Tudalen 2 o 3

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Gwe 13 Maw 2009 9:07 am
gan Lorn
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Lorn, rwyt ti'n swnio fel hen Dori gwrth-Aeleg i finnau! Ac yn ceisio codi bai ar y chwith wleidyddol yn lle'r dde. Fel dywedodd duw, nid mater o fod yn chwith na'n dde yw bod dros neu'n erbyn yr Aeleg. A chan mod innau'n byw yn y Frenhiniaeth (Fife), dwi ddim yn cyfarfod yn aml a phobl Glasgau. A deud y gwir, dim ond un person gwrth-Aeleg mod i wedi dod o hyd iddyn nhw yma yn Fife - a hithau'n gefnogydd o'r Toriaid ac yn medru Gaeleg ei hun!

Rwanta, beth am beidio dadlau am bwy, neu am faint o bobl, sy wrth-Aeleg yma ac yn lle hynny gyrru cwyn at Stewart Stevenson er mwyn brysio codiad arwyddion dwyieithog.


:lol: :lol: :lol:

Sioni, am be ddiawl ti'n mwydro dwed? Tori gwrth Gaeleg? Ar ba sail wyt ti'n dweud hynny? Ydw i'n wrth Gaeleg? Ffyc, nachdw, dwi'n hollol gefnogol. Ydw i'n Dori? Nachdw. Dwi digwydd bod yn cytuno hefo 'Duw' nad mater rhwng dde a chwith ydy'r iaith (er bod traddodiad digon elyniaethus o fewn yr asgell chwith yma yng Nghymru tuag at yr iaith a nid yw'r Alban yn wahanol o ran hynny), tynnu sylw oeddwn i nad oedd o'n fater o Rangers = yn erbyn yr iaith a'r Tic = o blaid yr iaith. Mae Gorgeous George a Champagne Sheridan yn ddau amlwg sy'n profi hyn yn ogystal a John Reid - 3 sy'n gartrefol iawn yn Celtic Park a 3 sy'n elyniaethus iawn i'r iath Gaele y wasg. Ydy'n nhw'n Doriaid? Nachdyn.

Gwell weithiau Sioni i ti feddwl am be ti'n ddeud! :rolio:

A siawns dy fod a llygaid digon agored i wybod nad wyt ti angen mynd i Glasgow i weld cefnogwyr Rangers (neu Celtic) - mae ne ddigon ohonyn nhw yn Fife a pob man arall!

(a gyda'r llaw dwi wedi anfon cwyn at Mr Stevenson ers sawl diwrnod a wedi hen dderbyn ymateb diolch)

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Sad 14 Maw 2009 1:16 pm
gan Seonaidh/Sioni
Dim ond deud on i fod ti'n swnio fel Tori gwrth-Aeleg! Pam rwyt ti'n dal i ddadlau amdani? Wedi dod o hyd i nerf croendenau ydw i? Rw i'n ynddiheuro os felly.

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Sad 14 Maw 2009 2:30 pm
gan Lorn
Y rheswm Sioni fy mod i'n dal i ymateb, ydy gan fod genai berffaith hawl i amddiffyn fy hun gan dy sylwadau gwirion a disail yn fy erbyn i. "Tori Gwrth Gaele". Be ydw i wedi ei ddweud sy'n Wrth Gaeleg? Dim, oherwydd yn syml mae'n bwnc mae gen i ddiddordeb ynddo. A pam Tori? Be sy'n Doriaidd yn yr un dwi wedi ei ddweud? Eto, dim! Mae'n hawdd galw enwau Sioni, mae'n anoddach profi a cyfiawnhau dy hun!

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Sad 14 Maw 2009 9:08 pm
gan Seonaidh/Sioni
Darllen be ddywedais. Paid a chloddio ymhellach neu chei di ddim dianc.

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Sul 15 Maw 2009 5:44 am
gan Lorn
Dwi wedi ei ddarllen Sioni. Ti'n dweud dwywaith fy mod yn swnio fel Tori Gwrth Gaeleg. Wel mae'n dweud cyfrolau dy fod yn gwrthod egluro be sy'n wrth Aeleg am yr hyn dwi di dweud uchod a be sy'n Doriaidd. Fel ddudis i, mae'n hawdd galw enwau ar ddyn Sioni. Cyfiawnhau hynny sy'n anodd.

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Sul 15 Maw 2009 7:46 pm
gan Seonaidh/Sioni
OK Lorn, dyma be ddudaist ti, er enghraifft:-
Lorn a ddywedodd:Duw: "Seonaidh: 'A deud y gwir, dw i ddim wedi dod o hyd i lawer o Albanwyr sydd yn erbyn yr Aeleg.'

Dwi wedi - diawled afiach - cefnogwyr Rangers o' nhw - nhw a'u Baner yr Undeb - ych a fi, serch hynny roeddent yn datgan eu bod yn falch i fod yn Albanwyr - ond eu 'brand' nhw o Albanwr."

