol yr awgrym. Allai wastad newid e wedyn os yw'n anghywir.

Re: Almaeneg - angen cyfieithiad

PostioPostiwyd: Sad 14 Chw 2009 4:48 am
gan Gwenci Ddrwg
"Can reported articles become obsolete"

Falle bod chi i gyd yn cyfieithu'n rhy uniongrychol. Yn bersonol dwi'm yn siarad Almaeneg o gwbwl, ond falle mai fath o ddeud "reported(complained about) articles may be deleted (moderated/administrated to)" ydy o? Rhyw fath o rhybudd am gynnwys? Ar ol i fi ddarllen tipyn dros y dudalen fuasai hyn yn gwneud synnwyr. :?

Re: Almaeneg - angen cyfieithiad

PostioPostiwyd: Sad 14 Chw 2009 10:48 am
gan Duw
Cytuno Gwen, dyna'r sbin dwi wedi rhoi arni. Diolch am fy fewnbwn. Dwi dal yn aros i'r awdur ddod nol. Dwi'n teimlo fel dweud "twll dy din di" iddo fe, wedi'r cyfan, mwy o cwdos i'w feddalwedd y mwyaf o gyfieithiadau sydd ar gael iddo. :rolio:

Re: Almaeneg - angen cyfieithiad

PostioPostiwyd: Sad 14 Chw 2009 7:46 pm
gan Kantorowicz
Gwenci Ddrwg a ddywedodd:
"Can reported articles become obsolete"

Falle bod chi i gyd yn cyfieithu'n rhy uniongrychol. Yn bersonol dwi'm yn siarad Almaeneg o gwbwl, ond falle mai fath o ddeud "reported(complained about) articles may be deleted (moderated/administrated to)" ydy o? Rhyw fath o rhybudd am gynnwys? Ar ol i fi ddarllen tipyn dros y dudalen fuasai hyn yn gwneud synnwyr. :?


Dyna 'ddywedais innau ar y dechrau!