Tudalen 3 o 3

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Sul 22 Maw 2009 8:14 pm
gan Seonaidh/Sioni
O na, dim y cwbl ohonynt, dim ond, efallai, 95%.

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Llun 23 Maw 2009 8:45 pm
gan Gwenci Ddrwg
Wel paid a fod yn paranoid felly...faint o geidwadwyr ti'n nabod yn y lle cynta? Ym mhob dosbarth Gaeleg dwi di cymryd yn Nhoronto mae 'na llawer ohonynt...(ond yn amlwg cyd-ddigwyddiad ydy hyn). Trwy gymdeithasu ceidwadwyr yn awtomatig efo teimladau gwrth-Aeleg ti'n neud dim ond dieithrio cefnogwyr dichonol.

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Llun 23 Maw 2009 9:20 pm
gan Lorn
Ma hynny'n Geilliau llwyr Sioni. Yn anffodus ti'n fwy tebygol o ddod hyd i unigolion a polisiau gwrth Gaeleg a'r Gymraeg o fewn yr asgell chwith traddodiadol, yn sicr o ran yma yng Nghymru. Mae'n siomedig dy fod yn ymddangos dy fod yn barod i wneud esgusodion am hyn oherwydd eu bod yn ymddangos o leiaf fel eu bod yn dod o'r un gwleidyddiaeth a ti.

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Gwe 03 Gor 2009 11:07 pm
gan Ar Roue
Mae cangen Ucheldir Yr Alban o’r undeb Unsain yn ymgyrchu yn erbyn arwyddion ffyrdd dwyieithog yn eu hardal.

Ceir rhagor o fanylion ar http://news.bbc.co.uk/1/hi/scotland/hig ... 129062.stm

Cwynion am agwedd Unsain i :

Liz Mackay ysgrifenyddes Cangen Yr Ucheldir unisonhighland@btconnect.com
Paul O'Shea ysgrifennydd rhanbarth Cymru, cymruwales@unison.co.uk

Digon pitw ydy'r gost o rhoi arwydd yn ddwyieithog o gymharu ar gost treuliau y swyssogion a gellir eu hawlio heb derbyneb am brydiau bwyd e.e.

Re: Arwyddion dwyieithog

PostioPostiwyd: Sad 04 Gor 2009 4:06 pm
gan Duw
Yr hen gastan! Arwyddion dwyieithog = colled swyddi. A ydy cost yr arwyddion wedi cael ei chyhoeddi? Oes sail i'r ddadl?

Re: Arwyddion dwyieithog yn yr Alban

PostioPostiwyd: Sad 04 Gor 2009 6:37 pm
gan Ar Roue
Oes sail i ddadl yr Undeb Unsain ?

Mater o gyfiawnder yw rhoi ei statws haeddiannol i’r Gaeleg.

Mae Unsain yn gyfrwys trwy awgrymu mai i fod yn “wleidyddol gywir” mae’r cyngor yn hybu’r Gaeleg Mae llawer yn credu mai peth drwg yw bod yn “wleidyddol gywir” ac y byddai rhyw rai yn sicr o gefnogi safbwynt yr undeb oherwydd hyn.

Mae Unsain yn hybu cydraddoldeb cyflog rhwng dynion a merched. Ydynt yn wneud hyn i fod yn “wleidyddol gywir” ?
Onid arbedir llawer mwy o arian trwy beidio mynd ymlaen a’r cynllun yma ?

Wrth gwrs mae cyfiawnder a hawliau sylfaenol cymdeithas wâr yn mynnu fod merched yn cael cyflogau cyfartal , a bod gan unigolion hawl i wasanaethau yn eu hiaith.

Dywedir na fyddai gost o gynhyrchu arwyddion dwyieithog dim mwy na £65 yr arwydd ar gyfartaledd, can rhan fechan iawn o’r cyfanswm. Ni gosodir arwydd dwyieithog onid yw’n arwydd sydd newydd sbon neu adnewyddir hen un.

Ychydig iawn o arian mae’r Cyngor yn ei wario ar yr Aeleg mewn gwironedd.

Re: Arwyddion dwyieithog yn yr Alban

PostioPostiwyd: Sad 04 Gor 2009 9:16 pm
gan Duw
Na, gofyn o ni, faint yw cost y cynllun i adnewyddu'r arwyddion? Os oedd swm penodol yna, byddai'n dryloyw. Dwi'n cytuno bod Unsain yn anghywir yma i gymryd hwn fel egwyddor. Dwi ddim yn deall pam nid yw'r SNP/Senedd yr Alban wedi ariannu'r cynlluniau hyn (neu ydyn nhw wedi'n barod?)

Re: Arwyddion dwyieithog yn yr Alban

PostioPostiwyd: Sul 05 Gor 2009 3:46 pm
gan Ar Roue
Mae y gost o rhoi arwyddion dwyieithog ar y ffyrdd mwyaf yn disgyn ar y llywodraeth canolog. Rhaid ceisio caniatâd fel rwyf yn deall fesul ffordd.

Daeth Deddf yr Iaith Aeleg i rym yn 2005, yn unol a’r ddeddf, paratowyd cynllun iaith gan Cyngor Yr Ucheldir a rhoddwyd yr hawl i godi arwyddion dwyieithog ar y ffyrdd sydd yn eu gofal.

Hefyd ar fynegbyst i mannau o ddiddordeb ac ar arwyddion enwi strydoedd.

Ni wneir hyn ond pan bo angen eu adnewyddu, ni chafwyd arian ychwanegol at wneud hyn hytrach mae’n dod o gyllid cynnal a chadw.

Mae Unsain yn yr Ucheldir yn mynnu nad oes arian o gwbwl yn cael ei wario ar yr Aeleg.
Mae’r SNP mewn sefyllfa hanodd, mae wedi wneud llawer mwy er cyn lleuad nac unrhyw blaid arall.

Mae’n beryg pe bai y llywodraeth yn symud yn gyflymach, efallai byddai'r gwrthbleidiau yn gwrthwynebu yn ffyrnig unrhyw beth a wneir dros yr Aeleg.

Re: Arwyddion dwyieithog yn yr Alban

PostioPostiwyd: Llun 06 Gor 2009 7:46 am
gan Seonaidh/Sioni
Duw - Wrth gwrs nad oes sail i'r ddadl - dyn ni'n gwybod hynny.

Os cofia i'n iawn, cafodd Deddf Iaith yr Aeleg ei chefnogi gan bawb yn Holyrood, hyd yn oed y Toriaid. Mae Unison y Ghàidhealtachd well out of line efo pawb, o ran wleidyddiaeth bleidiol. Ac, mae'n ymddangos, mae ei ddatganiadau yn erbyn arwyddion dwyieithog yn erbyn polisiau cenedlaethol Unison yn yr Alban. Mae eisiau rhagor o gwyno - beth am ei ysgrifennydd yn yr Alban:- matt.smith@unison.co.uk (UNISON Scotland, UNISON House, 14 West Campbell Street , Glasgow G2 6RX Tel: 0845 355 0845 Fax: 0141 331 1203)