Duw, ti'n gwneud cam os wyt ti'n ceisio awgrymu mae elfen o fod yn gefnogwr Rangers yw hyn. Does ond angen i ti edrych ar ymddygiad rhai unigolion amlwg o pleidiau'r SSP a Solidarity fel Tommy Sheridan a Gorgeous George Galloway (sydd a chysylltiadau a Solidarity drwy'r SWP) a sydd eu dau yn fwy nag cartrefol yn Parkhead ar brynhawn dydd Sadwrn i weld bod agwedd afiach tuag at yr iaith yn gartefol iawn mewn 'cenedlaetholwyr' honedig hefyd - wedyn mae gen ti'r rottweiler ei hun - Dr John Reid, Cadeirydd Celtic FC. Dyn sydd wedi ei ddyfynnu yn y wasg yn yr Alban yn cwestiynau'r angen am dwyieithrwydd yn yr Alban. Yr hyn sy'n cysylltu'r tri yma ydy eu bod yn debyg iawn i Neil Kinnock ac amryw o rai eraill yng Nghymru o ran eu hagwedd tuag at yr iaith a'u fersiwn nhw o Sosialaeth.

Rwanta, Yn y darn yna, rwyt ti'n enwi pobl o bleidiau'r Chwith yn unig - ac hefyd yn ceisio "cyfiawnhau" cefnogwyr Rangers, sy ar duedd o gefnogi'r Toriaid. Felly "Rwyt ti'n swnio fel hen Dori".
Lorn a ddywedodd:Duw: "Lorn - cymryd dy bwynt, allai byth a gosod pob cefnogwr Rangers yn yr un twll - alla i ddim ond son am fy mhrofiad i gyda rhyw 12 ohonyn nhw ar noson allan yn Newcastle un tro. Wnaethon nhw droi fy stumog. Bron i ni beni lan tu allan y tafarn i gael 'good old Celtic dust-up' tra roedd y Saeson yn edrych yn hurt arnom (ac yn biefio'u hunain yn foneddigaidd).

Am y lleill - stim ots 'da fi fa dim pel droed maent yn dilyn neu ba blaid gwleidyddol maent yn dilyn - ma digon o'r deimlad gwrth-Aeleg yn yr Alban (ymateb i sylw Sioni)."

Wrth gwrs mae teimlad gwrth Gaeleg i'w gael yno, ond o be dwi wedi ei weld mae llawer ohono'n tarddu mewn rhai ardaloedd o'r teimlad (ac yn wahanol i Gymru mae elfen o gyfiawnhad iddo) nad yw'r iaith Gaeleg yn berthnasol i'w ardal hwy - Gogledd Ddwyrain yr Alban, Dwyrain yr Alban o amgylch ardal Perth a Kinross ble'r ieithoedd Doric a Scots yw'r ieithoedd traddodiadol. Cei di rai mewn ardaloedd wedyn sydd yn (fel yng Nghymru) yn credu bod yr iaith yn beth 'da' ond bod pethau pwysicach i wario pres arno fo.

Ac yma, rwyt ti'n honni nad ydi Gaeleg yn berthnasol i G-Ddn neu Ddn yr Alban - ac hyd yn oed yn son am "Kinross", enw o darddiad Gaeleg. Mae gan yr Alban ddwy iaith swyddogol - Saesneg a Gaeleg - felly mae'r Aeleg yn berthnasol ymhobman yn yr Alban. Fodd bynnag, dyma'r "gwrth Aeleg" i ti.

Hapus rwan?

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Sul 15 Maw 2009 9:40 pm
gan Duw
Beth bynnag plantos, dylai BBC Alba gynyddu exposure yr iaith rhywfaint a gobeithio gwnaiff yr MSPs wneud y penderfyniadau cywir.

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Maw 17 Maw 2009 3:33 pm
gan Seonaidh/Sioni
Gobeithio wir!

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Mer 18 Maw 2009 2:29 pm
gan Lorn
Sioni, does dim yn wrth Aeleg nac yn Doriaidd am hynny oni bai dy fod ag agenda rhyfedd i drio wneud hynny. Derbyn y pwynt am Kinross gan bod yr enw yn gwneud hynny'n amlwg, ond mae'n hysbys bod ardaloedd yn yr Alban ble nad oedd yr iaith wedi cyrraedd - mae gan hyd yn oed y Gymraeg gysylltiadau cryfach a rhai manau yn De. O ran Toriaidd, does dim rhaid i rhywun fod yn Dori i beirniadu Galloway, Sheridan a Reid a'u tebyg! Mewn gwirionedd cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith eu bod yn asgell chwith - eu cysylltiadau a'r Clwb o Barchead (yn enwedig Reid sy'n Gadeirydd arnynt) yng nghyd-destun sylw Duw oedd fy mhwynt i. Credaf ei bod hi'n gywir gwneud hynny - oni bai dy fod yn credu ei bod hi'n iawn bod pobl sydd digwydd bod yn asgell chwith i arddel y math agweddau?

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Sul 22 Maw 2009 5:08 pm
gan Gwenci Ddrwg
Sioni, sori os dwi di methu ddehongli be ddwedes ti, ond plis dweda wrtha i nad wyt ti'n credu yn wir bod pob ceidwadwr eisiau lladd Gaeleg. Yn rhy aml mae'r chwith eisiau honni cefnogaeth i ieithoedd lleiaf ond yn eironig go iawn syniad ceidwadol ydy hyn- fel dwedir yn Saesneg "small 'c' conservative". Eniwe, gwleidyddwr ydy Stevenson a bydd gwleidyddwyr yn neud be mae'r fwyafrif o bleidleiswyr eisiau iddynt neud, dim be sy'n rhesymegol. Os ydy'r fwyafrif yn ffecin hurt...wel...does na ddim gormod i'w neud amdanynt nac oes?

(Mae fy neges cyntaf yn y bwnc wedi'i ddileu am rhyw rheswm...hmmm)