Tudalen 1 o 3

Arwyddion dwyieithog yn yr Alban

PostioPostiwyd: Maw 10 Maw 2009 9:49 pm
gan Seonaidh/Sioni
Ymddengys fod Llywodraeth yr Alban am atal rhag godi arwyddion dwyieithog ar ei phriffyrdd am sbel (tan o leiaf 2011) gan fod rhywbeth yn bod efo ffactorau diogelwch - pobl bron yn achosi damweiniau wrth wneud troadau U ar ol methu deall arwydd dwyieithog ac ati.

Beth sy'n digwydd yng Nghymru? Mae arwyddion dwyieithog dros y wlad i gyd. Rwi'n credu fod y stwff am "ddiogelwch" yn rwtsh wedi'w godi gan y rhai wrth-Aeleg.

Efallai gallai rhai ohonoch yn sgwennu at ein Swyddog Trafnidiaeth ni, Stewart Stevenson, gan ddeud nad problem mo hyn yng Nghymru. (Stewart.Stevenson.MSP@Scottish.Parliament.uk)

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Maw 10 Maw 2009 9:50 pm
gan Seonaidh/Sioni
Och aidh, - Wenci Ddrwg - beth am sgwennu am yr arwyddion 2ieithog yng Nghanada?

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Maw 10 Maw 2009 10:02 pm
gan Duw
Wyt ti'n meddwl eu bod yn wrth-Aeleg neu jest am arbed canran o'u cyllid yn yr hinsawdd ariannol 'ma?

Wel, dwi'n gwybod mae digon o Albanwyr Prydeinig yn hollol wrth-Aeleg.

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Mer 11 Maw 2009 9:01 am
gan Seonaidh/Sioni
Duw a ddywedodd:Wyt ti'n meddwl eu bod yn wrth-Aeleg neu jest am arbed canran o'u cyllid yn yr hinsawdd ariannol 'ma?

Wel, dwi'n gwybod mae digon o Albanwyr Prydeinig yn hollol wrth-Aeleg.

A deud y gwir, dw i ddim wedi dod o hyd i lawer o Albanwyr sydd yn erbyn yr Aeleg.

Ces i lythyr (wel, e-bost) gan SS yn honni nad oedd o yn erbyn yr Aeleg o gwbl ond yn ceisio sicrhau nad oedd dwywaith am ddiogelwch arwyddion dwyieithog. Soniodd o ddim am "arbed arian" chwaith (ac, a deud y gwir, does na ddim lot o draul wrth godi arwyddion dwyieithog yn lle rhai unieithog).

Ond dywedodd o hefyd bydd o'n ceisio "accelerate the process" ar ol cael sawl llythyr fel y mau yn ystod y 2 ddiwrnod diwetha. Felly, beth am sgwennu ato fo? Cael rhagor o "accelerate the process", gobeithio!

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Mer 11 Maw 2009 9:17 am
gan Duw
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:A deud y gwir, dw i ddim wedi dod o hyd i lawer o Albanwyr sydd yn erbyn yr Aeleg.


Dwi wedi - diawled afiach - cefnogwyr Rangers o' nhw - nhw a'u Baner yr Undeb - ych a fi, serch hynny roeddent yn datgan eu bod yn falch i fod yn Albanwyr - ond eu 'brand' nhw o Albanwr.

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Mer 11 Maw 2009 10:04 am
gan Hedd Gwynfor
Wnes i ebostio'r MSP Stewart.Stevenson@scotland.gsi.gov.uk (SNP) neithiwr yn cwyno am hyn, ac mae wedi ateb yn syth chwarae teg. Dyma'r ateb:

Dear Hedd Gwynfor,

My letter has been widely misinterpreted.

My intention is that research should robustly and finally entrench the use of Gaelic on road signs.

The Welsh experience is something we would expect to draw upon.

In view of the concerns expressed to me over the last two days I shall seek to accelerate the research.

Kind regards,

Stewart Stevenson

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Mer 11 Maw 2009 9:44 pm
gan Lorn
Duw a ddywedodd:
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:A deud y gwir, dw i ddim wedi dod o hyd i lawer o Albanwyr sydd yn erbyn yr Aeleg.


Dwi wedi - diawled afiach - cefnogwyr Rangers o' nhw - nhw a'u Baner yr Undeb - ych a fi, serch hynny roeddent yn datgan eu bod yn falch i fod yn Albanwyr - ond eu 'brand' nhw o Albanwr.


Duw, ti'n gwneud cam os wyt ti'n ceisio awgrymu mae elfen o fod yn gefnogwr Rangers yw hyn. Does ond angen i ti edrych ar ymddygiad rhai unigolion amlwg o pleidiau'r SSP a Solidarity fel Tommy Sheridan a Gorgeous George Galloway (sydd a chysylltiadau a Solidarity drwy'r SWP) a sydd eu dau yn fwy nag cartrefol yn Parkhead ar brynhawn dydd Sadwrn i weld bod agwedd afiach tuag at yr iaith yn gartefol iawn mewn 'cenedlaetholwyr' honedig hefyd - wedyn mae gen ti'r rottweiler ei hun - Dr John Reid, Cadeirydd Celtic FC. Dyn sydd wedi ei ddyfynnu yn y wasg yn yr Alban yn cwestiynau'r angen am dwyieithrwydd yn yr Alban. Yr hyn sy'n cysylltu'r tri yma ydy eu bod yn debyg iawn i Neil Kinnock ac amryw o rai eraill yng Nghymru o ran eu hagwedd tuag at yr iaith a'u fersiwn nhw o Sosialaeth.

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Mer 11 Maw 2009 9:55 pm
gan Duw
Lorn - cymryd dy bwynt, allai byth a gosod pob cefnogwr Rangers yn yr un twll - alla i ddim ond son am fy mhrofiad i gyda rhyw 12 ohonyn nhw ar noson allan yn Newcastle un tro. Wnaethon nhw droi fy stumog. Bron i ni beni lan tu allan y tafarn i gael 'good old Celtic dust-up' tra roedd y Saeson yn edrych yn hurt arnom (ac yn biefio'u hunain yn foneddigaidd).

Am y lleill - stim ots 'da fi fa dim pel droed maent yn dilyn neu ba blaid gwleidyddol maent yn dilyn - ma digon o'r deimlad gwrth-Aeleg yn yr Alban (ymateb i sylw Sioni).

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Mer 11 Maw 2009 10:06 pm
gan Lorn
Duw a ddywedodd:Lorn - cymryd dy bwynt, allai byth a gosod pob cefnogwr Rangers yn yr un twll - alla i ddim ond son am fy mhrofiad i gyda rhyw 12 ohonyn nhw ar noson allan yn Newcastle un tro. Wnaethon nhw droi fy stumog. Bron i ni beni lan tu allan y tafarn i gael 'good old Celtic dust-up' tra roedd y Saeson yn edrych yn hurt arnom (ac yn biefio'u hunain yn foneddigaidd).

Am y lleill - stim ots 'da fi fa dim pel droed maent yn dilyn neu ba blaid gwleidyddol maent yn dilyn - ma digon o'r deimlad gwrth-Aeleg yn yr Alban (ymateb i sylw Sioni).


Wrth gwrs mae teimlad gwrth Gaeleg i'w gael yno, ond o be dwi wedi ei weld mae llawer ohono'n tarddu mewn rhai ardaloedd o'r teimlad (ac yn wahanol i Gymru mae elfen o gyfiawnhad iddo) nad yw'r iaith Gaeleg yn berthnasol i'w ardal hwy - Gogledd Ddwyrain yr Alban, Dwyrain yr Alban o amgylch ardal Perth a Kinross ble'r ieithoedd Doric a Scots yw'r ieithoedd traddodiadol. Cei di rai mewn ardaloedd wedyn sydd yn (fel yng Nghymru) yn credu bod yr iaith yn beth 'da' ond bod pethau pwysicach i wario pres arno fo.

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Iau 12 Maw 2009 11:13 pm
gan Seonaidh/Sioni
Lorn, rwyt ti'n swnio fel hen Dori gwrth-Aeleg i finnau! Ac yn ceisio codi bai ar y chwith wleidyddol yn lle'r dde. Fel dywedodd duw, nid mater o fod yn chwith na'n dde yw bod dros neu'n erbyn yr Aeleg. A chan mod innau'n byw yn y Frenhiniaeth (Fife), dwi ddim yn cyfarfod yn aml a phobl Glasgau. A deud y gwir, dim ond un person gwrth-Aeleg mod i wedi dod o hyd iddyn nhw yma yn Fife - a hithau'n gefnogydd o'r Toriaid ac yn medru Gaeleg ei hun!

Rwanta, beth am beidio dadlau am bwy, neu am faint o bobl, sy wrth-Aeleg yma ac yn lle hynny gyrru cwyn at Stewart Stevenson er mwyn brysio codiad arwyddion dwyieithog.